Digwyddiadau amgylcheddol - Ebrill

Hyfforddiant Cofnodi ar iNaturalist
Dydd Mawrth 8 Ebrill, 1.00pm
Cwrdd: Maes Parcio Ynys Newydd, Derwen Fawr rd, Sgeti, Abertawe SA2 8DU
Arweinir gan drefnydd Her Byd Natur y Ddinas 2025: Abertawe, Ms Evelyn Gruchala - Cydlynydd Gwirfoddol Adfer Natur (Cyngor Abertawe/Tirwedd Cenedlaethol Gŵyr).
Sesiwn hyfforddiant inaturalist awyr agored i baratoi ar gyfer Her Byd Natur y Ddinas 2025: Abertawe!
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r dirwedd
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
- Lawrlwythwch yr ap iNaturalist cyn yr hyfforddiant os yw'n bosib:
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-lnpampj
Diwrnod tasgau cadwraeth
Dydd Mercher 9 Ebrill, 10.00am - 2.00pm
Cwrdd y tu allan i Ganolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell Bay Road, Caswell SA3 3BN
Helpwch i warchod Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob! Byddwn yn mynd i'r afael â rheoli cynefinoedd, yn cael gwared ar rywogaethau goresgynnol, neu, yn dibynnu ar y tywydd a'r tymheredd, byddwn yn parhau â'r gwaith prysgoedio i gefnogi adfywiad coetiroedd.
Dewch i fwynhau'r awyr iach, dysgu am fywyd gwyllt lleol a gwneud gwahaniaeth go iawn.
Does dim angen profiad blaenorol, dim ond brwdfrydedd.
- Darperir te a bisgedi
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r tir a rhai nad oes ots gennych eu bod eu mynd yn frwnt
- Darperir yr holl gyfarpar
- Nid yw'r gweithgarwch hwn yn addas i blant
- Parcio (ffïoedd yr haf): Maes parcio Bryn Caswell / Maes parcio Bae Caswell
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-moxjpeg
Taith gerdded ystlumod
Dydd Iau 24 Ebrill, 7.30pm - 9.30pm
Cwrdd yn y prif faes parcio, Coed Cwm Penllergare, Abertawe SA4 9GS
Ymunwch â ni yng Nghoed Cwm Penllergare o 24 i 27 Ebrill i ganfod a chofnodi bywyd gwyllt fel rhan o City Nature Challenge 2025: Abertawe!
Cadw lle a rhagor o wybodaeth: https://www.ticketsource.co.uk/penllergare
Mae City Nature Challenge 2025: Abertawe yn ôl y gwanwyn hwn, o 25 i 28 Ebrill!

Mae City Nature Challenge yn gystadleuaeth fyd-eang pedwar diwrnod flynyddol sy'n debyg i fioblits, lle mae dinasoedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn ffordd gyfeillgar i weld pwy all wneud y nifer mwyaf o arsylwadau natur, pwy all ddod o hyd i'r nifer mwyaf o rywogaethau a phwy all ennyn diddordeb y nifer mwyaf o bobl.
https://www.citynaturechallenge.org/
Mae'r mis Ebrill hwn yn nodi deng mlynedd ers dechrau'r City Nature Challenge, ar y thema "Dod â'r Byd Ynghyd dros Fioamrywiaeth". Dyma'r drydedd flwyddyn y mae Abertawe'n cymryd rhan yn yr her.
Hoffem i chi ymuno â ni i ddarganfod a chofnodi bywyd gwyllt ar draws dinas a sir gyfan Abertawe.
Gallwch gymryd rhan drwy fynd i unrhyw un o'r 28 o ddigwyddiadau a drefnwyd a hefyd wneud eich arsylwadau gan ddefnyddio'r ap iNaturalist sydd am ddim - mae pob arsylwad yn cyfrif!
