Grŵp Cyflawni Isadeiledd - 21 Chwefror 2024
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Cyflawni Isadeiledd ar gyfer Cynllun Rheoli Cyrchfannau (CRhC) 2023-2026 ar 21 Chwefror 2024 yn Neuadd y Ddinas.
Roedd hwn yn gyfle i aelodau'r diwydiant twristiaeth lleol gael gwybod mwy am y CRhC newydd, gan gynnwys yr ymchwil a gyfeiriodd y cynllun, ei flaenoriaethau strategol a'r strwythur cyflawni.
Dilynwyd hyn gan ddiweddariad gan gydweithwyr yn yr adran Cynllunio Strategol ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) 2023-2038 a sut gall busnesau twristiaeth gymryd rhan yn y broses ymgynghori.
Gallwch lawrlwytho copi o'r cyflwyniadau isod:
- CRhC 2023-2026 - Steve Hopkins, Rheolwr Strategol ar gyfer Twristiaeth Marchnata a Digwyddiadau
DMP 2023-2026 Presentation (PDF)
[3MB]
- CDLlN 2023-2038 - Tom Evans, Rheolwr Creu Lleoedd a Chynllunio Strategol
RLDP 2023-2038 Presentation (PDF) [1MB]
Er mwyn cofrestru ar gyfer yr ymgynghoriad cyfredol ac yn y dyfodol ar y CDLlN, ewch i'r porth ymgynghori a chofrestrwch (ar frig y dudalen ar y dde).
Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y CDLlN, cysylltwch â'r Tîm Creu Lleoedd a Chynllunio Strategol drwy e-bostio cdll@abertawe.gov.uk.gov.uk neu ffonio 07814 105625.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y CRhC, cysylltwch â'r Tîm Twristiaeth drwy e-bostio Tim.Twristiaeth@abertawe.gov.uk
I gael gwybodaeth am y grantiau cymorth busnes sydd ar gael gan Gyngor Abertawe, ewch i'n hadran Cyllid Busnes neu e-bostiwch busnes@abertawe.gov.uk