Toglo gwelededd dewislen symudol

Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022 - crynodeb

Beth yw'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae?

Yn 2010, rhoddodd Llywodraeth Cymru ddyletswydd statudol ar bob Awdurdod Lleol yng Nghymru i asesu a oes digon o gyfleoedd chwarae yn eu hardal. Drwy gasglu'r sgoriau hyn, mae'n caniatáu i gynlluniau gweithredu gael eu creu, gan roi targedau i gynghorau ar gyfer y 3 blynedd nesaf. Mae'n ofynnol i'r ADCCh gael ei gynnal bob 3 blynedd. Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn cwblhau'r dasg hon ers 2013.

Mae'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a elwir hefyd yn ADCCh, yn cynnwys cyfres o faterion y mae'n rhaid i'r cyngor sgorio'i hun arnynt. Rhaid i'r cyngor sgorio'i hun yn wyrdd os yw'r mater yn cael ei fodloni'n llawn, oren os caiff ei fodloni'n rhannol a'n goch os na chaiff ei fodloni.


Sut mae'r ADCCh yn cael ei gwblhau? 

Er mwyn cwblhau ADCCh 2022, buom yn siarad â phlant a phobl ifanc, eu rhieni/gofalwyr, y cyhoedd a gweithwyr chwarae proffesiynol i greu darlun o'r sefyllfa bresennol yn Abertawe.

Gofynnwyd cyfres o gwestiynau i bob grŵp ynglŷn â chyfleoedd chwarae, os oedd digon yn cael ei wneud yn lleol ac os nad oedd, sut y gellir ei wella, yn ogystal â rhoi'r cyfle i leisio unrhyw farn neu syniadau eraill.

Mae'n bwysig cydnabod yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar gyfleoedd chwarae dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac felly gofynnwyd cwestiynau ychwanegol o'i gymharu â'r hyn a ofynnwyd mewn blynyddoedd blaenorol. At hynny, roedd y pandemig hefyd wedi rhwystro'r gallu i glywed barn pobl wyneb yn wyneb am yr ADCCh.

Gan fod yr asesiad yn edrych ar yr hyn y mae Cyngor Abertawe yn ei wneud, mae'n edrych ar yr holl dimau a gwasanaethau sy'n effeithio ar chwarae i weld a ydynt yn helpu chwarae i ddigwydd, neu'n gwneud y gwrthwyneb. Mae hefyd yn edrych ar sut mae ein partneriaid yn y trydydd sector yn chwarae eu rhan.  

* Roedd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn cydnabod bod chwarae'n mynd i'r afael â thlodi plant ac yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod digonedd o gyfleoedd chwarae

Sut gwnaethon ni?

Mae'r ADCCh yn cynnwys 9 maes gwahanol. Mae Mater A yn seiliedig ar boblogaeth, nad oes ganddi dargedau ac mae gan faterion B i Ff ganlyniadau penodol.
Gan fod pob mater yn cael ei raddio'n Wyrdd, yn Oren neu'n Goch yn seiliedig ar wybodaeth a data a gesglir, roedd yn rhaid i ni ddweud ar gyfer pob un a oeddem agosaf at eu Bodloni'n Llawn, eu Bodloni'n Rhannol neu os nad oeddent yn eu bodloni. Wrth gwrs, mae'n annhebygol y bydd unrhyw faes cyfan yn cael ei Fodloni'n Llawn felly lle'r ydym yn dweud ei fod, mae hynny'n golygu bod mwy o rannau ohono wedi'u bodloni'n llawn nag eraill.

Mater B: Darparu ar gyfer anghenion amrywiol


Pa mor dda ydyn ni'n helpu'r rheini y gall fod angen cefnogaeth arnynt i gael mynediad at chwarae?
Cyrhaeddom y targed hwn yn rhannol. (Oren)

Mae Abertawe'n gwneud llawer iawn o waith i ddarparu ar gyfer anghenion amrywiol. Er enghraifft, drwy gael is-grwpiau rhwydwaith chwarae sefydledig fel Grŵp Mynediad i Chwarae Abertawe i sicrhau ein bod yn gwrando ar bob llais ynghylch chyfleoedd chwarae. 

Mae bron yn amhosibl bodloni'r mater hwn yn llawn gan fod gwelliannau i'w gwneud bob amser ac mae wedi bod yn arbennig o anodd darparu ar gyfer anghenion amrywiol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf oherwydd cyfyngiadau a ddaeth yn sgil y pandemig. Fodd bynnag, dylai'r camau gweithredu a nodwyd ein helpu i oresgyn y mater hwn dros y blynyddoedd i ddod.