Troeon adnabod hunanarweiniedig
Dydd Iau 24 Ebrill - dydd Sul 27 Ebrill, 10am - 4.00pm
Coed Cwm Penllergare, Abertawe SA4 9GS
Ar gael bob dydd yn y Ganolfan Ymwelwyr
Dydd Gwener
Taith gerdded dan arweiniad am ddim a throsolwg o brosiect adfer mawndiroedd Corsydd Crynedig LIFE
Dydd Gwener 25 Ebrill, 11.00am
Crymlyn Bog Visitor Centre, Dinam Rd, Bon-y-maen, Abertawe SA1 8LN
Fel rhan o Her Natur Dinas Abertawe, mae prosiect adfer mawndir LIFEquake yn hapus i groesawu pobl o unrhyw oedran i fwynhau taith dywys o amgylch Gwarchodfa Natur Cors Crymlyn. Dysgwch am hanes lleol, natur leol a'r ffyrdd niferus y mae'r prosiect yn adfer y cynefin gwlyptir. Byddwn yn defnyddio'r Ap iNaturalist i gofnodi unrhyw fywyd gwyllt a welwn ar hyd y ffordd. Digwyddiad hyfryd i bob oed.
Mae'r digwyddiad yn gofyn i bobl deithio tua 1.5 milltir ar dir gwastad yn bennaf a llwybr pren. Gall y safle fod yn wlyb ac yn fwdlyd mewn mannau felly argymhellir welingtons neu esgidiau cerdded. Argymhellir yn gryf hefyd ddillad awyr agored priodol.
Mae lleoedd am ddim, ond mae nifer cyfyngedig ar gael. Felly, cadwch le yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/cors-crymlyn-bog-her-byd-natur-y-ddinas-city-nature-challenge-tickets-1249349049639?aff=ebdsoporgprofile
neu e-bostiwch: LIFEquakingbogs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cynllun Chwarae Mân-filod
Dydd Gwener 25 Ebrill, 10am - 12.00pm, 1.00pm - 3.00pm
Fferm Gymunedol Abertawe, 2 Pontarddulais Road, Cadle, Fforest-fach, Abertawe SA5 4BA
Dewch i ymuno â'r canlynol:
- Her Natur y Ddinas
- Saffari mân-filod
- Archwilio'r pwll
- Chwarae llanast
- Adeiladu cuddfan
- Cwrdd â'n hanifeiliaid
Sylwer:
- Rhaid i blant dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn sy'n ymddwyn yn dda
- Gwisgwch yn addas ar gyfer y tywydd
- Rhaid i blant cofrestru wrth gyrraedd
Does dim angen archebu lle.
Bioblits Gwarchodfa Natur Norton
Dydd Gwener 25 Ebrill, 11.00am - 2.00pm
Gwarchodfa Natur Norton, Rhandiroedd Norton Isaf, Mumbles Road, y Mwmbwls, Abertawe SA3 4BY
Ymunwch â ni am ddigwyddiad Bioblits cyffrous - antur wyddonol ymarferol i ddinasyddion lle mae'r gymuned yn dod ynghyd i archwilio, adnabod a chofnodi bywyd gwyllt lleol!
Gan ddefnyddio'r ap iNaturalist, byddwn yn creu rhestr fyw o'r fioamrywiaeth anghredadwy yng Ngwarchodfa Natur Norton - gan gyfrannu at ymdrechion cadwraeth go iawn a chael hwyl yn yr awyr agored!
Cynhelir y digwyddiad gan Swyddog Ymgysylltu'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cyngor Cymuned y Mwmbwls.
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r dirwedd
Rhaid cadw lle: https://www.eventbrite.co.uk/e/norton-nature-reserve-bioblitz-tickets-1280528568419?aff=ebdsoporgprofile
Her Natur y Ddinas ym Mae Abertawe
Dydd Gwener 25 Ebrill, 11.00am - 2.00pm
Byddwn yn cwrdd ar y traeth, gyferbyn â maes parcio'r Rec, Brynmill, Abertawe SA1 3UP
What3Words: mimic.clean.pans
Ymunwch ag Ysgol Goedwig Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot am weithgareddau ysgol arfordirol ar y traeth.
