Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau amgylcheddol - Mehefin

Three Cliffs Bay

Dydd Iau 1 Mehefin - Hyfforddiant Beicio Diogelwch Ffyrdd: Lefel 2

10.00am - 3.00pm, BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU

Lefel 2 y Safonau Diogelwch Ffyrdd Cenedlaethol i blant 10 oed ac yn hŷn. Cynhelir yr hyfforddiant ar ffyrdd preswyl tawelach. Rhaid i'r hyfforddeion fod wedi pasio hyfforddiant Lefel 1. £45 y person.

Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk

 

Dydd Iau 1 Mehefin - Arolwg Gwenoliaid Duon Mount Pleasant

8.15pm, Primrose Hill, Mount Pleasant, Abertawe, SA1 6HA

Mae croeso i bawb i helpu gyda'n Harolygon Gwenoliaid Duon 2023 fel rhan o ymgyrch Achub Gwenoliaid Duon Abertawe. Yn dibynnu ar y tywydd. Rhaid i blant fod gydag oedolyn. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda hefyd, os ydynt ar dennyn, ond rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ewch i bit.ly/swifts2023.

Cyswllt: defnyddiwch yr opsiwn 'Cysylltu â'r trefnydd' ar y dudalen archebu.

 

Dydd Gwener 2 Mehefin - Cynllun Chwarae Bore ar y Fferm dros Hanner Tymor

10.00am - 12.00pm, Fferm Gymunedol Abertawe, 2 Heol Pontarddulais, Fforest-fach SA5 4BA

Amrediad eang o weithgareddau â thema yn cynnwys chwarae anturus, crefft byw yn y gwyllt, chwaraeon, gwaith coed, celf a chrefft sborion. Ar gyfer 8-16 oed. Croeso i blant dan 8 oed ond rhaid iddynt fod gydag oedolyn. Argymhellir eich bod yn gwisgo dillad addas. £1 y plentyn.

Mae'r Cynllun Chwarae yn ddibynnol ar gyllid felly ewch i www.swanseacommunityfarm.org.uk/cymraeg am gadarnhad.

Cyswllt: Cerys Jones, 01792 578384

 

Dydd Gwener 2 Mehefin - Cynllun Chwarae Prynhawn ar y Fferm dros Hanner Tymor

1.00pm - 3.00pm, Fferm Gymunedol Abertawe, 2 Heol Pontarddulais, Fforest-fach SA5 4BA

Amrediad eang o weithgareddau â thema yn cynnwys chwarae anturus, crefft byw yn y gwyllt, chwaraeon, gwaith coed, celf a chrefft sborion. Ar gyfer 8-16 oed. Croeso i blant dan 8 oed ond rhaid iddynt fod gydag oedolyn. Argymhellir eich bod yn gwisgo dillad addas. £1 y plentyn.

Mae'r Cynllun Chwarae yn ddibynnol ar gyllid felly ewch i www.swanseacommunityfarm.org.uk/cymraeg am gadarnhad.

Cyswllt: Cerys Jones, 01792 578384

 

Dydd Sadwrn 3 Mehefin - Taith Ystlumod wedi'i Thywys

9.00pm - 11.00pm, maes parcio Tafarn y Rheilffordd, 553 Heol Gŵyr, Cilâ Uchaf, Abertawe SA2 7DS

Dewch i ddarganfod yr amrywiaeth anhygoel o ystlumod yng nghoetir hynafol Dyffryn Clun. Mae'r daith gerdded dan arweiniad Evelyn Gruchala, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Adfer Natur Cyngor Abertawe, yn dechrau gyda chyflwyniad byr i ystlumod ac arddangosiad o sut i ddefnyddio synwyryddion ystlumod (darperir). 

