Byw gyda dementia
Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol a grŵpiau cefnogi eraill ddarparu gwybodaeth a chymorth ymarferol sy'n gallu helpu rhywun â dementia i wneud hynny gyda dewisiadau ac annibyniaeth.
Mae'n bwysig cydnabod bod y person â dementia'n parhau i fod yn berson ac mae angen ei werthfawrogi a'i gefnogi yn unol â hynny. Mae hyn wrth wraidd yr hyn a elwir yn ofal dementia sy'n canolbwyntio ar y person.
Gall amryw o gyflyrau niwrolegol sy'n gysylltiedig â dementia arwain at golli'r cof yn raddol, anawsterau ieithyddol, canolbwyntio a dealltwriaeth. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth glir bellach fod pobl â dementia yn gallu parhau i fyw bywydau pwrpasol lle gallant fwynhau gyda'r math cywir o gefnogaeth.
Weithiau, gall pobl â dementia ddangos ymddygiad anarferol neu annisgwyl, ond yn aml ceir rheswm sylfaenol dros hyn y gellir ei archwilio, ei nodi a chyfeirio ato. Gall hyn helpu pobl â dementia i ymlacio'n fwy a bod yn llai pryderus.
Ceir wybodaeth am symptomau a datblygiad dementia ac am fyw gyda'r cyflwr ar wefan Y Gymdeithas Alzheimer.