Cyngor ar ddiogelwch tacsis
Yn gyffredinol, mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn ffordd ddiogel o deithio. Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn dewis cerbyd trwyddedig a chymryd rhagofalon synhwyrol.
Mae tacsis trwyddedig yn Ninas a Sir Abertawe'n ddu. Fe'ch anogir i chwilio am dacsi ar ddiwedd y noson yn un o'n safleoedd tacsis sydd ar gael mewn lleoliadau allweddol yng nghanol y ddinas. Mae gan y safleoedd hyn farsialiaid tacsis yn rheolaidd
- Stryd Caer - gyferbyn ag Yates yn Sgwâr y Castell
- Stryd Efrog - gyferbyn â sinema Vue
- Ffordd y Brenin - y tu allan i faes parcio'r NCP
Mae'r holl gerbydau hurio preifat trwyddedig yn Ninas a Sir Abertawe'n wyn.
Sylwer bod yn rhaid i chi gadw cerbyd hurio preifat ymlaen llaw drwy weithredwr hurio preifat trwyddedig. Ni ddylech alw neu ofyn i yrrwr cerbyd hurio preifat am daith heb ei gadw ymlaen llaw oherwydd ei fod yn erbyn y gyfraith i'r gyrrwr fynd â chi a gallai olygu nad oes yswiriant ganddo.
Mae gan yr holl gerbydau trwyddedig yn Abertawe rif trwyddedu unigryw y gellir ei weld ar ddrysau'r teithiwr a'r gyrrwr a phlât ar gefn y cerbyd. Gwnewch nodyn o'r rhif hwn wrth ddefnyddio unrhyw gerbydau trwyddedig cyn mynd i mewn. Gallai hyn eich helpu os oes angen i chi olrhain y cerbyd, er enghraifft, os ydych chi'n gadael rhywbeth yn y car.
Bydd yr holl yrwyr trwyddedig yn gwisgo bathodyn gyda'u llun, rhif eu trwydded a'r dyddiad dod i ben arno. Byddant hefyd yn arddangos ail fathodyn yn y cerbyd i chi ei weld. Gwiriwch ef!
Cofiwch:
- defnyddiwch y safleoedd neu'r swyddfeydd hurio preifat swyddogol i drefnu'ch taith
- sicrhewch eich bod yn defnyddio tacsi du neu gerbyd hurio preifat gwyn
- gwiriwch rif trwyddedu unigryw'r cerbyd cyn i chi fynd i mewn i'r cerbyd. Ceisiwch nodi'r rhif neu gymryd llun o'r rhif ar y sticer ar y drws neu'r plât ar y cefn
- gwiriwch drwydded eich gyrrwr drwy sicrhau ei fod yn gwisgo'i fathodyn
- os oes gennych unrhyw gwynion neu ganmoliaeth am eich gyrrwr, y cerbyd neu'r gweithredwr, ffoniwch yr Adran Trwyddedu Tacsis ar 01792 635600 neu e-bostiwch y manylion i trwyddedutacsis@abertawe.gov.uk
Tacsi didrwydded
Os ewch am daith mewn tacsi didrwydded, rydych yn rhoi eich bywyd mewn perygl. Mae'n bosib nad yw eich gyrrwr wedi'i yswirio os gewch chi ddamwain, ac rydych mewn perygl o gael eich twyllo neu ddioddef ymosodiad neu rywbeth hyd yn oed yn waeth.
Os nad yw eich tacsi'n arddangos y sticeri a'r platiau hyn, PEIDIWCH Â THEITHIO YNDDO! Dylai pob gyrrwr wisgo bathodyn ffotograff adnabod bob amser. Dylid arddangos ail fathodyn yn y cerbyd.
Cerbydau hurio preifat | Cerbydau hacni |
---|---|
YN WYN. Maen nhw'n gallu bod yn geir salŵn neu'n gerbydau eraill sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y cyngor. Bydd y rhain yn arddangos plât ar gefn y cerbyd, ynghyd â Thrionglau Adnabod Gwyrdd sy'n nodi rhif trwydded y cerbyd. | YN DDU. Maent yn gerbydau math Llundain neu gerbydau cymeradwy sy'n arddangos plât ar y cefn. Byddwch hefyd yn gweld sticeri drws adnabod melyn sy'n nodi rhif trwydded y cerbyd. |
NID YDYNT YN - cerbydau math Llundain. | MAENT I'W GWELD - mewn rhesi tacsis ac o gwmpas y strydoedd. |
MAE'N RHAID IDDYNT BEIDIO Â - cheisio am gwsmeriaid ar y strydoedd. | GALLANT - geisio am gwsmeriaid. |
NI ALLANT - aros ger rhesi tacsis. | MAE'N RHAID BOD GANDDYNT - fesuryddion wedi'u profi a'u selio. |
MAE'N RHAID I YRWYR - wisgo bathodyn adnabod. | MAE'N RHAID I YRWYR - wisgo bathodyn adnabod. |
MAE'N RHAID - archebu dros y ffôn neu yn swyddfa'r cwmni. | PENNIR - prisiau gan y cyngor. |
NI PHENNIR - prisiau gan y cyngor. | COFIWCH BOB AMSER GWIRIWCH - fod y mesurydd yn gweithio. GWIRIWCH - fod y gyrrwr a'r cerbyd wedi'u trwyddedu. |
COFIWCH BOB AMSER GWIRIWCH - gost debygol y daith cyn archebu. GWIRIWCH - fod y gyrrwr a'r cerbyd wedi'u trwyddedu. | Cofiwch - os byddwch yn mynd y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe, gofynnwch i'r gyrrwr am amcangyfrif o'r gost. |