Digwyddiadau amgylcheddol - Hydref
Gweithdy plygu perthi
8 + 9 Hydref, 10.00am - 4.00pm
Tŷ bynciau Hardingsdown Isaf, Llangynydd, Gŵyr, Abertawe SA3 1HT
What3Words: ///trouser.liners.brotherly
Mae plygu perthi'n fwy na chrefft wledig yn unig; mae'n sgil diamser sy'n annog bywyd yn ein tirweddau, gan greu coridorau sy'n llawn bywyd gwyllt yn ein cefn gwlad. Er hynny, mae'r draddodiad werthfawr hon yn diflannu'n gyflym. Ymunwch â ni i ddysgu mwy a chadw'r sgil yn fyw.
Yn y gweithdy deuddydd hwn, byddwn yn trafod y pethau sylfaenol, gan gynnwys dulliau rhanbarthol gwahanol a phwrpas plygu perthi, a byddwn yn cael profiad ymarferol gyda'r offer.
- Dewch ag esgidiau cadarn, haenau cynnes (nid eich dillad gorau oherwydd gallant fynd yn frwnt), dillad dwrglos a menig gwaith os oes gennych rai!
- Dewch â chinio pecyn a diod (darperir te a bisgedi)
- Mae'r digwyddiad yn addas i blant 18+ oed
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/two-day-hedgelaying-workshop/2025-10-08/10:00/t-avrojkl
Taith gerdded biofflworoleuol
10 Hydref, 7.00pm
Man cwrdd: Heol Glan-nant, Ynysforgan Woods, Abertawe SA6 6QE
What3Words: ///local.casino.losses
Ymunwch â ni am antur arbennig wrth i ni archwilio'r byd biofflworoleuol disglair!
Mae biofflworoleuedd yn ffenomen naturiol ddiddorol lle bydd organebau penodol yn amsugno golau ac yn ei allyrru fel lliwiau llachar. Byddwn yn archwilio hud y sioe oleuadau cudd hon ym myd natur ac yn darganfod pa greaduriaid sy'n dod yn fyw yng ngolau uwchfioled.
Arweinir y digwyddiad hwn gan y fenter Nature on Your Doorstep.
- Mae'n addas ar gyfer unrhyw un 8+ oed neu'n hŷn ac mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
- Dylech wisgo dillad cynnes oherwydd byddwn yn cerdded yn araf.
- Rydym yn argymell esgidiau cadarn (mae esgidiau cerdded yn ddelfrydol ond bydd esgidiau rhedeg yn ddigonol) a throwsus hir i osgoi danadl poethion.
- Byddwn yn darparu sbectol diogelwch ac mae'n rhaid i chi eu gwisgo drwy gydol y daith er diogelwch.
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-dvyrryv
Adar mudol y gaeaf - archwilio Moryd Llwchwr
12 Hydref, 10.00am
Man cwrdd: Man Agored Blaendraeth Casllwchwr (maes parcio), Parc Glan y Môr, 3 Gwynfe Road, Casllwchwr, Abertawe SA4 6TA
Ymunwch â'r ymgyrch Nature on Your Doorstep ar gyfer taith gerdded Adar Mudol y Gaeaf ar hyd moryd drawiadol Llwchwr.
Wrth i'r gaeaf ddod, daw'r foryd yn arhosfan hanfodol ac yn fan gaeafu ar gyfer amrywiaeth o adar mudol. Cewch ddarganfod pa rywogaethau sy'n gwneud eu taith dymhorol i'r cynefin cyfoethog hwn, dysgu sut i'w hadnabod a chael gwybod pam y mae'r foryd hon mor bwysig i adar yn ystod y misoedd oerach.
- Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
- Mae'r digwyddiad yn dibynnu ar y tywydd
- Gwisgwch ddillad addas ac esgidiau cadarn sy'n addas ar gyfer y tywydd a'r tir
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-zzeyydr
Taith gerdded biofflworoleuol
17 Hydref, 7.00pm
Cwrdd wrth fynedfa Parc Coed Bach ar Coed Bach Road, Pontarddulais, Abertawe, SA4 8LG
What 3 words: ///themes.decanter.destined
Ymunwch â ni am antur arbennig wrth i ni archwilio'r byd biofflworoleuol disglair!
Mae biofflworoleuedd yn ffenomen naturiol ddiddorol lle bydd organebau penodol yn amsugno golau ac yn ei allyrru fel lliwiau llachar. Byddwn yn archwilio hud y sioe oleuadau cudd hon ym myd natur ac yn darganfod pa greaduriaid sy'n dod yn fyw yng ngolau uwchfioled.
Arweinir y digwyddiad hwn gan y fenter Nature on Your Doorstep.
