Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau amgylcheddol - Medi

Herbaceous border in Singleton Botanical Gardens

Saffari Glan Môr - Bae Oxwich

6 Medi, 10.30am

Cwrdd ger y llithrfa. Bae Oxwich, Pen-rhys, Abertawe SA3 1LS

Ymunwch â ni am Saffari Glan Môr difyr ym mhenrhyn Gŵyr sy'n addas i'r teulu cyfan! Gallwch ddarganfod y bywyd gwyllt diddorol sy'n byw rhwng y llanw wrth i ni archwilio pyllau creigiau, glannau tywodlyd a holltau cudd ar hyd yr arfordir.

Dan arweiniad biolegwyr morol arbenigol, mae'r sesiynau rhyngweithiol hyn yn ffordd wych o ddysgu am grancod, anemonïau môr, sêr môr, gwymon a mwy. Bydd cyfle i chi gael profiad ymarferol wrth i chi roi cynnig ar adnabod gwahanol rywogaethau a deall sut maen nhw'n goroesi yn yr amgylchedd sy'n newid yn barhaus.

Galwch heibio i ddarganfod rhyfeddodau arfordir godidog Gŵyr. Mae gan bob llanw stori - beth fyddwch chi'n ei ddarganfod?

  • Mae croeso i blant, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol. 
  • Dewch â digon o ddillad i'ch cadw'n gynnes
  • Gwisgwch esgidiau â gafael sy'n addas ar gyfer sgramblo ar hyd y glannau creigiog, esgidiau glaw neu esgidiau cerdded yn ogystal ag eli haul a het haul

Rhaid cadw lle: https://www.eventbrite.co.uk/e/1415859356449?aff=oddtdtcreator

Taith gerdded biofflworoleuol

12 Medi, 8.00pm

Man cwrdd: Heol Glan-nant, Ynysforgan Woods, Abertawe SA6 6QE
What3Words: ///local.casino.losses

Ymunwch â ni am antur arbennig wrth i ni archwilio'r byd biofflworoleuol disglair!
Mae biofflworoleuedd yn ffenomen naturiol ddiddorol lle bydd organebau penodol yn amsugno golau ac yn ei allyrru fel lliwiau llachar. Byddwn yn archwilio hud y sioe oleuadau cudd hon ym myd natur ac yn darganfod pa greaduriaid sy'n dod yn fyw yng ngolau uwchfioled.

Arweinir y digwyddiad hwn gan y fenter Nature on Your Doorstep.

  • Mae'n addas ar gyfer unrhyw un 8+ oed neu'n hŷn ac mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. 
  • Dylech wisgo dillad cynnes oherwydd byddwn yn cerdded yn araf. 
  • Rydym yn argymell esgidiau cadarn (mae esgidiau cerdded yn ddelfrydol ond bydd esgidiau rhedeg yn ddigonol) a throwsus hir i osgoi danadl poethion. 
  • Byddwn yn darparu sbectol diogelwch ac mae'n rhaid i chi eu gwisgo drwy gydol y daith er diogelwch. 

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-rpmmdpr


Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Gorffenaf 2025