Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau amgylcheddol - Chwefror

Caswell roundhouse in the snow

Archwilio'r Bydysawd yn ystod Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2025

I ddathlu Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2025, rydym yn eich gwahodd i ddod i ddiwrnod a noson o weithgareddau gwyddoniaeth ofod anhygoel AM DDIM yn Reynoldston, un o fannau tywyllaf Gŵyr.

Yn ystod y dydd: Planetariwm

Dydd Sul 23 Chwefror, 1.00pm - 6.15pm (amryfal slotiau amser ar gael)

Neuadd Bentref Reynoldston, 1AA, Church Meadow, Reynoldston, Abertawe SA3 1AF

Dewch i'n planetariwm yn Neuadd Bentref Reynoldston i ddarganfod cytserau, clystyrau o sêr, nifylau a galaethau - byddwn yn eu harchwilio i gyd.

Dyma weithdy lle gall pobl ddarganfod rhyfeddodau awyr y nos mewn awyrgylch llawn ysbrydoliaeth. Dan arweiniad seryddwyr, byddwn yn archwilio sut mae'r awyr wedi newid dros yr oesau, gan drafod popeth o fytholeg Geltaidd i astroffiseg ac effaith llygredd golau.

  • Yn addas i bob oed
  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Ni ddarperir lluniaeth yn ystod y digwyddiad hwn

Parcio: Am ddim y tu allan i neuadd y pentref a gyferbyn â'r eglwys. Gwnewch yn siŵr bod y fynedfa i'r orsaf dân yn cael ei chadw'n glir ar bob adeg.

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/e-zvvqoq

Yn y nos: Syllu ar y Sêr

Dydd Sul 23 Chwefror, 7.30pm ymlaen

Neuadd Bentref Reynoldston, 1AA, Church Meadow, Reynoldston, Abertawe SA3 1AF

Os bydd y tywydd yn caniatáu, bydd hwn yn gyfle gwych i weld awyr y nos drwy delesgopau cryf iawn, gyda seryddwyr yn eich tywys drwy'r gofod a'r planedau. Dylech fod yn gallu tynnu lluniau anhygoel gyda'ch ffôn drwy'r telesgop.

Dewis arall os bydd y tywydd yn wael: os bydd y tywydd yn anaddas, byddwn yn cynnal darlith seryddol hynod ddiddorol yn y neuadd, a fydd yn cwmpasu'r gofod, amser a'r planedau.

  • Yn addas i bob oed
  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Ni ddarperir lluniaeth yn ystod y digwyddiad hwn

Parcio: Am ddim y tu allan i neuadd y pentref a gyferbyn â'r eglwys. Gwnewch yn siŵr bod y fynedfa i'r orsaf dân yn cael ei chadw'n glir ar bob adeg.

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-xmlnkkr

 


Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Ionawr 2025