- Mae'n addas ar gyfer unrhyw un 8+ oed neu'n hŷn ac mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
- Dylech wisgo dillad cynnes oherwydd byddwn yn cerdded yn araf
- Rydym yn argymell esgidiau cadarn (mae esgidiau cerdded yn ddelfrydol ond bydd esgidiau rhedeg yn ddigonol) a throwsus hir i osgoi danadl poethion
- Byddwn yn darparu sbectol diogelwch ac mae'n rhaid i chi eu gwisgo drwy gydol y daith er diogelwch
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-vvlagvx
Hela ffyngau
18 Hydref, 10.00am - 12.00pm
Coed yr Esgob, Caswell Bay Road, Caswell, Abertawe, SA3 3BN
What3words: ///shampoos.arch.browsers
Cyfle i ddysgu popeth yr oeddech chi am ei wybod am fadarch gwyllt.
- Dewch â basged gasglu neu gynhwysydd Tupperware
- Gwisgwch ddillad priodol ar gyfer y tywydd a'r tir
- Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
- Yn ddibynnol ar y tywydd
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-yarlnzo
Gweithdy plygu perthi
20 + 21 Hydref, 10.00am - 4.00pm
Tŷ bynciau Hardingsdown Isaf, Llangynydd, Gŵyr, Abertawe SA3 1HT
What3Words: ///trouser.liners.brotherly
Mae plygu perthi'n fwy na chrefft wledig yn unig; mae'n sgil diamser sy'n annog bywyd yn ein tirweddau, gan greu coridorau sy'n llawn bywyd gwyllt yn ein cefn gwlad. Er hynny, mae'r draddodiad werthfawr hon yn diflannu'n gyflym. Ymunwch â ni i ddysgu mwy a chadw'r sgil yn fyw.
Yn y gweithdy deuddydd hwn, byddwn yn trafod y pethau sylfaenol, gan gynnwys dulliau rhanbarthol gwahanol a phwrpas plygu perthi, a byddwn yn cael profiad ymarferol gyda'r offer.
- Dewch ag esgidiau cadarn, haenau cynnes (nid eich dillad gorau oherwydd gallant fynd yn frwnt), dillad dwrglos a menig gwaith os oes gennych rai!
- Dewch â chinio pecyn a diod (darperir te a bisgedi)
- Mae'r digwyddiad yn addas i blant 18+ oed
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/two-day-hedgelaying-workshop/2025-10-20/10:00/t-nolzagq
Ffyngau Ffantastig!
21 Hydref, 7.15pm
Neuadd Gymunedol Eglwys St Hilary, Gower Road, Cilâ SA2 7DZ
Paratowch i glywed ffeithiau a straeon rhyfeddol ac annisgwyl am fadarch, caws llyffant a ffyngau rhyfedd yn y sgwrs hon gan Teifion Davies, gŵr sy'n frwdfrydig dros ffyngau a phen-garddwr gynt yng Ngerddi Clun, Abertawe, sydd bellach wedi ymddeol. Mae Teifion yn arwain helfeydd ffyngau ar gyfer grŵp Abertawe o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru bob hydref.
Bydd y sgwrs hon yn rhoi'r cyfle i chi ymlacio ac eistedd mewn lle cynnes a chysurus i glywed mwy gyda phaned a bisgeden. Bydd amser hefyd am gwestiynau felly os ydych chi wedi dod o hyd i ffwng anghyffredin yr hydref hwn, dewch ag ef gyda chi - neu dewch â llun da ohono, a bydd Teifion yn gwneud ei orau glas i'ch helpu i'w adnabod!
- Yn addas i bob oed, ond rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
- Neuadd gwbl hygyrch gyda thoiledau hygyrch a lleoedd parcio i'r anabl gerllaw
- Gweinir lluniaeth o 7.15pm cyn y sgwrs
- Gofynnir am gyfraniad o o leiaf £1 yr oedolyn
- Dim cŵn ac eithrio cŵn tywys
https://www.eventbrite.co.uk/e/fascinating-fungi-tickets-1736909185129 neu galwch heibio ar y noson
Saffari glan môr ar Bier y Mwmbwls
25 Hydref, 1.30pm - 3.30pm
Cwrdd wrth ymyl y grisiau sy'n mynd i lawr i'r traeth, i'r chwith o fynedfa'r pier, Mumbles Road, Y Mwmbwls, Abertawe SA3 4EN
Ymunwch â ni am Saffari Glan Môr ar lannau creigiog Pier y Mwmbwls dan arweiniad dau fiolegydd morol arbenigol.
