Digwyddiadau amgylcheddol - Awst

Mawrth 2 Awst (a phob dydd Mawrth/Iau) - Sesiwn Wirfoddoli yn Fferm Gymunedol Abertawe
10.00am - 4.00pm, Fferm Gymunedol Abertawe, 2 Heol Pontarddulais, Fforest-fach, Abertawe SA5 4BA
Cyfle i ddysgu pethau newydd, cysylltu â phobl, bod yn actif, cymryd sylw a rhoi'n ôl i'r gymuned yn unig fferm ddinas Cymru - mae'r rhain i gyd yn bethau mae gwyddoniaeth yn dweud fydd yn gwneud i chi deimlo'n well! Naill ai porthi neu garthu adeiladau'r anifeiliaid, garddio organig, cymryd rhan mewn tasgau natur a chadwraeth, adeiladu a chodi neu gynnal a chadw'r safle, mae gennym rhywbeth i bawb sydd am fod yn yr awyr agored ac sydd am ddysgu sgiliau newydd.
Cyswllt: Katharine, Fferm Gymunedol Abertawe, 07784 810139
Mawrth 2 Awst (a phob dydd Mawrth ym mis Awst) - Plantos ar Deiars gyda BikeAbility Cymru
11.30am - 12.30pm, BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU
Blantos a phlant bach, dewch i chwarae gyda ni. Mae gennym sgwteri, treiciau, beiciau cydbwysedd a llawer mwy. Ymunwch â ni am hwyl a gemau, gan ddechrau arni'n ifanc a chael ychydig o hwyl. £6 y plentyn.
Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk
Mawrth 2 Awst (a phob dydd Mawrth ym mis Awst) - Sgiliau Beicio gyda BikeAbility Cymru
2.00pm - 3.00pm, BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU
Gemau beicio, cynnal a chadw sylfaenol beiciau a hyfforddiant sgiliau beicio wrth baratoi ar gyfer Lefel 1 y Safonau Cenedlaethol. £10 y plentyn.
Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk
Mercher 3 Awst (a phob bore Mercher) - Taith Beicio Cydymaith BikeAbility Cymru
10.00am - 12 ganol dydd, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU
Am feicio mewn grŵp am hwyl neu gyfeillgarwch? Ymunwch â ni ar gyfer ein teithiau beicio cydymaith bob dydd Mercher o'n safle yn Nyfnant. Taith feicio hawdd gyda chymorth oedolion ar gyfer pob gallu. £3 y person.
Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk
Sadwrn 6 Gorffennaf - Bore Gwirfoddoli Mynwent Babell
10.00am - 12 ganol dydd, wrth fynedfa'r fynwent ger 119 Heol Ganol, Cwmbwrla, Abertawe SA5 8HQ
Helpwch i greu lle ar gyfer natur a phobl yng nghalon Cwmbwrla yn y fynwent hon a esgeuluswyd yn fawr. Dewch am awyr iach ac ymarfer corff gwych, i gyfarfod pobl newydd, a chanfod mwy am hanes lleol a natur ar garreg eich drws. Bydd y tasgau yn cynnwys torri, palu a chodi drain, codi sbwriel a datblygu gardd. Darperir offer a menig ond gwisgwch hen ddillad ac esgidiau synhwyrol ac efallai dewch â diod a bisged ar gyfer eich egwyl.
Cyswllt: Jo Mullett, knotweedcontrol@gmail.com
Mercher 10 Awst - Archwilio Pyllau Trai
11.00am - 12 ganol dydd, Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell, Gŵyr SA3 1LS
Archwiliwch fyd cyfrinachol pyllau trai Bae Caswell. Rhaid cadw lle ymlaen llaw drwy e-bostio.
Cyswllt: Karen Jones, Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Karen.Jones@swansea.gov.uk
Sul 14 Awst - Gwylio Adar ger Camlas Aberdulais
9.30am, maes parcio Camlas Nedd, Aberdulais SA10 8EP
Taith gerdded yn y bore yn gwylio adar ar hyd Afon Nedd a Chamlas Nedd ym Masn Aberdulais. Croesewir dechreuwyr a rhai nad ydynt yn aelodau. Mae'n bosib bydd angen dillad diddos a bŵts. Gadewch eich cŵn gartref os gwelwch yn dda. Eich cyfrifoldeb chi yw eich diogelwch ar hyd y daith. Rhaid cadw lle ymlaen llaw.
Cyswllt: Russell Evans, Grŵp RSPB Lleol Abertawe a'r Cylch, 07801 969618 neu rspbswandistgrp@gmail.com
Mercher 24 Awst - Archwilio Pyllau Trai
10.30am - 11.30am, Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell, Gŵyr SA3 1LS
Archwiliwch fyd cyfrinachol pyllau trai Bae Caswell. Beth am greu cerflun tywod hefyd? Rhaid cadw lle ymlaen llaw drwy e-bostio.
Cyswllt: Karen Jones, Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Karen.Jones@swansea.gov.uk
Mercher 24 Awst - Hyfforddiant Beicio Diogelwch Ffyrdd: Lefel 1
1.00pm - 3.00pm, BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU
Lefel 1 y Safonau Diogelwch Ffyrdd Cenedlaethol i blant 8 oed ac yn hŷn. Cynhelir yr hyfforddiant yn ein lleoliad heb draffig a byddwn yn eich helpu i ddysgu i reoli eich beic. Rhaid i'r hyfforddeion allu reidio beic. £20 y person. Rhaid cadw lle.
Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk
Iau 25 Awst - Hyfforddiant Beicio Diogelwch Ffyrdd: Lefel 2
10.00am - 2.30pm, BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU
Lefel 2 y Safonau Diogelwch Ffyrdd Cenedlaethol i blant 10 oed ac yn hŷn. Cynhelir yr hyfforddiant ar heolydd preswyl tawel a bydd yn rhoi profiad beicio go iawn fel y gallwch ddelio â thraffig ar deithiau byr megis beicio i'r ysgol neu'r gwaith. Rhaid i'r hyfforddeion fod wedi pasio hyfforddiant Lefel 1. £30 y person. Rhaid cadw lle.
Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk
Mercher 31 Awst - Celf Tân y Coetir
10.00am - 12 ganol dydd, Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell, Gŵyr SA3 1LS
Rhowch gynnig ar gynnau tân a thostio malws melys. Dysgwch sut i wneud siarcol a chreu pensiliau ysgaw. Rhaid cadw lle ymlaen llaw trwy e-bostio - nid oes lle i lawer yn y digwyddiad.
Cyswllt: Karen Jones, Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Karen.Jones@swansea.gov.uk
Cynhyrchwyd y rhestriad hwn gan Dîm Cadwraeth Natur Cyngor Abertawe gyda chyllid grant Partneriaeth Natur Leol Llywodraeth Cymru. Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.