Toglo gwelededd dewislen symudol

Ddweud eich dweud - Grant Cymorth Tai am Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Os oes angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat arall e.e. print bras, cysylltwch â VAWDASV@abertawe.gov.uk

Ystyr VAWDASV yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n cynnwys trais yn erbyn menywod (a merched), cam-drin domestig, trais rhywiol, aflonyddu rhywiol, anffurfio organau cenhedlu benywod, trais sy'n seiliedig ar anrhydedd, priodas dan orfod, stelcio, masnachu pobl a mathau eraill o drais.

Ein prif nod yn Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Trais Rhywiol Abertawe 2023-2026 yw i holl ddinasyddion Abertawe fod yn ddiogel, yn hapus ac yn iach, a'u bod yn byw heb ofn trais, ecsbloetiaeth, aflonyddu a cham-drin yn eu holl ffyrdd.

Mae Cyngor Abertawe yn y broses o gynnal adolygiad o wasanaethau cymorth a llety trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a ariennir gan y Grant Cymorth Tai.

Mae darpariaeth a ariennir gan y Grant Cymorth Tai yn cynnwys noddfeydd, tai diogel, cyngor a gwybodaeth, allgymorth, cefnogaeth sy'n gysylltiedig â thai yn ôl y galw, diogelwch a mesurau diogelwch.

Diogelu pobl rhag niwed yw un o amcanion lles y cyngor. Mae gan gymunedau rôl bwysig i'w chwarae er mwyn helpu i leihau achosion o VAWDASV a chreu amgylchedd mwy diogel i bawb.

Rydym yn gofyn i'r gymuned rannu ei barn am yr hyn sy'n bwysig yn eich barn chi er mwyn helpu i atal a lleihau VAWDASV, a sicrhau bod y gwasanaethau sydd ar gael yn diwallu anghenion y rheini sy'n profi VAWDASV yn effeithiol.

Bydd yn cymryd tua 5 - 10 munud i lenwi'r arolwg. Ymatebwch erbyn 2 Mehefin 2025

Mynegwch eich barn ar-lein nawr

Holiadur Hawdd ei Ddeall ar gyfer Cymorth Tai i Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (PDF, 3 MB)

Os hoffech gael gwybodaeth bellach, neu os ydych yn cael trafferth yn llenwi'r arolwg ar-lein, e-bostiwch Supporting.People@abertawe.gov.uk

Rydym yn deall y gall trafod y materion hyn fod yn anodd. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn profi cam-drin domestig, mae help ar gael. Ewch i'r dudalen Trais yn y cartref ar wefan Cyngor Abertawe i ddod o hyd i adnoddau am gam-drin domestig a phartneriaid a all helpu.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Mai 2025