Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaeth larymau cymunedol (llinell fywyd) - defnyddio eich cyfarpar

Gwybodaeth bwysig am ddefnyddio eich larwm.

Profi larwm gwddf

Mae'n hanfodol bod tlws crog y larwm cymunedol yn cael ei brofi'n rheoliaidd; rydym yn argymell eich bod yn profi'ch tlws crog unwaith y mis.

Gallwch wneud galwad prawf drwy wasgu'r botwm coch ar eich tlws crog. Pan gaiff y ganolfan fonitro'r alwad, dywedwch wrthyn nhw mai galwad brawf ydyw a gofynnwch a oedd y prawf yn llwyddiannus.

Ar yr adeg hon, efallai y cewch wybod bod y batri'n isel; os yw hyn yn digwydd neu os nad yw'r tlws crog yn gweithio, ffoniwch y Tîm y Gwasanaeth Larymau Cymunedol . Bydd trefniadau wedyn yn cael eu gwneud i ddarparu tlws crog newydd cyn gynted ag y bo modd.

Gwybodaeth Bersonol - newidiadau y mae angen i ni wybod amdanynt

Mae'n hollbwysig eich bod yn dweud wrthym am unrhyw newidiadau i'ch manylion personol e.e. pobl sy'n byw gyda chi, manylion eich iechyd, gwyodaeth am flwch allweddi diogel, manylion eich meddyg neu ddalwyr allweddi a enwebwyd.

Os yw'ch gwybodaeth bersonol wedi newid mewn unrhyw ffordd, ffoniwch y Tîm y Gwasanaeth Larymau Cymunedol  neu cysylltwch a'r ganolfan fonitro naill ai drwy wasgu'r botwm coch ar eich tlws crog neu drwy ffonio 0300 333 2222. Sicrhewch fod gennych fanylion yr holl newidiadau wrth law.

Darparw Ffon - os ydych yn ei newid, mae angen i ni wybod

Mae darparwyr ffon yn diweddaru eu rhwydweithiau er mwyn diwallu anghenion technoleg y genhedlaeth nesaf. O ganlyniad i hyn, mae cyfran gynyddol o ddefnyddwyr gwasanaeth yn newid eu darparwr ffon o BT i SKY, Talk Talk, Virgin, Coop neu gyflenwr arall.

Os codir galwad larwm ar rwydwaith cenhedlaeth nesaf, mae perygl na fydd cyfarpar y larwm yn gweithredu'n ddibynadwy.

Gall hyn arwain at faterion megis:

  • Efallai na fydd gweithredu larwm yn codi larwm yn y ganolfan fonitro
  • Gall y cyfarpar fethu agor llwybr siarad
  • Gall gwybodaeth anghyflawn gael ei chyflwyno i'r ganolfan fonitro.

Mae rhai darparwyr gwasanaeth h.y. BT yn cynnig cynlluniau blaenoriaeth atgyweirio, diffygion i gwsmeriaid sydd wedi'u cofrestru fel cleifion a phobl anabl cronig neu'n anabl ac felly'n gaeth i'r ty. Cysylltwch a'ch darparwr ffon i gael rhagor o fanylion ynghylch sut i wneud cais.

Os ydych yn penderfynu newid eich darparwr ffon, sicrhewch fod ei beiriannydd ffonau'n profi'ch uned Llinell Fywyd yn llwyddiannus cyn iddo adael eich cartref i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau.

Os ydych wedi newid darparwr, neu'n ystyried gwneud hyn, ffoniwch y Tîm y Gwasanaeth Larymau Cymunedol .

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Gorffenaf 2021