Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016: gwybodaeth i denantiaid
Cyflwynwyd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gan Lywodraeth Cymru ar 1 Rhagfyr 2022 ac mae'n effeithio ar bob tenant a landlord yn y sector rhentu cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys ni fel eich landlord a chi fel ein tenant.
Bydd y ddeddf yn:
- symleiddio sawl darn o'r ddeddf tai ac yn creu un fframwaith cyfreithiol
- symleiddio a gwella hawliau a chyfrifoldebau
- am y tro cyntaf bydd yn creu dau fath o gontract:
- Contract diogel: Defnyddir hwn yn lle'r tenantiaethau diogel a roddwyd gan y cyngor. Bydd hefyd yn cymryd lle tenantiaethau sicr a roddwyd gan Gymdeithasau Tai.
- Contract safonol: Mae hyn yn effeithio ar denantiaid mewn llety a rentir yn breifat ond caiff ei ddefnyddio hefyd gan y cyngor a chymdeithasau tai mewn rhai amgylchiadau (e.e. 'contract safonol cyflwyniadol' i denantiaid newydd y cyngor).
Bydd mwy o sicrwydd i bobl sy'n byw yn y sector rhentu preifat.
Sut bydd hyn yn effeithio arnoch chi fel tenant y cyngor?
- Ni fydd eich hawliau cyfreithiol i fyw yn eich cartref yn llai diogel ac ni fydd yn rhaid i chi symud cartref.
- Byddwch yn parhau i dderbyn yr un gwasanaeth gennym ni fel eich landlord.
- Byddwn yn dod yn 'landlord cymunedol', newid i'r term "landlord cymdeithasol'
- Bydd tenantiaid yn dod yn ddeiliad contract.
- Bydd cytundebau tenantiaeth yn dod yn gontractau meddiannaeth
- Bydd hawliau olynu'n cael eu cynyddu - os ydych yn rhannu'ch cartref, caniateir dau olynydd i'r contract, er enghraifft, gŵr neu wraig wedi'i ddilyn gan aelod o'r teulu. Yn ogystal, bydd hawl olynu newydd i ofalwyr yn cael ei chreu
- Cyd-gontractau - gellir ychwanegu deiliaid contract at gontractau meddiannaeth neu eu dileu oddi arnynt heb orfod dod ag un contract i ben a dechrau un arall. Bydd hyn yn gwneud y gwaith o reoli cyd-gontractau'n haws ac yn helpu pobl sy'n dioddef cam-drin domestig drwy ei gwneud yn bosib i droi'r sawl sy'n cam-drin allan o'r cartref
Yr hyn y mae angen ichi ei wneud
Does dim angen i chi wneud unrhyw beth yn awr.
Bydd tenantiaid presennol yn derbyn eu contractau meddiannaeth newydd o fewn chwe mis i 1 Rhagfyr 2022 a bydd tenantiaid newydd (deiliaid contract) yn llofnodi contract meddiannaeth newydd o'r dyddiad hwn.
Rydym wedi bod yn cyd-gysylltu'n agos â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadau tai eraill i baratoi ar gyfer y newidiadau, ac mae ein staff yn gweithio'n galed i sicrhau bod y newidiadau'n cael eu rhoi ar waith mor ddiffwdan â phosib.
Byddwn yn ceisio rhoi'r diweddaraf i chi ar gynnydd ac anfonir gwybodaeth atoch yn yr ychydig fisoedd nesaf i esbonio'n newidiadau'n fanylach.
Rhagor o wybodaeth
- Tenantiaid: mae cyfraith tai yn newid (Rhentu Cartrefi) (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
- Tenantiaid: mae cyfraith tai yn newid (Rhentu Cartrefi) - hawdd ei ddeall (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
- Mae’r ffordd yr ydych chi’n rhentu yn newid (TPAS Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
- Canllawiau i denantiaid (Rhentu Cartrefi): fersiynau mewn ieithoedd tramor (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, e-bostiwch tai@abertawe.gov.uk