Toglo gwelededd dewislen symudol

Eich arweiniad ar ddiogelu data

Er mwyn gweithredu'n effeithiol, rhaid i Gyngor Abertawe (yr awdurdod) gael mathau penodol o wybodaeth am y bobl sy'n gweithio ac sy'n byw yn ei ardal.

Gelwir yr wybodaeth y mae'r awdurdod yn ei chadw am unigolion, sy'n datgelu'r unigolyn hwnnw, yn ddata personol. Mae'r unigolion hyn yn cynnwys aelodau, cyn-weithiwyr, gweithwyr presennol a darpar weithwyr, cyflenwyr, cleientiaid a chwsmeriaid.

Mae'r ymadrodd data personol yn berthnasol i unrhyw ddeunydd sy'n datgelu unigolyn sy'n byw, er enghraifft ffotograffau, ffilm CCTV, gwybodaeth ar ddisg cyfrifiadur a'r rhan fwyaf o gofnodion papur. Er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn trin data'n gyfreithlon ac yn briodol, rhaid iddo gadw at yr egwyddorion Diogelu Data diweddaraf.

Mae'n bwysig bod unigolion yn gwybod am ba hyd rydym yn cadw data. Mae ein cyfnodau cadw data ar gael i'w darllen ar ein gwefan. 

Swyddog Diogelu Data

Yn yr awdurdod, mae pob mater sy'n ymwneud â diogelu data a rheoli gwybodaeth yn mynd i'r Swyddog Diogelu Data. Mae ei rôl yn cynnwys cynorthwyo holl wasanaethau'r cyngor i gyflawni a chynnal sefyllfa o gydymffurfio â gweithdrefnau Diogelu Data, deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Gan fod yr awdurdod yn casglu a phrosesu data personol, rhaid i ni gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynwyr Gwybodaeth fel rheolwr data'n yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data. Os ceir toriad data yn y cyngor, mae gweithdrefnau ar waith i reoli ac ymchwilio i'r datgeliad. Mae'r Swyddog Diogelu Data'n gyfrifol am ddarparu'r offer i staff i sicrhau eu bod wedi derbyn hyfforddiant diogelu data. Mae nifer o gyrsiau e-ddysgu, fideos a phosteri ar gael iddynt.

Os oes angen cyngor neu arweiniad arnoch am unrhyw bwnc o ddiogelwch gwybodaeth i ddiogelu data, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data: diogelu.data@abertawe.gov.uk.

Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth

Mae rôl yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth wedi'i chynnwys yng ngwaith llywodraethu gwybodaeth y cyngor i ddarparu atebolrwydd ar lefel y bwrdd a mwy o sicrwydd yr ymdrinnir â risgiau gwybodaeth. Mae'r Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth yn sicrhau bod risgiau gwybodaeth yn cael eu trin fel blaenoriaeth ar gyfer pob canlyniad busnes. Bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y cyngor yn cydnabod gwerth ei wybodaeth, gan ein galluogi i'w defnyddio'n effeithiol.

Ceisiadau am Fynediad at Ddata gan y Testun

Dan hawliau i gael mynediad at ddata, mae gan unigolyn hawl i ddarganfod pa wybodaeth amdano a ddelir. Mae gan unigolion hawl i'w data personol eu hunain yn unig ac nid i wybodaeth sy'n ymwneud â phobl eraill (oni bai eu bod yn gweithredu ar ran y person hwnnw). Nid oes ganddynt hawl i wybodaeth oherwydd y gallai fod ganddynt ddiddordeb ynddi.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am geisiadau am fynediad at ddata gan y testun ar ein gwefan. 

Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn darparu mynediad i'r cyhoedd at wybodaeth a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus. Mae'n gwneud hyn mewn dwy ffordd:

  • mae'n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi gwybodaeth benodol am eu gweithgareddau, ac
  • mae gan aelodau o'r cyhoedd hawl i ofyn am wybodaeth gan awdurdodau cyhoeddus.

Fel cyngor, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwybodaeth trwy gynllun cyhoeddi dan Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Dylai unrhyw wybodaeth yr ydym yn ei gyhoeddi'n rheolaidd gael ei chynnwys yn ein cynllun cyhoeddi.. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth ar ein gwefan.

Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru

Mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru'n darparu fframwaith i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag iechyd, addysg, diogelwch a lles cymdeithasol pobl yng Nghymru. Yn benodol, mae'n ymwneud â'r sefydliadau hynny sy'n dal gwybodaeth am unigolion ac y mae angen iddynt rannu'r wybodaeth honno er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am Gytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru ar ein gwefan.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Gorffenaf 2025