Rhaid cadw lle: https://eequ.org/book/1957/dates
Taith gerdded rhyfeddodau'r coed
Dydd Gwener 25 Ebrill, 2.00pm - 3.30pm
Byddwn yn cwrdd ger The Touring Tea Room, Gerddi Clun, Blackpill, West Cross, Abertawe SA3 5BW
Taith gerdded i edrych ar flodau gwyllt, rhedyn a mwsogl Gerddi Clun, a'u cofnodi.
Arweinir y digwyddiad gan Mr Teifion Davies - Prif Arddwr yng Ngerddi Clun
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
- Digwyddiad sy'n addas i blant - oedran argymelledig 8+
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas i'r tywydd a'r tir (argymhellir esgidiau dwrglos)
- Mae parcio ar gael ym maes parcio tafarn The Woodman
- Croesewir cŵn sy'n ymddwyn yn dda ar dennyn
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-ojddglz
Dod i adnabod Coed Parc y Werin
Dydd Gwener 25 Ebrill, 2.00pm - 4.00pm
Byddwn yn cwrdd ger mynedfa'r Ardd Gymunedol, Parc Y Werin, 40 Brynawel Rd, Gorseinon, Abertawe SA4 4UX
Treuliwch brynhawn hamddenol yn archwilio coed Parc y Werin sy'n tyfu yn y man gwyrdd hwn! Helpwch ni i adnabod rhywogaethau gwahanol a chofnodi ein canfyddiadau ar ap iNaturalist fel rhan o City Nature Challenge 2025: Abertawe.
Gall teuluoedd hefyd fwynhau taflenni bingo bywyd gwyllt i chwilio am natur anhygoel y parc ar hyd y ffordd a dysgu amdani.
- Does dim angen profiad - dewch â'ch cywreinrwydd, ffôn clyfar (os oes gennych un) ac esgidiau cerdded cyfforddus. Mae croeso i bawb!
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
Does dim angen cadw lle!
Taith Ystlumod (Natur am Byth!)
Dydd Gwener 25 Ebrill, 8.15pm - 9.30pm
Caffi ym Mharc Cwmdonkin, Uplands, Abertawe SA2 ORA
Cyfeiriad Grid - SS637932, What3Words: charm.ripe.slice
Ymunwch â ni am noson gyffrous yn recordio ystlumod ym Mharc Cwmdonkin fel rhan o Her Natur y Ddinas Abertawe!
Tocynnau am ddim ond rhaid archebu: https://www.eventbrite.com/e/bat-walk-cwmdonkin-park-tickets-1284223349609
Dydd Sadwrn
Taith gerdded ymlusgiaid ac amffibiaid
Dydd Sadwrn 26 Ebrill, 9.00am
Byddwn yn cwrdd y tu allan i Swyddfa Bost Llandeilo Ferwallt, Pwlldu Lane, Llandeilo Ferwallt, Abertawe SA3 3HA
Ymunwch â ni am daith gerdded estynedig ar hyd llwybr yr arfordir ger bae pwll-du, lle byddwn yn chwilio am amffibiaid brodorol, nodweddion a ddefnyddir ganddynt ac yn rhoi cyngor ynghylch sut i ddod o hyd i rywogaethau cyffredin.
Cynhelir y digwyddiad gan Grŵp Ymlusgiaid ac Amffibiaid Abertawe.
- Yn ddibynnol ar y tywydd!
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
- Mae parcio ar gael ar hyd Brandy Cover Road
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r dirwedd
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-lnppyqd
Tro byr/hyfforddiant maes ar wiberod
Dydd Sadwrn 26 Ebrill, 9.00am
Maes Parcio Bae Oxwich, Penrice, Abertawe, SA3 1LS
Dewch i ddathlu Blwyddyn y Neidr gyda thaith dywys drwy gynefin gwiberod yn Nhwyni Oxwich! Bydd Mr Matt Cooke yn esbonio ecoleg gwiberod a sut i gynnal arolwg ohonynt wrth ddarparu profiad arolygu ymarferol ar gyfer y rhywogaeth. Bydd y digwyddiad yn cynnwys o leiaf 60 munud o gerdded a bydd angen lefel resymol o ffitrwydd corfforol.