Mater C: Lle i Blant Chwarae

A oes digon o le i'r plant chwarae?
Cyrhaeddom y targed hwn yn llawn. (Gwrydd)

Y datblygiadau diweddar mewn ardaloedd chwarae fu'r llwyddiant mwyaf ar gyfer chwarae yn Abertawe rhwng 2019 a 2022. Mae'r buddsoddiadau wedi caniatáu ystyriaeth ar gyfer hygyrchedd a chynwysoldeb gan greu gwell cyfleoedd chwarae i blant Abertawe. Bu cryn dipyn o gydweithio ar draws timau a chyfarwyddiaethau. Soniodd llawer o blant a phobl ifanc yn ogystal â'r cyhoedd yn ehangach am yr effaith y mae'r buddsoddiad wedi'i chael ar eu profiadau chwarae.  

Mater D: Darpariaeth dan oruchwyliaeth

Pa mor dda yw ein cyfleoedd chwarae gyda staff? A oes digon o gyfleoedd gyda staff?
Cyrhaeddom y targed hwn yn rhannol. (Oren)

Mae ADCCh 2022 wedi tynnu sylw at y gostyngiad yn nifer y gweithwyr chwarae sydd gennym yn Abertawe o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Mae ein canfyddiadau'n dangos bod hyn o ganlyniad i sawl ffactor gan gynnwys y pandemig ac ailstrwythuro tîm y cyngor yn ddiweddar. Un canfyddiad trawiadol oedd faint o blant a phobl ifanc y siaradom â hwy nad oeddent yn ymwybodol o'r hyn y mae gweithiwr chwarae yn ei wneud. Mae cynllun gweithredu ADCCh yn nodi'r camau y gallwn eu cymryd i ailadeiladu gwaith chwarae yn Abertawe.

Mater E: Prisiau am Ddarpariaeth

Faint o chwarae y mae angen i chi dalu amdano?
Cyrhaeddom y targed hwn yn llawn. (Gwrydd)

Rhaid cydnabod bod y cyllid ychwanegol diweddar a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan, gan gynnwys Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles, wedi cynyddu'r mynediad am ddim i gyfleoedd chwarae'n sylweddol. Yn ogystal, mae'r buddsoddiad sylweddol mewn gwella ardaloedd chwarae cyhoeddus y cyngor wedi cael effaith fuddiol, a bydd yn parhau i wneud hynny, o ran profiadau chwarae y gellir cael mynediad atynt am ddim, a hefyd o ran ansawdd y profiadau.

Mater F: Mynediad i Le/at Ddarpariaeth

Faint o chwarae y mae angen i chi dalu amdano?
Cyrhaeddom y targed hwn yn rhannol. (Oren)

Mae gwaith i'w wneud o hyd i wneud ffyrdd yn fwy diogel i blant allu teithio i fannau/darpariaeth chwarae a symud o gwmpas eu cymunedau'n ddiogel. Mae'r ymgyrch atal baw cŵn a ddatblygwyd gan y Tîm Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae wedi cynyddu ymwybyddiaeth o effaith baw cŵn ar allu plant a phobl ifanc i chwarae'n ddiogel yn eu cymuned.

Mater G: Sicrhau a datblygu'r gweithlu chwarae

Pa mor dda ydym ni o ran sicrhau a datblygu'r gweithlu?
Cyrhaeddom y targed hwn yn rhannol. (Oren)

Dyma'r mater sydd wedi wynebu'r newid mwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda gostyngiad mewn swyddi Gweithwyr Chwarae a'r effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar y gweithlu. 

Mae'r awdurdod lleol yn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyfarwydd â'r holl ofynion perthnasol o ran datblygu'r gweithlu drwy gynnal cyfathrebiad â'r sector chwarae lleol a chymryd rhan mewn rhwydweithiau cenedlaethol perthnasol. Mae'n bwysig parhau i ddarparu cymorth grant ar gyfer ein gweithlu chwarae presennol, ond mae angen canolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu neu ailadeiladu gweithlu chwarae Abertawe a chael yr adnoddau penodol i'w gefnogi. Bydd y cynigion i ddatblygu'r Tîm Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae gan gynnwys cyflwyno Swyddog Cyfranogaeth Chwarae Cymunedol yn allweddol i hyn.

