Digwyddiadau amgylcheddol - Gorffennaf

Sadwrn 2 i Sul 10 Gorffennaf - Wythnos Natur Cymru
Amserau a lleoliadau amrywiol.
Dathliad blynyddol, ers 2002, o fywyd gwyllt bendigedig Cymru gyda llu o ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol ac ar-lein yn amlygu gwahanol gynefinoedd - coetiroedd, gwlyptiroedd, dolydd, mawnogydd, morol ac arfordirol, a chynefinoedd trefol a'r myrdd o rywogaethau y gallwn ddod ar eu traws.
Am fanylion y digwyddiadau a'r gweithgareddau y gallwch ddod i ymuno â hwy, ewch i www.biodiversitywales.org.uk/Wythnos-Natur-Cymru
Sadwrn 2 Gorffennaf - Celf Natur yng Nghoed yr Esgob
10.00am - 12 ganol dydd, Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell, Gŵyr SA3 1LS
Bore o ddarganfod a chreadigrwydd yn defnyddio'r hyn sydd gan natur i'w gynnig. Gwisgwch hen ddillad, ac mae croeso i bob oedran. Rhaid cadw lle ymlaen llaw drwy e-bostio.
Cyswllt: Karen Jones, Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Karen.Jones@swansea.gov.uk
Sadwrn 2 Gorffennaf - Bore Gwirfoddoli Mynwent Babell
10.00am - 12 ganol dydd, wrth fynedfa'r fynwent ger 119 Heol Ganol, Cwmbwrla, Abertawe SA5 8HQ
Helpwch i greu lle ar gyfer natur a phobl yng nghalon Cwmbwrla yn y fynwent hon a esgeuluswyd yn fawr. Dewch am awyr iach ac ymarfer corff gwych, i gyfarfod pobl newydd, a chanfod mwy am hanes lleol a natur ar garreg eich drws. Bydd y tasgau yn cynnwys torri, palu a chodi drain, codi sbwriel a datblygu gardd. Darperir offer a menig ond gwisgwch hen ddillad ac esgidiau synhwyrol ac efallai dewch â diod a bisged ar gyfer eich egwyl.
Cyswllt: Jo Mullett, knotweedcontrol@gmail.com
Sadwrn 2 Gorffennaf - Darganfod Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich
10.00am-1.00pm, pen y traeth y maes parcio (nesaf at fwyty Beach House) Oxwich, Gŵyr SA3 1LS
Bydd warden y warchodfa, Nick Edwards, yn arwain y daith gerdded o amgylch y twyni, ar hyd llwybr estyllod i weld adar gwyllt, llu o weision y neidr ac efallai ambell ddyfrgi cyn archwilio banc o wiberod i weld y nadroedd cyn cerdded trwy'r twyni ac yn ôl ar hyd y traeth. Os byddwch yn defnyddio maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger y traeth, bydd rhaid talu wrth y fynedfa.
Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd ac esgidiau gwrth-ddŵr. Rhaid i blant o dan 16 oed fod gydag oedolyn. Gallwch ddod â'ch diodydd a'ch byrbrydau eich hun neu eu prynu yn y stondinau ar y traeth.
Cadwch le ar gyfer pawb sydd am ddod drwy ddefnyddio dolen Eventbrite - https://www.eventbrite.co.uk/e/discover-oxwich-national-nature-reserve-tickets-324324803217
Cyswllt: Grŵp Abertawe Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, SwanseaWTGroup@outlook.com
Sadwrn 2 Gorffennaf - Taith Gerdded Penmaen a Llwybr yr Arfordir
11.00am, Maes Parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Penmaen, Gŵyr SA3 2HQ
Taith gerdded 6 milltir a fydd yn cynnwys rhan o lwybr yr arfordir, yn archwilio Coed Nicholaston a llwybr ar hyd rhannau isaf Cefn Bryn. O gael tywydd ffafriol, dylid gweld golygfeydd gwych. Ceir ambell lethr serth. Rhaid cadw cŵn ar dennyn byr.
Cyswllt: Morag Eddyshaw, Ramblers Abertawe, 07751 444535
Sul 3 Gorffennaf - Sesiwn Gwirfoddolwyr Chwarel Rosehill
Chwarel Rosehill, Mount Pleasant, Abertawe
Sesiwn waith reolaidd: codi sbwriel, cynnal a chadw a thasgau cyffredinol eraill. Dewch i archwilio trysor cudd ger canol dinas Abertawe. Darperir te a choffi os yw'r tywydd yn addas.