- Yn ddibynnol ar y tywydd!
- Argymhellir esgidiau da a dylech fod yn gallu croesi twyni tywod yn gyfforddus
- Nid yw hwn yn ddigwyddiad sy'n addas i blant - oedolion yn unig os gwelwch yn dda (18+)
- Sylwer bod ffioedd parcio ceir arferol yn berthnasol yn ystod y digwyddiad os ydych yn penderfynu parcio ym Maes Parcio Bae Oxwich (Pen-rhys)
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-yaxnanp
Taith natur y gamlas
Dydd Sadwrn 26 Ebrill, 10.00am
Canolfan Camlas Tawe, 42 Hebron Road, Clydach, Abertawe SA6 5EJ
Ymunwch ag aelodau o Gymdeithas Camlas Tawe am daith dywys hamddenol ar hyd y gamlas. Efallai byddwn yn gweld glas y dorlan, byddwch yn sicr o weld ieir dŵr a hwyaid gwylltion, yn ogystal â digonedd o blanhigion a phryfed ar lan y dŵr. Gallwch hefyd ddysgu am hanes a threftadaeth y gamlas.
- 3 milltir ar lwybr sy'n wastad yn bennaf ac sy'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
- Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer pobl 5+ oed
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r dirwedd
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-dvzregl
Her Natur y Ddinas Parc Singleton
Dydd Sadwrn 26 Ebrill, 11.00am
Byddwn yn cwrdd ger y Gerddi Addurnol ym Mharc Singleton, Sgeti, Abertawe SA2 8PW
What3Words: blaze.eating.chat
Ymunwch ag Ysgol Goedwig Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot am weithgareddau ysgol goedwig.
Rhaid cadw lle: https://eequ.org/book/1957/dates
Rhyfeddodau'r coetir
Dydd Sadwrn 26 Ebrill, 11.00am - 3.00pm
Gwarchodfa Natur Coed Gelli Hir, Comin Fairwood, Abertawe, SA2 7LB
Mynediad drwy heol sy'n rhedeg i'r gogledd o'r B4271 i Gil-onen
What3Words: tractor.primary.skidding
Bydd Swyddog Prosiect Natur am Byth Bae Abertawe yn bresennol yn ystod y daith a'r sgwrs Her Natur y Ddinas hon am greaduriaid di-asgwrn-cefn y gwanwyn y gallwch ddod o hyd iddynt yn Abertawe.
Dewch i ddysgu am amrywiaeth o bryfed diddorol - a helpwch ni i gofnodi'r hyn rydych chi'n ei weld a'i glywed. Bydd y gweithgaredd hwn yn ysgafn ac yn hygyrch gyda chyfleoedd i archwilio a gofyn cwestiynau.
Trefnir y digwyddiad gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru
- Mae angen i oedolion gyfrannu o leiaf £1. Am ddim i blant
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r dirwedd
- Anogir rhannu ceir
- Bydd egwyl ar gyfer cinio felly dewch â'ch lluniaeth eich hun
Rhaid cadw lle: https://www.eventbrite.co.uk/o/wildlife-trust-of-south-west-wales-swansea-group-41422762733
Bywyd cudd Parc Singleton: ieir bach yr haf, pryfed a thu hwnt
Dydd Sadwrn 26 Ebrill, 11.00am
Cwrdd ger gât fynedfa'r parc ar Gower Road, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PY
Ymunwch â ni am dro hamddenol drwy gorneli cudd Parc Singleton wrth i ni chwilio am y pryfed amrywiol sy'n byw yno. Wrth i ni archwilio'r llwybrau troellog a'r glaswelltiroedd agored, byddwn yn chwilio am rywogaethau gwahanol ac yn eu hadnabod, a fydd yn rhoi gwerthfawrogiad dyfnach o'r creaduriaid bach hyn sy'n chwarae rôl fawr yn ein hecosystem.
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r dirwedd
- Mae lleoedd parcio ar gael o gwmpas Parc Singleton, er eu bod yn gyfyngedig
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-avnpylo
Daith dywys ystlumod
Dydd Sadwrn 26 Ebrill, 8.00pm - 9.30pm
Llyn y Fendrod, Valley Way, Llansamlet, Abertawe SA6 8RN
Bydd y noson yn dechrau'r tu mewn gyda chyflwyniad bach i ystlumod ac arddangosiad o sut i ddefnyddio synhwyrydd ystlumod.
Byddwn yn defnyddio synwyryddion ystlumod i ddod o hyd i ystlumod yn yr ardal a'u hadnabod. Mae'r tro hwn yn cynnig cyfle i ddysgu ychydig mwy am y creaduriaid hynod ddiddorol a swil hyn.
Dan arweiniad Evelyn Gruchala - ecolegydd daearol ac aelod gweithredol o'r grŵp ystlumod.
- Dewch â thortsh
- Os oes gennych synhwyrydd ystlumod, dewch ag ef gyda chi, ond darperir rhai synwyryddion!
- Ni ellir gwarantu y byddwn yn gweld ystlumod gan eu bod yn anifeiliaid gwyllt ond croeswch eich bysedd!
- Gwisgwch ddillad priodol ar gyfer y tywydd a'r tir. Mae esgidiau cadarn yn hanfodol
- Yn ddibynnol ar y tywydd
- Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
- Mae'r digwyddiad yn addas i blant 8+ oed
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-gavxymz
Dydd Sul
Taith gerdded côr y bore bach
Dydd Sul 27 Ebrill, 6.00am
Cwrdd yn y prif faes parcio, Coed Cwm Penllergare, Abertawe SA4 9GS
Ymunwch â ni yng Nghoed Cwm Penllergare o 24 i 27 Ebrill i ganfod a chofnodi bywyd gwyllt fel rhan o City Nature Challenge 2025: Abertawe!
Cadw lle a rhagor o wybodaeth: https://www.ticketsource.co.uk/penllergare
Ymlusgo a Sblasio: Ymlusgiaid ac Amffibiaid Twyni Oxwich
Dydd Sul 27 Ebrill, 9.00am
Maes Parcio Bae Oxwich, Penrice, Abertawe, SA3 1LS
Ymunwch â Grŵp Ymlusgiaid ac Amffibiaid Abertawe am daith dywys gyffrous trwy dwyni Oxwich, lle byddwn yn darganfod byd cudd ymlusgiaid ac amffibiaid. Dysgwch sut i ddod o hyd i'r creaduriaid anhygoel hyn yn eu cynefin naturiol ac archwiliwch eu rôl hanfodol yn yr ecosystem!
- Yn ddibynnol ar y tywydd!
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
- Sylwer bod ffioedd parcio ceir arferol yn berthnasol yn ystod y digwyddiad os ydych yn penderfynu parcio ym Maes Parcio Bae Oxwich (Pen-rhys)
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r dirwedd
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-yaxnzma
Diwrnod cadwraeth bioblits bach
Dydd Sul 27 Ebrill 9.00am - 1.00pm
Cwrdd yn y prif faes parcio, Coed Cwm Penllergare, Abertawe SA4 9GS
Ymunwch â ni yng Nghoed Cwm Penllergare o 24 i 27 Ebrill i ganfod a chofnodi bywyd gwyllt fel rhan o City Nature Challenge 2025: Abertawe!
Cadw lle a rhagor o wybodaeth: https://www.ticketsource.co.uk/penllergare
Planhigion â Phwrpas
Dydd Sul 27 Ebrill, 10.00am
Cwrdd y tu allan i Ganolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell Bay Road, Caswell SA3 3BN
Digwyddiad dan arweiniad Karen Jones (Swyddog Prosiect Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob)
Dewch i ddarganfod y planhigion gwych sy'n byw yng Nghoed yr Esgob a dysgu am rai o'u trysorau cudd.