Gyda'n gilydd, byddwn yn archwilio'r bywyd morol anhygoel sydd ar hyd arfordir Cymru - gan chwilio am grancod gwych, sêr môr prydferth, pysgod diddorol a gwlithod môr prin a lliwgar o bosib.
Bydd gennych gyfle i ddod yn wyddonydd morol am y diwrnod, gan ein helpu i gofnodi ein darganfyddiadau a chyfrannu at brosiectau gwyddoniaeth go iawn i ddinasyddion.
Bydd yn berffaith i bobl chwilfrydig o bob oedran - dewch i ddarganfod rhyfeddodau cudd ein harfordir.
- Mae croeso i blant, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
- Dewch â digon o ddillad i'ch cadw'n gynnes
- Gwisgwch esgidiau â gafael sy'n addas ar gyfer sgrafangu ar hyd y glannau creigiog, esgidiau glaw neu esgidiau cerdded
Rhaid cadw lle: https://www.eventbrite.co.uk/e/seashore-safari-mumbles-pier-tickets-1705660569679?aff=oddtdtcreator
Taith gerdded chwilota am ffyngau
26 Hydref, 10.00am (gohiriwyd o 19 + 4 Hydref)
Man cwrdd: Maes Parcio Ynys Newydd, Derwen Fawr Road, Sgeti, Abertawe SA2 8DU
What3words: ///cases.buck.closed
Ymunwch â menter Nature on Your Doorstep am sesiwn Chwilota am Ffyngau ddiddorol ym Mharc Gwledig Dyffryn Clun fel rhan o ddathliadau Diwrnod Ffwng y DU!
Dewch i ddarganfod byd dirgel a hudolus ffyngau wrth i ni archwilio cynefin coetir cyfoethog y parc. Gallwch ddysgu sut i adnabod amrywiaeth o rywogaethau ffwng a datgelu eu rôl hanfodol yn ein hecosystemau.
- Sylwer: Taith gerdded addysgol yw hon, nid digwyddiad chwilota.
- Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
- Mae'r digwyddiad yn dibynnu ar y tywydd
- Gwisgwch ddillad addas ac esgidiau cadarn sy'n addas ar gyfer y tywydd a'r tir
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-avrzroa
Diwrnod tasgau cadwraeth
29 Hydref, 10.00am - 2.00pm
Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell Bay Road, Newton, Abertawe, SA3 3BN
What3words: ///shampoos.arch.browsers
Ymunwch â ni yng Ngwarchodfa Natur Leol hardd Coed yr Esgob i helpu gydag ambell dasg rheoli cynefin.
Byddwn yn cael gwared ar rai rhywogaethau anfrodorol a goresgynnol er mwyn caniatáu i rywogaethau eraill ffynnu. Dewch i fwynhau'r awyr iach, dysgu am fywyd gwyllt lleol a gwneud gwahaniaeth go iawn. Does dim angen profiad blaenorol, dim ond brwdfrydedd.
- Darperir te a bisgedi
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r tir a rhai nad oes ots gennych eu bod eu mynd yn frwnt
- Darperir yr holl gyfarpar
- Nid yw'r gweithgarwch hwn yn addas i blant
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-ganoojk
Sêr y Nos: Darganfyddwch ryfeddod yr awyr dywyll yn Rhosili
31 Hydref, 6.30pm - tua 8.30pm
Parcio at faes parcio Ymddiredolaeth Genedlaethol Rhosili (taliad).
Edmygwch y sêr gyda thelesgopau a dysgwch am y bywyd gwyllt mae'r awyr dywyll yn cynnal.
Mae prosiect Sêr y Nos Bae Abertawe, rhan o Natur am Byth (rhaglen flaenllaw Cymru ar gyfer adfer rhywogaethau) yn cynnal noson dathlu rhyfeddodau'r awyr dywyll. Gyda Chymdeithas Seryddol Abertawe a Gwyr Tirwedd Genedlaethol, mae'n siŵr o fod yn noson wych, a rhywbeth bach yn wahanol ar Noson Calan Gaeaf.
Croeso i blant, dan 16 oed i fod yng nghwmni oedolyn. Dim cŵn os gwelwch yn dda.
Gwisgwch dillad cynnes, mae'n bosib bydd hi'n oer! Mae croeso i chi ddod â byrbrydau a diodydd ar gyfer y noson - rhaid mynd â'r holl sbwriel adref.
Dibynnol ar y tywydd (dyddiad wrth gefn Dydd Sadwrn 1 Tachwedd 2025).
Rhaid cadw lle: https://www.eventbrite.com/e/stars-of-the-night-ser-y-nos-tickets-1833226773629?aff=oddtdtcreator%20or%20https://tinyurl.com/2s4y7yyn
Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.