Cyswllt: Rosemary ar 07966 581243 neu Viv ar 07917 569263
Mawrth 5 Gorffennaf (a phob dydd Mawrth/Iau) - Sesiwn Wirfoddoli yn Fferm Gymunedol Abertawe
10.00am - 4.00pm, Fferm Gymunedol Abertawe, 2 Heol Pontarddulais, Fforest-fach, Abertawe SA5 4BA
Cyfle i ddysgu pethau newydd, cysylltu â phobl, bod yn actif, cymryd sylw a rhoi'n ôl i'r gymuned yn unig fferm ddinas Cymru - mae'r rhain i gyd yn bethau mae gwyddoniaeth yn dweud fydd yn gwneud i chi deimlo'n well! Naill ai porthi neu garthu adeiladau'r anifeiliaid, garddio organig, cymryd rhan mewn tasgau natur a chadwraeth, adeiladu a chodi neu gynnal a chadw'r safle, mae gennym rhywbeth i bawb sydd am fod yn yr awyr agored ac sydd am ddysgu sgiliau newydd.
Cyswllt: Katharine, Fferm Gymunedol Abertawe, 07784 810139
Mercher 6 Gorffennaf (a phob bore Mercher) - Taith Beicio Cydymaith BikeAbility Cymru
10.00am-12 ganol dydd, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU
Am feicio mewn grŵp am hwyl neu gyfeillgarwch? Ymunwch â ni ar gyfer ein teithiau beicio cydymaith bob dydd Mercher o'n safle yn Nyfnant. Taith feicio hawdd gyda chymorth oedolion ar gyfer pob gallu. £3 y person.
Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk
Mercher 6 Gorffennaf - Trychfilod Tlws a Mân-filod Hudol
4.00pm-5.00pm, Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell, Gŵyr SA3 1LS
Dewch i ddarganfod byd hudolus trychfilod yng Nghoed yr Esgob. Ble mae'n nhw'n byw? Pwy sy'n bwyta pwy ynghanol yr isdyfiant? Pam mae nhw mor bwysig? Llawer o ffeithiau diddorol am y creaduriaid anhygoel hyn. Rhaid cadw lle ymlaen llaw drwy e-bostio.
Cyswllt: Karen Jones, Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Karen.Jones@swansea.gov.uk
Iau 14 Gorffennaf - Taith Gerdded y Mwmbwls a Langland gyda'r Hwyr
7.00pm, Caffi Forte, Lôn Plunch, Y Mwmbwls SA3 4JT
Taith gerdded 3-4 milltir bleserus gyda'r hwyr ar hyd llwybr yr arfordir a'r clogwyni i Langland ac yn ôl. Wedyn awn i The Pilot am luniaeth. Rhaid cadw cŵn ar dennyn byr.
Cyswllt: Christine Rees, Ramblers Abertawe, 01792 403547 neu 07967 716568
Sadwrn 16 Gorffennaf - Ymlusgiaid a Blodau Gwyllt gyda Ieuenctid Cyfeillion Gŵyr
9.30am - 11.30am, Cae Nitten, Middleton, Gŵyr SA3 1PJ
Ymunwch â Ieuenctid Cyfeillion Gŵyr i archwilio'r noddfa bywyd gwyllt anhygoel yng Nghae Nitten. Byddwn yn cyfarfod yn gynnar er mwyn canfod yr ymlusgiaid ac yna gweld y blodau gwyllt yn y lleoliad unigryw hwn.
Cyswllt: Dawn Thomas, Ieuenctid Cyfeillion Gŵyr, 01792 392919 / dawn.thomas@reynoldston.com
Iau 21 Gorffennaf - Taith Gerdded Llwchwr gyda'r Hwyr
6.30pm, maes parcio'r blaendraeth, Heol Gwynfe, Casllwchwr SA4 6TE
Taith gerdded 4 milltir hawdd oddeutu 2 awr, gan ddechrau ar y blaendraeth yna tro bach ar hyd y foryd ac yna o amgylch Casllwchwr, gan nodi sawl lleoliad o ddiddordeb hanesyddol a chrefyddol. Ac yn olaf, cerdded ar draws Pont Llwchwr cyn dychwelyd i'r man cychwyn. Rhaid cadw cŵn ar dennyn byr.
Cyswllt: Helen Sharp a Pam Heneberry, Ramblers Abertawe, 07557 350846
Sadwrn 23 Gorffennaf - Taith Gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt
11.00am, Cornel Pyle, Llandeilo Ferwallt SA3 3HA
Taith gerdd 4 milltir hawdd: O siantri i leoliad llofruddiaeth. Taith gerdded ar hyd dyffryn hanesyddol Llandeilo Ferwallt i Bwll Du ac ar hyd yr arfordir i Gildraeth Brandi. Parciwch ar y stryd ar Heol Brandy Cove.
Cyswllt: John France, Ramblers Abertawe, 01792 547439 neu 07719 829106
Mawrth 26 Gorffennaf - Gŵyl Cerfluniau Traeth 2022 (Caswell)
10.00am - 4.00pm, Traeth Caswell, Gŵyr
Gŵyl Cerfluniau Flynyddol, bellach yn ei 18fed blwyddyn gyda gweithdai celf amgylcheddol am ddim. Helpwch dîm o artistiaid i greu cerfluniau traeth dros dro sy'n ysbrydoli, yn hysbysu ac yn addysgu. Gweithdai galw heibio am ddim, ac mae croeso i bob oed a gallu. Dysgwch sgiliau a thechnegau celf newydd. Dewch â'ch bwced a'ch rhaw eich hun, a pheidiwch ag anghofio het ac eli haul.
Ewch i www.artandeducationbythesea.co.uk am ddiweddariadau am yr ŵyl.
Cyswllt: Sara Holden, Sculpture by the Sea UK, 01792 367571
Mawrth 26 Gorffennaf - Plantos ar Deiars gyda BikeAbility Cymru
11.30am - 12.30pm, BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU
Blantos a phlant bach, dewch i chwarae gyda ni. Mae gennym sgwteri, treiciau, beiciau cydbwysedd a llawer mwy. Ymunwch â ni am hwyl a gemau, gan ddechrau arni'n ifanc a chael ychydig o hwyl. £6 y plentyn.
Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk
Mawrth 26 Gorffennaf - Sgiliau Beicio gyda BikeAbility Cymru
2.00pm - 3.00pm, BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU
Gemau beicio, cynnal a chadw sylfaenol beiciau a hyfforddiant sgiliau beicio wrth baratoi ar gyfer Lefel 1 y Safonau Cenedlaethol. £10 y plentyn.
Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk
Mercher 27 Gorffennaf - Gŵyl Cerfluniau Traeth 2022 (Oxwich)
10.00am - 4.00pm, Traeth Oxwich, Gŵyr
Gŵyl Cerfluniau Flynyddol, bellach yn ei 18fed blwyddyn gyda gweithdai celf amgylcheddol am ddim. Helpwch dîm o artistiaid i greu cerfluniau traeth dros dro sy'n ysbrydoli, yn hysbysu ac yn addysgu. Gweithdai galw heibio am ddim, ac mae croeso i bob oed a gallu. Dysgwch sgiliau a thechnegau celf newydd. Dewch â'ch bwced a'ch rhaw eich hun, a pheidiwch ag anghofio het ac eli haul.
Ewch i www.artandeducationbythesea.co.uk am ddiweddariadau am yr ŵyl.
Cyswllt: Sara Holden, Sculpture by the Sea UK, 01792 367571
Mercher 27 Gorffennaf - Hyfforddiant Beicio Diogelwch Ffyrdd: Lefel 1
1.00pm - 3.00pm, BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU
Lefel 1 y Safonau Diogelwch Ffyrdd Cenedlaethol i blant 8 oed ac yn hŷn. Cynhelir yr hyfforddiant yn ein lleoliad heb draffig a byddwn yn eich helpu i ddysgu i reoli eich beic. Rhaid i'r hyfforddeion allu reidio beic. £20 y person. Rhaid cadw lle.
Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk
Iau 28 Gorffennaf - Hyfforddiant Beicio Diogelwch Ffyrdd: Lefel 2
10.00am - 2.30pm,BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU
Lefel 2 y Safonau Diogelwch Ffyrdd Cenedlaethol i blant 10 oed ac yn hŷn. Cynhelir yr hyfforddiant ar heolydd preswyl tawel a bydd yn rhoi profiad beicio go iawn fel y gallwch ddelio â thraffig ar deithiau byr megis beicio i'r ysgol neu'r gwaith. Rhaid i'r hyfforddeion fod wedi pasio hyfforddiant Lefel 1. £30 y person. Rhaid cadw lle.
Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk
Iau 28 Gorffennaf - Gŵyl Cerfluniau Traeth 2022 (Porth Einon)
10.00am - 4.00pm, Traeth Porth Einon, Gŵyr
Gŵyl Cerfluniau Flynyddol, bellach yn ei 18fed blwyddyn gyda gweithdai celf amgylcheddol am ddim. Helpwch dîm o artistiaid i greu cerfluniau traeth dros dro sy'n ysbrydoli, yn hysbysu ac yn addysgu. Gweithdai galw heibio am ddim, ac mae croeso i bob oed a gallu. Dysgwch sgiliau a thechnegau celf newydd. Dewch â'ch bwced a'ch rhaw eich hun, a pheidiwch ag anghofio het ac eli haul.
Ewch i www.artandeducationbythesea.co.uk am ddiweddariadau am yr ŵyl.
Cyswllt: Sara Holden, Sculpture by the Sea UK, 01792 367571
Gwener 29 Gorffennaf - Gŵyl Cerfluniau Traeth 2022 (Bae Breichled)
10.00am - 4.00pm, Traeth Bae Breichled, Y Mwmbwls
Gŵyl Cerfluniau Flynyddol, bellach yn ei 18fed blwyddyn gyda gweithdai celf amgylcheddol am ddim. Helpwch dîm o artistiaid i greu cerfluniau traeth dros dro sy'n ysbrydoli, yn hysbysu ac yn addysgu. Gweithdai galw heibio am ddim, ac mae croeso i bob oed a gallu. Dysgwch sgiliau a thechnegau celf newydd. Dewch â'ch bwced a'ch rhaw eich hun, a pheidiwch ag anghofio het ac eli haul.
Ewch i www.artandeducationbythesea.co.uk am ddiweddariadau am yr ŵyl.
Cyswllt: Sara Holden, Sculpture by the Sea UK, 01792 367571
Sadwrn 30 Gorffennaf - Gŵyl Cerfluniau Traeth 2022 (Blackpill)
10.00am - 4.00pm, traeth ger y lido, Blackpill, Abertawe
Gŵyl Cerfluniau Flynyddol, bellach yn ei 18fed blwyddyn gyda gweithdai celf amgylcheddol am ddim. Helpwch dîm o artistiaid i greu cerfluniau traeth dros dro sy'n ysbrydoli, yn hysbysu ac yn addysgu. Gweithdai galw heibio am ddim, ac mae croeso i bob oed a gallu. Dysgwch sgiliau a thechnegau celf newydd. Dewch â'ch bwced a'ch rhaw eich hun, a pheidiwch ag anghofio het ac eli haul.
Ewch i www.artandeducationbythesea.co.uk am ddiweddariadau am yr ŵyl.
Cyswllt: Sara Holden, Sculpture by the Sea UK, 01792 367571
Sul 31 Gorffennaf - Sioe Gŵyr
9.00am-5.00pm ym Mharc Castell Penrhys, Reynoldston, Gŵyr SA3 1LN
Hwyl ac adloniant i'r teulu cyfan, gyda chynifer o bethau i'w gweld a'u gwneud.
Nod Sioe Gŵyr yw bod yn sioe amaethyddol draddodiadol iawn. Yn gyfle i ffermwyr lleol ddod ynghyd a dod ag enghreifftiau o'u stoc gorau, ac i atgoffa pa mor bwysig iawn yw ffermio i'n hardal. Ceir nifer o gyfleoedd i weld a phrynu crefftau traddodiadol amrywiol, ynghyd â'r stondinau bwyd poblogaidd iawn gyda llawer o samplau i'w blasu hefyd.
Mae gan y sioe rhywbeth at ddant y teulu cyfan, felly os ydych yn mwynhau cefn gwlad dewch i ymuno â ni am ddiwrnod gwych. Rydym wrth ein bodd yn ailgychwyn, wedi dwy flynedd ar gau, gyda sioe fwy a gwell ac mae'r Cyfarwyddwyr yn edrych ymlaen at groesawu ein harddangoswyr ac ymwelwyr.
Cyswllt: 07470 494 806 neu gowershow@live.co.uk
Cynhyrchwyd y rhestriad hwn gan Dîm Cadwraeth Natur Cyngor Abertawe gyda chyllid grant Partneriaeth Natur Leol Llywodraeth Cymru. Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.