Mater H: Cynnwys y Gymuned a Chyfranogiad Cymunedol

Pa mor dda ydyn ni'n ymgysylltu â'r cyhoedd?
Cyrhaeddom y targed hwn yn rhannol. (Oren)

Ymgynghorir yn rheolaidd lle bo'n briodol. Gwneir hyn fel arfer mewn ysgolion gyda chyngor ysgol sy'n rhoi ymateb llawnach i ni ar draws y grwpiau blwyddyn. Rydym hefyd yn cynnal ymgynghoriadau ar y safle er bod hyn wedi bod yn anodd gyda COVID-19. Mae cynlluniau ar waith i ehangu'r Tîm Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ac felly bydd gennym fwy o staff i fynd allan ac ymgysylltu â rhagor o bobl.

Mater I: Chwarae yn yr holl bolisïau perthnasol a'r agenda rhoi ar waith

Cyrhaeddom y targed hwn yn rhannol. (Oren)

Mae COVID wedi effeithio ar lawer o bolisïau chwarae dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae'n gadarnhaol gweld amrywiaeth o feysydd yn ystyried chwarae. Mae angen gwella ymwybyddiaeth pobl o chwarae gan ein bod wedi canfod bod diffyg dealltwriaeth gan rai. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Tîm Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn bwriadu'i gyflawni.

Beth ddywedoch chi wrthym?

  • Roedd plant a phobl ifanc yn teimlo'u bod yn cael llai o gyfleoedd chwarae o'i gymharu â'r gorffennol, dywedodd llawer o bobl mai cyfyngiadau COVID-19 oedd yn gyfrifol am hyn gan ei fod wedi'i wneud yn anodd iddynt chwarae a chwrdd â ffrindiau.
  • Mae plant a phobl ifanc am gael rhagor o amser yn ystod y diwrnod ysgol i gymdeithasu a chwarae gyda ffrindiau.
  • Dywedodd rhieni/gofalwyr wrthym eu bod yn teimlo nad oedd eu plant yn cael digon o gyfleoedd chwarae.
  • Soniodd Rhieni/Gofalwyr am faterion sy'n ymwneud â diogelwch, hygyrchedd a diffyg gweithgareddau chwarae trefnedig.
  • Dywedodd y mwyafrif helaeth o'r cyhoedd wrthym eu bod yn teimlo bod chwarae yn hanfodol i blant a phobl ifanc, fodd bynnag, soniodd sylwadau hefyd nad oes digon o gyfleoedd chwarae ar hyn o bryd. 
  • Dywedodd 99% o'r cyhoedd a ymatebodd i'r arolwg wrthym eu bod yn teimlo bod plant yn chwarae llai nawr o'i gymharu â 10 mlynedd yn ôl. Enwyd ofnau rhieni, COVID-19 a thechnoleg fel rhwystrau i chwarae. 
  • Dywedodd gweithwyr chwarae wrthym eu bod yn teimlo bod eu rôl yn bwysicach nag erioed er gwaethaf hyn, ond dynwedon nhw hefyd eu bod yn teimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi'n llai 
  • Soniodd Plant/Pobl Ifanc am y defnydd o ddyfeisiau olrhain ar eu dyfeisiau clyfar i helpu i leihau ofnau rhieni pan fyddant yn mynd allan i chwarae.

Beth sy'n mynd yn dda?

Buddsoddi mewn mannau chwarae

Mae cryn dipyn o fuddsoddiad wedi bod mewn mannau chwarae ar draws Abertawe ers yr asesiad diwethaf, a ysgrifennwyd yn 2019. Mae hyn yn rhywbeth y mae plant a'u teuluoedd wedi rhoi adborth gwych amdano. Credwn ei fod wedi annog cyfleoedd chwarae ac wedi annog teuluoedd i dreulio mwy o amser gyda'i gilydd.

Gweithio gyda gwahanol adrannau/gyfarwyddiaethau i gynyddu cyfleoedd chwarae

Mae'r buddsoddiadau diweddar mewn mannau chwarae wedi cael cryn gydnabyddiaeth gan blant a'u teuluoedd. Roedd hyn wedi gallu digwydd oherwydd bod nifer o dimau gwahanol wedi cydweithio'n agos ac roedd gan bod un ohonynt yr un nod... cynyddu cyfleoedd chwarae i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. 

Rydym bob amser yn cadw hygyrchedd a chynwysoldeb mewn cof

Mae'r mannau chwarae newydd a'r rheini sydd wedi'u hadnewyddu wedi cymryd llawer o waith cynllunio ac ystyriaeth. Un agwedd rydym yn ymfalchïo ynddi yw'r ffaith ein bod yn rhoi plant wrth wraidd ein cynlluniau gan sicrhau bod hygyrchedd a chynwysoldeb yn cael eu hystyried. Mae 'Ystyriaethau Allweddol' Cyngor Abertawe i'w gweld yn nogfen Chwarae Cymru 'Creu Mannau Chwarae Hygyrch' i gefnogi arfer da. 