- Digwyddiad sy'n addas i blant - dim cyfyngiad oedran
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r dirwedd
- Mae ffïoedd parcio arferol yn berthnasol. Mae signal yn wael yn yr ardal felly efallai na fydd modd i chi dalu gyda cherdyn - dewch ag arian parod
- Mae gan y llwybrau risiau serth a gallent fod yn fwdlyd
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-zzroanp
Cipolwg cyflym ar fioamrywiaeth Twyni Crymlyn
Dydd Sul 27 Ebrill, 11.00am
Porth Bwaog Twyni Crymlyn, Abertawe SA1 8EN
What3Words: super.reclusive.waxes
Byddwn yn ceisio nodi cymaint o fywyd gwyllt â phosib mewn dwy awr mewn 100m sgwâr yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn. Twyni Crymlyn yw gwarchodfa natur Prifysgol Abertawe a dyma un o'r ardaloedd olaf o anialwch yng nghyffiniau Bae Abertawe. Ymunwch â'ni i weld gwenyn, ieir bach yr haf ac unrhyw bryfed eraill y gallwn eu gweld.
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
Rhaid cadw lle: https://www.eventbrite.co.uk/e/crymlyn-burrows-mini-bioblitz-tickets-1267162379789?aff=oddtdtcreator
Her Natur y Ddinas ym Mae Abertawe
Dydd Sul 27 Ebrill, 11.00am
Byddwn yn cwrdd ar y traeth, gyferbyn â maes parcio'r Rec, Brynmill, Abertawe SA1 3UP
What3Words: mimic.clean.pans
Ymunwch ag Ysgol Goedwig Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot am weithgareddau ysgol arfordirol ar y traeth.
Rhaid cadw lle: https://eequ.org/book/1957/dates
Taith Gerdded Natur Coetir Cilfái
Dydd Sul 27 Ebrill, 11.00am
Maes parcio am ddim Mynydd Cilfái, St Thomas, Abertawe SA1 7FR
Ewch am dro o amgylch coetiroedd Mynydd Cilfái er mwyn arsylwi ar y natur a bioamrywiaeth sy'n adfer.
Cafwyd adferiad ecolegol anhygoel yno dros y 40 mlynedd diwethaf.
- Mae esgidiau cadarn yn angenrheidiol gan y bydd rhai o'r llwybrau'n fwdlyd ac yn greigiog
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-eanpkpe
Saffari'r traethlin
Dydd Sul 27 Ebrill, 11.00am - 12.30pm
Caffi The Junction, Hen Adeilad yr Orsaf, Mumbles Road, Blackpill, Abertawe SA3 5AS
Taith dywys drwy dwyni'r blaendraeth a'r draethlin, gan gofnodi planhigion ac anifeiliaid ar gyfer Her Natur 2025: Abertawe. Arweinir y digwyddiad gan Mr Teifion Davies - Prif Arddwr yng Ngerddi Clun.
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
- Digwyddiad sy'n addas i blant - oedran argymelledig 8+
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r dirwedd
- Nid yw'r digwyddiad hwn yn addas i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn
- Mae parcio ar gael ym maes parcio tafarn The Woodman (Mumbles Rd) neu Barc Dyffryn Clun
- Croesewir cŵn sy'n ymddwyn yn dda ar dennyn
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-moxxmxy
Llwybr clychau'r gog
Dydd Sul 27 Ebrill, 1.30pm
Maes parcio ar ben uchaf Mill Lane, Blackpill, Sgeti, Abertawe SA3 5BZ
What3Words: hooks.legend.pocket
Ymunwch â Phrosiect Cymunedol Dyffryn Clun ar daith gerdded hamddenol trwy ochr orllewinol Parc Gwledig Dyffryn Clun i weld clychau'r gog ac unrhyw olygfeydd naturiol diddorol eraill.
