Datganiad o bolisi trwyddedu
Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn mynnu ein bod yn cyhoeddi datganiad o bolisi trwyddedu bob pum mlynedd. Mae'r polisi'n datgan sut y byddwn yn cyflawni'n swyddogaethau fel yr awdurdod trwyddedu.
Mae'r datganiad yn cwmpasu gwerthu alcohol, cyflenwi alcohol gan glwb neu ar ei ran, darparu adloniant wedi'i reoleiddio a darparu lluniaeth hwyrnos.
Fel rhan o ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, mae'n ofynnol i ni gyhoeddi adroddiadau adolygu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn flynyddol. Mae'r adroddiadau hyn yn dangos ein cynnydd yn erbyn yr amcanion cydraddoldeb ac yn cynnwys manylion am waith ychwanegol rydym wedi'i wneud drwy gydol y flwyddyn.
Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol
I gael mwy o wybodaeth am y Datganiad neu Ddeddf Trwyddedu 2003, cysylltwch â'r Is-adran Drwyddedu ar (01792) 635600 neu e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk.