Dewis cartref gofal
Bydd y cartref gofal sydd fwyaf addas i chi'n dibynnu ar y swm a'r math o ofal y mae ei angen arnoch.
Bydd trafodaeth â gweithiwr cymdeithasol yn eich helpu i benderfynu pa fath o ofal a chefnogaeth mae eu hangen arnoch ac ai gofal preswyl yw'r opsiwn gorau i chi. Os ydym yn cytuno bod gofal preswyl yn addas i chi, gallwn roi gwybodaeth i chi am gartrefi sy'n gallu diwallu'ch anghenion.
Mae pob cartref gofal preswyl yn cynnig gofal personol i bobl nad ydynt bellach yn gallu byw gartref, hyd yn oed gyda chefnogaeth. Mae rhai cartrefi yn cynnig gofal nyrsio yn ogystal â gofal personol a mae rhai wedi'u cofrestru hefyd i ddarparu gofal arbennig e.e. ar gyfer dementia neu anabledd corfforol.
Efallai yr hoffech ymweld â nifer o gartrefi cyn penderfynu. Cyn ymweld â chartref, gall fod yn ddefnyddiol llunio rhestr o gwestiynau yr hoffech eu gofyn. Mae hyn yn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar yr ymweliad. Mae'n bwysig eich bod yn byw rywle lle byddwch yn teimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel. Mae rhai cartrefi'n annog pobl i aros am gyfnod byr neu i gael pryd o fwyd gyda'r preswylwyr i weld a yw'r cartref yn addas iddyn nhw.
Mewn egwyddor, gallwch ddewis fynd i unrhyw gartref gofal sy'n gallu diwallu'ch anghenion, os oes lle yn y cartref hwnnw. Fodd bynnag, os ydych chi'n derbyn cymorth ariannol gan yr Awdurdod Lleol, rhaid i'r Awdurdod Lleol a'r Cartref Gofal gytuno ar yr amodau a thelerau ar gyfer eich pecyn gofal.
Gall y Pwynt Mynediad Cyffredin roi rhagor o wybodaeth i chi, gan gynnwys rhestr o gartrefi gofal yn yr ardal.
Mae'n rhaid i bob cartref gofal gael ei archwilio gan AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) (Yn agor ffenestr newydd). Gallwch gweld adroddiad yr arolygiad diweddaraf ar gartref arbennig ar eu gwefan.