Dewch â'ch tortsh eich hun, a'ch canfodydd ystlumod, os oes gennych chi un. Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd a'r dirwedd gydag esgidiau cadarn. Argymhellir defnyddio polion cerdded. Addas ar gyfer 8 oed ac yn hŷn ond rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol a rhaid cadw plant ifanc o dan oruchwyliaeth agos. Yn dibynnu ar y tywydd felly dylid cadw lle fel y gallwn eich hysbysu os bydd tywydd gwael yn gorfodi canslo.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/o/wildlife-trust-of-south-amp-west-wales-swansea-group-41422762733

Cyswllt: SwanseaWTGroup@outlook.com

 

Dydd Sul 4  Mehefin - Sesiwn Gwirfoddolwyr Chwarel Rosehill

11.00am - 1.00pm, Chwarel Rosehill, oddi ar Heol Teras, Mount Pleasant, Abertawe SA1 6HU

Sesiwn gwirfoddolwyr reolaidd: codi sbwriel, cynnal a chadw a thasgau cyffredinol eraill. Dewch i archwilio trysor cudd ger canol dinas Abertawe. Darperir te a choffi os yw'r tywydd yn addas. Ewch i'r dudalen Facebook i weld gweithgareddau ychwanegol neu newidiadau i drefniadau.

Cyswllt: Rhian ar 07840 197175 neu Viv ar 07917 569263

 

Dydd Mawrth 6 Mehefin (a phob dydd Mawrth) - Diwrnod Gwaith Chwarel Rosehill

10.00am - 12ganol dydd, Chwarel Rosehill, oddi ar Heol Teras, Mount Pleasant, Abertawe SA1 6HU

Sesiwn waith reolaidd i helpu i gynnal yr ardal bywyd gwyllt a'r man hamdden hyn ger canol Abertawe. Darperir te a choffi os yw'r tywydd yn addas.

Cyswllt: Rhian ar 07840 197175 neu Viv ar 07917 569263

 

Dydd Llun 5 i dydd Sul 11 Mehefin - Wythnos Feicio 2023

Amserau a lleoliadau amrywiol.

Digwyddiad dathlu cenedlaethol blynyddol sy'n hyrwyddo'r holl fanteision y gall beicio eu cynnig o ran iechyd, yr hinsawdd, costau teithio, a'r gymuned. Trefnir digwyddiadau lleol i annog cymaint o bobl â phosibl i fynd allan a mwynhau beicio; boed ar gyfer ymarfer corff, cymudo i'r gwaith, mynd i'r siopau neu'n syml i gwrdd â ffrindiau a theulu.

Cyswllt: I ddarganfod mwy ac i chwilio am ddigwyddiadau lleol ewch i www.cyclinguk.org/bikeweek.

 

Dydd Mercher 7 Mehefin (a phob bore Mercher) - Taith Beicio Cydymaith BikeAbility Cymru

10.00am - 12 ganol dydd, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU

Am feicio mewn grŵp am hwyl neu gyfeillgarwch? Ymunwch â ni ar gyfer ein teithiau beicio cydymaith gyda chefnogaeth bob dydd Mercher o'n safle yn Nyfnant. Taith feicio hawdd gyda chymorth oedolion ar gyfer pob gallu. Dim tâl ond croesewir rhoddion.

Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk

 

Dydd Mercher 7 Mehefin - Glanhau Traeth Twyni Crymlyn

1.00pm, y llwybr estyllod y tu ôl i'r Neuadd Fawr, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian SA1 8EN

Ymunwch â'r sesiwn glanhau traeth misol hwn i gael ychydig o awyr iach, ymarfer corff ysgafn a helpu i gadw Twyni Crymlyn yn arbennig. Darperir yr holl offer ac os na allwch gyrraedd erbyn yr amser cychwyn,bydd bagiau, menig a chasglwyr yn cael eu gadael ar y llwybr estyllod fel y gallwch ymuno unrhyw bryd tan 3pm - rhowch gymaint neu gyn lleied o amser ag y gallwch chi. Yn agored i fyfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach.

