Digwyddiadau amgylcheddol - Ionawr
Gweithdy Plygu Perthi gyda Malcolm Edwards (am ddim)
- 11 + 12 Ionawr
- 14 + 15 Ionawr
- 16 + 17 Ionawr
- 18 + 19 Ionawr
- 22 + 23 Ionawr
10.00am - 4.00pm
Argymhellir yn gryf eich bod yn dod am 2 ddiwrnod yn olynol.
Y man cwrdd yw Maes parcio Bae Caswell: Caswell Road, Caswell, Abertawe SA3 3BS
Mae Malcolm yn blygwr perthi arobryn a chanddo dros 25 mlynedd o brofiad. Mae plygu perthi'n fwy na thasg i Malcolm - mae'n alwedigaeth.
Gan fod y grefft o blygu perthi mewn perygl o gael ei rhoi ar y Rhestr Goch ar gyfer crefftau sydd mewn perygl ym Mhrydain, mae Malcolm yn frwd am warchod ein treftadaeth Gymreig oherwydd bydd colli'r sgiliau hyn yn arwain at golli amrywiaeth ar dir ffermio.
Yn y gweithdy deuddydd hwn, bydd Malcolm yn rhoi sylw i'r hanfodion, gan gynnwys arddulliau rhanbarthol gwahanol a phwrpasau plygu perthi.
- Dewch ag esgidiau cadarn, haenau cynnes (nid eich dillad gorau oherwydd gallant fynd yn frwnt), dillad dwrglos a menig gwaith os oes gennych rai!
- Dewch â chinio pecyn a diod (darperir te a bisgedi)
- Mae'r digwyddiad yn addas i blant 18+ oed
- Parcio (ffïoedd yr gaeaf): Maes parcio Bae Caswell / Maes parcio Bryn Caswell
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/e-dmmpgj
Diwrnod tasgau cadwraeth
15 Ionawr, 10.00am - 2.00pm
Cwrdd y tu allan i Ganolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell Bay Road, Caswell SA3 3BN
Ymunwch â Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob i'n helpu gyda phrysgoedio a chael gwared ar rai o'r rhywogaethau estron a goresgynnol.
- Darperir te a bisgedi
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r tir a rhai nad oes ots gennych eu bod eu mynd yn frwnt
- Darperir yr holl gyfarpar
- Nid yw'r gweithgarwch hwn yn addas i blant
- Parcio (ffïoedd yr gaeaf): Maes parcio Bryn Caswell / Maes parcio Bae Caswell
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-noxnora
Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.