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r dirwedd
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
- Mae'r tir yn anwastad ac efallai'n fwdlyd ac mae llethrau serth
- Mae lleoedd parcio ar gael, ond mae'r maes parcio'n fach felly rydym yn argymell eich bod chi'n rhannu ceir
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-pqergdp
Taith Gerdded Bywyd Gwyllt Cors Crymlyn
Dydd Sul 27 Ebrill, 2.00pm
Crymlyn Bog Visitor Centre, Dinam Rd, Bôn-y-maen, Abertawe SA1 8LN
What3Words: fish.grow.forest
Ewch am dro hamddenol yng Nghors Crymlyn, y gors iseldir fwyaf yng Nghymru, wrth ddarganfod ei bywyd gwyllt amrywiol. Mae'r tir yn wastad ar y cyfan ond gall fod yn fwdlyd ac yn wlyb mewn mannau, felly awgrymir i chi wisgo esgidiau cadarn.
- Croeso i bawb
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-rpvmpxg
Dydd Llun
Cerdded i Ben Pyrod
Dydd Llun 28 Ebrill, 10.30am
Byddwn yn cwrdd ger ffens o flaen siop Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhosili, Abertawe SA3 1PR
What3Words: giggled.jetliner.extra
Ymunwch â ni am dro o flaen siop Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ben pellaf Pen Pyrod ac yn ôl. Ar y ffordd, byddwn yn trafod hanes cyfoethog Rhosili a'r bywyd gwyllt sy'n byw yno.
Pan fyddwch yn gadael y tir mawr ac yn cerdded ar draws y sarn, mae'n daith gerdded heriol gyda llethrau serth, pantau hir a thir garw iawn. Bydd angen i chi ddringo'r rhan olaf i gyrraedd brig y pen pellaf (neu gallwch aros ar y gwaelod). Am y rheswm hwn, ni argymhellir dod â chŵn.
Mae gennym gyfnod o 5 awr yn unig i gerdded draw i Ben Pyrod, sy'n gwneud y daith gerdded yn fwy diddorol a heriol.
Arweinir y daith hon gan Kathryn Thomas (Swyddog y Prosiect Cymunedau a Natur, Tirwedd Genedlaethol Gŵyr).
- Pellter: tua 7km (5 milltir)
- Mae esgidiau cadarn yn hanfodol
- Rhaid i unigolion dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
- Lefel anhawster: anodd
- Parcio: gellir parcio ym maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol; codir tâl i bobl nad ydynt yn aelod
- Teithio ar y bws: bws 118 o Abertawe i Rosili
- Mae'n syniad da dod â byrbryd i'w fwynhau ar y pen pellaf
- Toiledau ym maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/walk-to-the-worm/2025-04-28/10:30/t-xmkzaxo
Os ceir tywydd anaddas ar gyfer dydd Llun 28.04.24, efallai y caiff y dyddiad ei symud ymlaen i ddydd Sul 27.04.24 (i ddechrau am 9.45am) yn lle.
Os bydd y dyddiad yn newid, hysbysir pob deiliaid tocyn drwy e-bost erbyn diwedd dydd Gwener 25.04.25 fan bellaf.
Mynd am dro ar hyd llwybr natur Campws Singleton
Dydd Llun 28 Ebrill, 12.00pm
Cwrdd o flaen Tŷ Fulton, Parc Singleton, Prifysgol Abertawe, Sgeti, Abertawe SA2 8PP
Ymunwch â'n Swyddog Bioamrywiaeth i fynd am dro amser cinio o gwmpas Campws Singleton i weld pa fywyd gwyllt sydd yno yn ystod y gwanwyn, fel rhan o Her Natur Dinas Abertawe.
- Bydd mannau parcio ar gael oddi ar y campws ger y dafarn Pub on the Pond neu yn y Rec
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
Rhaid cadw lle: https://www.eventbrite.co.uk/e/nature-trail-walk-for-swanseas-city-nature-challenge-tickets-1267438706289?aff=ebdsoporgprofile
Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.