Gallwch gadw lle trwy Eventbrite - www.eventbrite.co.uk/e/bay-beach-clean-tickets-459921957957.

Cyswllt: Ben Sampson, wildlife@swansea.ac.uk

 

Dydd Mercher 7 Mehefin - Arolwg Gwenoliaid Duon Cilâ

8.30pm, y tu allan i Lyfrgell Glowyr De Cymru, Hendrefoelan, Sgeti, SA2 7RE 

Mae croeso i bawb i helpu gyda'n Harolygon Gwenoliaid Duon 2023 fel rhan o ymgyrch Achub Gwenoliaid Duon Abertawe. Yn dibynnu ar y tywydd. Rhaid i blant fod gydag oedolyn. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda hefyd, os ydynt ar dennyn, ond rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ewch i bit.ly/swifts2023.

Cyswllt: defnyddiwch yr opsiwn 'Cysylltu â'r trefnydd' ar y dudalen archebu.

 

Dydd Gwener 9 Mehefin - Sesiwn Bore Wiggly Worms

10.00am - 11.30am, Fferm Gymunedol Abertawe, 2 Heol Pontarddulais, Fforest-fach SA5 4BA

Mae sesiynau rhieni a phlant cyn oed ysgol yn ffordd wych o gael hwyl yn yr awyr agored a mwynhau helfa chwilod, celf a chrefft â thema, straeon ac ychydig o fwd! Mae cadw lle yn hanfodol er mwyn sicrhau lle.

Gweler tudalen Eventbrite Fferm Gymunedol Abertawe am fanylion am sut i gadw lle yn nes at ddyddiad y digwyddiad.

Cyswllt: Katie Harkness, 01792 578384

 

Dydd Gwener 9 Mehefin - Sesiwn Prynhawn Wiggly Worms

1.00pm - 2.30pm, Fferm Gymunedol Abertawe, 2 Heol Pontarddulais, Fforest-fach SA5 4BA

Mae sesiynau rhieni a phlant cyn oed ysgol yn ffordd wych o gael hwyl yn yr awyr agored a mwynhau helfa chwilod, celf a chrefft â thema, straeon ac ychydig o fwd! Mae cadw lle yn hanfodol er mwyn sicrhau lle.

Gweler tudalen Eventbrite Fferm Gymunedol Abertawe am fanylion am sut i gadw lle yn nes at ddyddiad y digwyddiad.

Cyswllt: Katie Harkness, 01792 578384

 

Dydd Sadwrn 10 i dydd Sul 18 Mehefin - Great Big Green Week

Amserau a lleoliadau amrywiol.

Dathliad cenedlaethol ar gyfer gweithredu cymunedol yn erbyn newid yn yr hinsawdd gyda rhaglen amrywiol o deithiau cerdded, sgyrsiau, gweithdai a gweithgareddau cymunedol. Bydd Taith Werdd GBGW yng Nghymru eleni yn cychwyn yn Abertawe - cofiwch edrych am fanylion yn nes at yr amser.

Cyswllt: Am fwy o wybodaeth ac i chwilio am ddigwyddiadau lleol ewch i greatbiggreenweek.com

 

Dydd Sadwrn 10 Mehefin - Gofalu am SoDdGA Crymlyn Burrows: Taith Gerdded yn y Twyni

10.00am - 1.00pm, Maes Parcio Twyni Crymlyn, oddi ar gerbytffordd tua'r gorllewin Ffordd Fabian, gyferbyn â Chilgant Elba 

Ymunwch â Ben Sampson, Swyddog Bioamrywiaeth Prifysgol Abertawe a Warden SoDdGA Crymlyn Burrows ar daith dywys o amgylch twyni tywod a morfeydd heli yr ardal hon o wylltir hynafol ar gyrion Abertawe. Mae'r maes parcio yn faes parcio talu ac arddangos. Gwasanaethau bws aml o ganol Abertawe i Gampws y Bae Prifysgol Abertawe a llwybr beicio oddi ar y ffordd o ganol y ddinas.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ewch i:  https://www.eventbrite.co.uk/o/wildlife-trust-of-south-amp-west-wales-swansea-group-41422762733

