Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad galw heibio i denantiaid a lesddeiliaid y cyngor 2025

Dydd Mercher 24 Medi, 10.00am - 4.00pm yn Neuadd Brangwyn.

Mae eich tîm tai'n cynnal ei ddigwyddiad galw heibio mwyaf erioed i denantiaid a lesddeiliaid, ac rydym am i gynifer o denantiaid â phosib ddod iddo.

Os ydych chi hefyd yn adnabod rhywun sy'n denant naill ai drwy'r gwaith neu eich bywyd cartref, rhowch wybod iddynt.

Mae'r diwrnod yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau, stondinau, cyfleoedd cwrdd a chyfarch a sgyrsiau addysgiadol gan gynnwys y Timau Atgyweirio, Diogelwch Tân, Sgamiau, y Tîm Rhenti a Byw'n Annibynnol.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac nid oes angen i chi archebu unrhyw beth. Galwch heibio.

Bydd lluniaeth a chewch eich cynnwys am ddim yn ein cystadleuaeth raffl am wobrau a gyflwynir drwy gydol y dydd!

Os hoffech wybod mwy, edrychwch ar y rhestr isod sy'n cynnwys ychydig o'r hyn a fydd yn digwydd a phwy fydd yno:

  • Gwelliannau tai
  • SATC
  • Tîm Rhenti
  • Porth Tai
  • Opsiynau Tai
  • Uned Cefnogi Tenantiaid
  • Tîm Adsefydlu Ffoaduriaid
  • Gwasanaeth Byw'n Annibynnol
  • Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol
  • Tîm Effeithlonrwydd Ynni
  • Tîm Lesddaliad
  • Tân a Chydymffurfio
  • Tîm Cyswllt Cymunedol
  • Iechyd yr Amgylchedd
  • Cymunedau am Waith a Mwy a Dysgu Gydol Oes
  • Incwm a Chyllid Gofal Cymdeithasol
  • Refeniw a Budd-daliadau
  • Gwastraff ac Ailgylchu
  • Aelodau Ward Lleol
  • Cydlynwyr Ardaloedd Lleol
  • Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol
  • TPAS Cymru
  • Adferiad - Cefnogaeth Iechyd Meddwl a Chaethiwed
  • Llyfrgell Pethau Abertawe
  • Hwb Comisiynu Trawsnewid Ymgysylltu â'r Gymuned
  • Cynllun Teuluoedd Ifanc Abertawe
  • CRISIS
  • Canolfannau cymunedol
  • The Trussel Trust

Lleoliad

Neuadd Brangwyn, Guildhall Road SA1 4PE
What3words - winner.comet.curvy

Sut i gyrraedd yno

Llwybrau bysus - 2A / 2B / 2C / 3A / 14

Bydd maes parcio'r Gorllewin yn y Ganolfan Ddinesig ar agor ar gyfer parcio am ddim - 10 munud yn unig i ffwrdd ar droed.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth ffoniwch Alison Winter ar 01792 635043 neu 07775 221453.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Medi 2025