Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweiniad diogelu ar gyfer gwasanaethau addysg a dysgu gydol oes

Lluniwyd y ddogfen arweiniol hon i gefnogi arfer da wrth ddiogelu ac amddiffyn plant mewn gwasanaethau addysg a dysgu gydol oes.

Mae Adran Addysg yr Awdurdod Lleol yn cyflogi Swyddog Amddiffyn a Diogelu Plant Addysg amser llawn sy'n gweithio yn y Ganolfan Ddinesig. Mae'r swyddog yn rhoi cyngor, arweiniad a chefnogaeth ar faterion amddiffyn a diogelu plant ar gyfer staff ysgolion, rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill ac mae hefyd yn darparu hyfforddiant i staff ysgolion, staff addysg a llywodraethwyr. Mae pob ysgol wedi pennu athro/athrawes dynodedig - y Pennaeth mewn ysgolion cynradd fel arfer - sy'n gyfrifol am amddiffyn a diogelu plant. Mae corff llywodraethu pob ysgol wedi pennu Llywodraethwr sy'n gyfrifol am amddiffyn a diogelu plant.

Mae'r arweiniad hwn yn diffinio'n glir y disgwyl i ysgolion a gwasanaethau cefnogi addysg roi polisiau a gweithdrefnau diogelu ar waith, sy'n cydymffurfio a gwethdrefnau ac arweiniad lleol a chenedlaethol.

Arweiniad diogelu (Mawrth 2013)

Ar gyfer gwasanaethau Addysg a Dysgu Gydol Oes.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Mehefin 2022