Cyswllt: SwanseaWTGroup@outlook.com

 

Dydd Sul 11 Mehefin - Taith Gerdded yr RSPB o amgylch Porth Einon

9.30am, y prif faes parcio, Porth Einon SA3 1NN

Taith gerdded gwylio adar yn y bore. Mae'n bosib bydd angen dillad diddos a bŵts. Gadewch eich cŵn gartref os gwelwch yn dda. Eich cyfrifoldeb chi yw eich diogelwch ar hyd y daith.

Ewch i'r wefan am fwy o fanylion: group.rspb.org.uk/swanseaanddistrict

Cyswllt: rspbswandistgrp@gmail.com

 

Dydd Mercher 14 Mehefin - Arolwg Gwenoliaid Duon Cocyd

8.30pm, y tu allan i Ysgol Gymunedol Dylan Thomas, Stryd John, y Cocyd, SA2 0FR 

Mae croeso i bawb i helpu gyda'n Harolygon Gwenoliaid Duon 2023 fel rhan o ymgyrch Achub Gwenoliaid Duon Abertawe. Yn dibynnu ar y tywydd. Rhaid i blant fod gydag oedolyn. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda hefyd, os ydynt ar dennyn, ond rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ewch i bit.ly/swifts2023.

Cyswllt: defnyddiwch yr opsiwn 'Cysylltu â'r trefnydd' ar y dudalen archebu.

 

Dydd Sadwrn 17 Mehefin - Caffi Trwsio Beyond Recycling 

10.30am - 1.30pm, Canolfan yr Amgylchedd, Stryd y Pier, Abertawe SA1 1RY

Dewch â'ch eitem sydd wedi torri neu wedi'i difrodi gyda chi a bydd ein hatgyweiriwyr gwirfoddol yn ceisio ei thrwsio, am ddim. Gallwch fwynhau paned o de neu goffi a sgwrsio â'ch cymdogion tra byddwch yn aros.

Ewch i www.facebook.com/BeyondRecyclingSwansea am fanylion.

Cyswllt: chris@environmentcentre.org.uk

 

Dydd Sadwrn 17 Mehefin - Parti Traeth yr Ieuenctid yn Dathlu Cyfeillion Gŵyr yn 75

10.30am, ger y pwll padlo, Traeth Blackpill, West Cross SA3 5AS 

Ymunwch ag Ieuenctid Cyfeillion Gŵyr am barti traeth fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Cyfeillion Gŵyr. Dewch i greu cerflun tywod '75' anferth a mwynhau hwyl a gemau ar y traeth. Dewch â thocyn bwyd. Tocynnau am ddim, ar gael ar Eventbrite

Cyswllt: Dawn Thomas 01792 392919 or dawn.thomas@reynoldston.com 

 

Dydd Sadwrn 17 Mehefin - Taith Gerdded y Gwlyptir gyda Warden

11.30am - 1.00pm, Canolfan y Gwlyptir Llanelli, Penclacwydd, Llanelli, SA14 9SH

Nid oes angen cadw lle. Wedi'i gynnwys yn y tâl mynediad (am ddim i aelodau). Dewch i gwrdd â'r tywyswyr arbenigol cyfeillgar wrth y ddesg wybodaeth a byddant yn eich helpu i weld uchafbwyntiau'r tymor. Dysgwch sut i chwilio am arwyddion cynnil ac adnabod rhai rhywogaethau. Yn addas i bawb, ar lwybrau gwastad, hygyrch. Os dymunwch, gallwch ein gadael ar hyd y ffordd. Mae croeso i chi ddod â chamerâu neu ysbienddrych. Gwisgwch ddillad addas i'r tywydd ar y diwrnod.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli/whats-on.

