Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau amgylcheddol - Tachwedd

Lake in Brynmill Park

Dydd Mercher 1 Tachwedd - Glanhau Traeth Twyni Crymlyn

1.00pm, y llwybr estyllod y tu ôl i'r Neuadd Fawr, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian SA1 8EN

Ymunwch â'r sesiwn glanhau traeth misol hwn i gael ychydig o awyr iach, ymarfer corff ysgafn a helpu i gadw Twyni Crymlyn yn arbennig. Darperir yr holl offer ac os na allwch gyrraedd erbyn yr amser cychwyn,bydd bagiau, menig a chasglwyr yn cael eu gadael ar y llwybr estyllod fel y gallwch ymuno unrhyw bryd tan 3pm - rhowch gymaint neu gyn lleied o amser ag y gallwch chi. Yn agored i fyfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach.

Gallwch gadw lle trwy Eventbrite: www.eventbrite.co.uk/e/bay-beach-clean-tickets-459921957957.

Cyswllt: Ben Sampson, wildlife@swansea.ac.uk

 

Dydd Mercher 1 Tachwedd - Hyfforddiant Beicio Diogelwch Ffyrdd: Lefel 1

1.00pm - 3.00pm, BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU

Lefel 1 y Safonau Diogelwch Ffyrdd Cenedlaethol i blant 8 oed ac yn hŷn. Cynhelir yr hyfforddiant mewn ardal heb draffig yn ein lleoliad. Rhaid i'r hyfforddeion allu reidio beic. £25 y person.

Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk

 

Dydd Iau 2 Tachwedd - Hyfforddiant Beicio Diogelwch Ffyrdd: Lefel 2

10.00am - 3.00pm, BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU

Lefel 2 y Safonau Diogelwch Ffyrdd Cenedlaethol i blant 10 oed ac yn hŷn. Cynhelir yr hyfforddiant ar ffyrdd preswyl tawelach. Rhaid i'r hyfforddeion fod wedi pasio hyfforddiant Lefel 1. £45 y person.

Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk

 

Dydd Gwener 3 Tachwedd - Cynllun Chwarae Bore ar y Fferm

10.00am - 12.00pm, Fferm Gymunedol Abertawe, 2 Heol Pontarddulais, Fforest-fach SA5 4BA

Amrediad eang o weithgareddau â thema yn cynnwys chwarae anturus, crefft byw yn y gwyllt, chwaraeon, gwaith coed, celf a chrefft sborion. Ar gyfer 8-16 oed. Croeso i blant dan 8 oed ond rhaid iddynt fod gydag oedolyn. Argymhellir eich bod yn gwisgo dillad addas. £1 y plentyn.

Mae'r Cynllun Chwarae yn ddibynnol ar gyllid felly ewch i www.swanseacommunityfarm.org.uk/cymraeg am gadarnhad.

Cyswllt: Cerys Jones, 01792 578384

 

Dydd Gwener 3 Tachwedd - Cynllun Chwarae Prynhawn ar y Fferm

1.00pm - 3.00pm, Fferm Gymunedol Abertawe, 2 Heol Pontarddulais, Fforest-fach SA5 4BA

Amrediad eang o weithgareddau â thema yn cynnwys chwarae anturus, crefft byw yn y gwyllt, chwaraeon, gwaith coed, celf a chrefft sborion. Ar gyfer 8-16 oed. Croeso i blant dan 8 oed ond rhaid iddynt fod gydag oedolyn. Argymhellir eich bod yn gwisgo dillad addas. £1 y plentyn.

Mae'r Cynllun Chwarae yn ddibynnol ar gyllid felly ewch i www.swanseacommunityfarm.org.uk/cymraeg am gadarnhad.

Cyswllt: Cerys Jones, 01792 578384

 

Dydd Sul 5 Tachwedd - Sesiwn Gwirfoddolwyr Chwarel Rosehill

11.00am - 1.00pm, Chwarel Rosehill, oddi ar Heol Teras, Mount Pleasant, Abertawe SA1 6HU

Sesiwn gwirfoddolwyr reolaidd: codi sbwriel, cynnal a chadw a thasgau cyffredinol eraill. Dewch i archwilio trysor cudd ger canol dinas Abertawe. Darperir te a choffi os yw'r tywydd yn addas.

Ewch i'r dudalen Facebook i weld gweithgareddau ychwanegol neu newidiadau i drefniadau: https://www.facebook.com/groups/213944969114313/

Cyswllt: Rhian ar 07840 197175 neu Viv ar 07917 569263

 

Dydd Mawrth 7 Tachwedd (a phob dydd Mawrth) - Diwrnod Gwaith Chwarel Rosehill

10.00am - 12 ganol dydd, Chwarel Rosehill, oddi ar Heol Teras, Mount Pleasant, Abertawe SA1 6HU

Sesiwn waith reolaidd i helpu i gynnal yr ardal bywyd gwyllt a'r man hamdden hyn ger canol Abertawe. Darperir te a choffi os yw'r tywydd yn addas.

Cyswllt: Rhian ar 07840 197175 neu Viv ar 07917 569263

 

Dydd Sadwrn 18 Tachwedd - Kites + Dippers: Gwylio Adar y Gaeaf

10.00am - 12 ganol dydd, ffoniwch y cyswllt am leoliad

Ymunwch â Kites + Dippers i ddarganfod beth mae adar yn ei alw'n gartref gaeaf yn y DU. Ar gyfer pobl 8-18 oed sy'n hoffi bywyd gwyllt.

Cyswllt: Ben Bonham, Kites and Dippers Cwm Clydach, BSBonham@outlook.com / 07498 577495

 

Dydd Sadwrn 18 Tachwedd -  Taith Gerdded y Gwlyptir gyda Warden

11.30am - 1.00pm, Canolfan y Gwlyptir Llanelli, Penclacwydd, Llanelli, SA14 9SH

Nid oes angen cadw lle. Wedi'i gynnwys yn y tâl mynediad (am ddim i aelodau). Dewch i gwrdd â'r tywyswyr arbenigol cyfeillgar wrth y ddesg wybodaeth a byddant yn eich helpu i weld uchafbwyntiau'r tymor. Dysgwch sut i chwilio am arwyddion cynnil ac adnabod rhai rhywogaethau. Yn addas i bawb, ar lwybrau gwastad, hygyrch. Os dymunwch, gallwch ein gadael ar hyd y ffordd. Mae croeso i chi ddod â chamerâu neu ysbienddrych. Gwisgwch ddillad addas i'r tywydd ar y diwrnod.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli/whats-on/.

Cyswllt: Canolfan y Gwlyptir Llanelli, 01554 741087

 

Dydd Sadwrn 25 Tachwedd - Crefftau Nadolig Ieuenctid Cyfeillion Gŵyr

10.00am - 1.00pm, Canolfan y Sgowtiaid, Coed Moorlakes, Comin Fairwood, drws nesaf i Faes Awyr Abertawe

Gan ddefnyddio deunyddiau naturiol o'r goedwig, gwnewch addurniadau Nadolig fel addurniadau coeden, sêr helyg, torchau a garlantau. Dewch â'ch cwpan eich hun am win cynnes! Byddwn yn y tŷ hir a'r tŷ crwn yn Moorlakes felly bydd lloches a thân, ond gwisgwch yn gynnes ac esgidiau glaw. Addas i deuluoedd.

Tocynnau am ddim, ar gael ar Eventbrite: https://www.eventbrite.com/e/gsy-christmas-crafts-tickets-522554684127?aff=odcleoeventsincollection

Cyswllt: Dawn Thomas 01792 392919 neu dawn.thomas@reynoldston.com

 


Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.