Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau amgylcheddol - Mawrth

Daffodils at West Cross

Helwyr Llwch Sêr a Thelesgop Faulkes yn Oriel Science

Dydd Sadwrn 1 Mawrth

Labordy Oriel Science, 21 Castle Street, Abertawe SA1 5AE

Helwyr Llwch Sêr:

Bob blwyddyn, mae oddeutu 3,000 tunnell o lwch cosmig yn cwympo i arwyneb y Ddaear - gelwir y gronynnau allfydol hyn sy'n goroesi'r daith drwy'r atmosffer i lanio ar y Ddaear yn ficrometeoritau. Ymunwch â ni wrth i ni hela'r gronynnau hyn a helpu gwyddonwyr i ddysgu am gyfundrefn gynnar yr haul.

Telesgop Faulkes:

Gyda'r tîm ym Mhrifysgol Abertawe, dewch i reoli telesgop Faulkes yn Hawäi ac arsylwi ar y bydysawd mewn amser go iawn!

  • Yn addas i bob oed
  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Ni ddarperir lluniaeth yn ystod y digwyddiad hwn

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/e-eyvlqy

 

Diwrnod tasgau cadwraeth

12 Mawrth, 10.00am - 2.00pm

Cwrdd y tu allan i Ganolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell Bay Road, Caswell SA3 3BN

Helpwch i warchod Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob! Byddwn yn mynd i'r afael â rheoli cynefinoedd, yn cael gwared ar rywogaethau goresgynnol, neu, yn dibynnu ar y tywydd a'r tymheredd, byddwn yn parhau â'r gwaith prysgoedio i gefnogi adfywiad coetiroedd.

Dewch i fwynhau'r awyr iach, dysgu am fywyd gwyllt lleol a gwneud gwahaniaeth go iawn.

Does dim angen profiad blaenorol, dim ond brwdfrydedd.

  • Darperir te a bisgedi
  • Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r tir a rhai nad oes ots gennych eu bod eu mynd yn frwnt
  • Darperir yr holl gyfarpar
  • Nid yw'r gweithgarwch hwn yn addas i blant
  • Parcio (ffïoedd yr haf): Maes parcio Bryn Caswell / Maes parcio Bae Caswell

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-norjxmk

 


Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Chwefror 2025