Toglo gwelededd dewislen symudol

Dewis cartref gofal

Bydd y cartref gofal sydd fwyaf addas i chi'n dibynnu ar y swm a'r math o ofal y mae ei angen arnoch.

Bydd trafodaeth â gweithiwr cymdeithasol yn eich helpu i benderfynu pa fath o ofal a chefnogaeth mae eu hangen arnoch ac ai gofal preswyl yw'r opsiwn gorau i chi. Os ydym yn cytuno bod gofal preswyl yn addas i chi, gallwn roi gwybodaeth i chi am gartrefi sy'n gallu diwallu'ch anghenion. 

Mae pob cartref gofal preswyl yn cynnig gofal personol i bobl nad ydynt bellach yn gallu byw gartref, hyd yn oed gyda chefnogaeth. Mae rhai cartrefi yn cynnig gofal nyrsio yn ogystal â gofal personol a mae rhai wedi'u cofrestru hefyd i ddarparu gofal arbennig e.e. ar gyfer dementia neu anabledd corfforol.

Efallai yr hoffech ymweld â nifer o gartrefi cyn penderfynu.  Cyn ymweld â chartref, gall fod yn ddefnyddiol llunio rhestr o gwestiynau yr hoffech eu gofyn. Mae hyn yn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar yr ymweliad. Mae'n bwysig eich bod yn byw rywle lle byddwch yn teimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel. Mae rhai cartrefi'n annog pobl i aros am gyfnod byr neu i gael pryd o fwyd gyda'r preswylwyr i weld a yw'r cartref yn addas iddyn nhw.

Mewn egwyddor, gallwch ddewis fynd i unrhyw gartref gofal sy'n gallu diwallu'ch anghenion, os oes lle yn y cartref hwnnw. Fodd bynnag, os ydych chi'n derbyn cymorth ariannol gan yr Awdurdod Lleol, rhaid i'r Awdurdod Lleol a'r Cartref Gofal gytuno ar yr amodau a thelerau ar gyfer eich pecyn gofal.

Gall y Pwynt Mynediad Cyffredin roi rhagor o wybodaeth i chi, gan gynnwys rhestr o gartrefi gofal yn yr ardal.

Mae'n rhaid i bob cartref gofal gael ei archwilio gan AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) (Yn agor ffenestr newydd). Gallwch gweld adroddiad yr arolygiad diweddaraf ar gartref arbennig ar eu gwefan.

Cwestiynau cyffredin am ddewis cartref gofal

Pethau i'w hystyried wrth ddewis cartref gofal preswyl sy'n addas i chi.

Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC)

Yn Abertawe, rydym yn ceisio darparu cefnogaeth briodol ac amserol i oedolion a'u gofalwyr gan y person cywir.
Close Dewis iaith