Ni wnaeth COVID-19 ein hatal rhag ymgysylltu â Phlant a Phobl Ifanc

Ar adeg ysgrifennu ADCCh 2022, roedd cyfyngiadau COVID-19 yn dal i fod ar waith. Er gwaethaf hyn, gweithiodd y tîm yn galed i sicrhau bod lleisiau Plant a Phobl Ifanc yn cael eu clywed. Gwnaed hyn gyda chymorth y tîm cyfranogiad Hawliau Plant. Lle bynnag y bu modd, aethom i mewn i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar a oedd wedi'n helpu i greu camau gweithredu gwerthfawr ar gyfer y 3 blynedd nesaf.

Beth nad yw'n mynd cystal?

Ar hyn o bryd mae llai o ddarpariaeth chwarae wedi'i staffio yn yr ardal

Oherwydd rhesymau fel COVID-19 a gostyngiad mewn swyddi Gweithwyr Chwarae, ar hyn o bryd mae llai o ddarpariaeth chwarae agored wedi'i staffio i Blant a Phobl Ifanc fynd i'w mwynhau. Er gwaethaf hyn, mae gan y cyngor gynlluniau ar waith i gael mwy o chwarae yn ôl i Abertawe a chredwn y gallwn adennill chwarae dros y 3 blynedd nesaf. 

Nid yw gweithwyr chwarae yn teimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi

Mae'n amlwg ein bod yn colli gweithwyr chwarae yn Abertawe gyda COVID-19 yn arwain at fwy o weithwyr proffesiynol yn gadael eu rolau. Mae angen i ni fel cyngor weithio ar annog y gweithlu drwy eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Nid yw plant yn cael digon o gyfleoedd i chwarae

Mae'n ymddangos bod ofnau rhieni yn atal plant rhag mynd allan a chwarae gyda ffrindiau. Mae'n ymddangos bod technoleg a COVID-19 hefyd wedi cael effaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Soniodd y plant hefyd am beidio â chael digon o amser yn ystod y diwrnod ysgol i gymdeithasu a chwarae gyda ffrindiau. Maen nhw'n dweud bod hyn yn bwysig iddyn nhw ar ôl ymdopi â'r cyfyngiadau symud.  

Nid yw chwarae'n cael ei werthfawrogi gan bawb o hyd

Tynnwyd sylw at y ffaith nad yw rhai yn deall ystyr chwarae o hyd a pham ei fod mor bwysig i blant a phobl ifanc. Mae'n amlwg bod angen gwneud llawer iawn o waith i sicrhau bod y neges yn glir. Mae chwarae'n bwysig! 

Beth yw ein cynllun wrth symud ymlaen?

Y cam nesaf yw creu cynllun gweithredu, a fydd yn cynnwys tua 60 o gamau gweithredu i ni fel cyngor weithio arnynt dros y 3 blynedd nesaf. Bydd hyn yn cynnwys camau gweithredu allweddol megis:

  • Ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i blant chwarae yn eu hardaloedd lleol
  • Gweithio ochr yn ochr â thimau/sefydliadau eraill i sicrhau bod digon o ddarpariaeth chwarae wedi'i staffio
  • Sicrhau bod y gweithlu'n teimlo'i fod yn cael ei werthfawrogi
  • Creu neges glir i bawb ynghylch pwysigrwydd chwarae
  • Gweithio gyda staff yr ysgol i greu gwell cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc
  • Ailsefydlu'r Fenter Ysgolion Chwareus
  • Creu Abertawe fwy chwareus fel cyfanwaith.

Ydych chi am gael rhagor o wybodaeth neu ddweud wrthym beth yw'ch barn am chwarae yn Abertawe? 

Hoffem glywed gennych - ebost chwarae@abertawe.gov.uk 

Er ein bod yn gwneud llawer i siarad â thimau eraill a hyrwyddo pwysigrwydd chwarae, mae angen i ni wybod beth yw eich barn CHI ac os nad oes digon o gyfleoedd i chwarae, rhowch wybod i ni - mae llawer o'r pethau gwych sydd wedi digwydd o ran chwarae yn Abertawe wedi deillio o blant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn dweud wrthym beth maen nhw'n ei deimlo sydd ar goll.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Tachwedd 2022