Cyswllt: Canolfan y Gwlyptir Llanelli, 01554 741087

 

Dydd Mercher 21 Mehefin - Taith Gerdded Penmaen

11.00am, Maes Parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Penmaen, Gŵyr SA3 2HQ

Taith gylchol 8 milltir, gymedrol gyda chwpl o esgyniadau serth ar hyd y ffordd. Bydd y daith gerdded yn cynnwys llwybr ar ben y clogwyni, llwybrau coetir, twyni tywod, trac rhostir, lonydd gwledig a darn byr o ffordd brysur. Rhaid cadw cŵn ar dennyn byr.

Cyswllt: David Evans, Cerddwyr Abertawe, 01792 512298

 

Dydd Mercher 21 Mehefin - Arolwg Gwenoliaid Duon Gorseinon

8.30pm, y tu allan i Goleg Gŵyr, Campws Gorseinon, Heol Belgrave, SA4 6RD 

Mae croeso i bawb i helpu gyda'n Harolygon Gwenoliaid Duon 2023 fel rhan o ymgyrch Achub Gwenoliaid Duon Abertawe. Yn dibynnu ar y tywydd. Rhaid i blant fod gydag oedolyn. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda hefyd, os ydynt ar dennyn, ond rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ewch i bit.ly/swifts2023.

Cyswllt: defnyddiwch yr opsiwn 'Cysylltu â'r trefnydd' ar y dudalen archebu.

 

Dydd Iau 22 Mehefin - Diwrnod Lles Natur Hirddydd Haf

11.00am - 2.30pm, Fferm Gymunedol Abertawe, 2 Heol Pontarddulais, Fforest-fach SA5 4BA

Dysgwch sut mae ein gwirfoddolwyr yn edrych ar ôl eu lles eu hunain a lles eraill drwy helpu ar unig fferm ddinas Cymru. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys garddio tymhorol, coginio a theithiau bywyd gwyllt. Awgrymir cyfraniad o £2 i oedolion, £1 i blant.

Cyswllt: Katharine Aylett, 01792 578384

 

Dydd Sadwrn 24 Mehefin - Kites + Dippers: Archwilio Pyllau Glan Môr Bae Breichled

10.00am - 12 ganol dydd, maes parcio Bae Breichled, y Mwmbwls, Abertawe SA3 4JT

Ymunwch â Kites + Dippers i ddarganfod pa ryfeddodau sy'n byw rhwng y llanw. Ar gyfer pobl 8-18 oed sy'n hoffi bywyd gwyllt.

Cyswllt: Ben Bonham, Kites and Dippers Cwm Clydach, BSBonham@outlook.com / 07498 577495

 

Dydd Sadwrn 24 Mehefin - Diwrnod i'r teulu yn codi arian gyda BikeAbility Cymru

10.00am - 3.00pm, BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU

Hwyl i'r teulu cyfan; rhowch gynnig ar ein dewis gwych o feiciau, arhoswch am ychydig a mwynhau raffl, barbeciw a gweithgareddau eraill.

Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk

 

Dydd Mercher 28 Mehefin - Arolwg Gwenoliaid Duon Treforys

8.30pm, maes chwarae Parc Treforys, Dan-y-Parc, Treforys SA6 7DR 

Mae croeso i bawb i helpu gyda'n Harolygon Gwenoliaid Duon 2023 fel rhan o ymgyrch Achub Gwenoliaid Duon Abertawe. Yn dibynnu ar y tywydd. Rhaid i blant fod gydag oedolyn. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda hefyd, os ydynt ar dennyn, ond rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ewch i bit.ly/swifts2023.

Cyswllt: defnyddiwch yr opsiwn 'Cysylltu â'r trefnydd' ar y dudalen archebu.

 


Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.

Close Dewis iaith