Toglo gwelededd dewislen symudol

Diogelwch ym mynwentydd y cyngor

Yn ôl y gyfraith, rydym yn gyfrifol am ddiogelwch yn ein mynwentydd, er mai teulu neu ffrindiau'r ymadawedig sy'n gyfrifol am gerrig coffa unigol.

Caiff pob carreg goffa ei gwirio dros gyfnod o bum mlynedd, i sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn sefydlog. Mae hyn oherwydd mewn mannau eraill yn y wlad mae pobl wedi'u hanafu, hyd yn oed eu lladd, gan gerrig coffa yn disgyn.

Rydym am allu ymgynghori â pherthnasau; fodd bynnag, wrth i'r amser fynd yn ei flaen, mae pobl yn symud cartrefi ac efallai'n newid eu henwau, ac yn naturiol nid ydynt yn meddwl rhoi gwybod i'r fynwent. Felly, os bydd angen unrhyw waith atgyweirio dylech gysylltu â saer meini coffa yn uniongyrchol o'n rhestr gymeradwy (gellir cael copïau gan staff sy'n gweithio yn y fynwent), er mwyn trefnu'r gwaith atgyweirio angenrheidiol.

Os ydych yn gofalu am fedd, neu'n gwybod am rywun sy'n gwneud hynny, rydym yn gofyn i chi gysylltu â ni i'n helpu i ddiweddaru ein cofnodion.

I ddiweddaru eich manylion, neu i drafod carreg goffa benodol yn un o'r lleoliadau canlynol, ffoniwch y Goruchwyliwr Mynwent perthnasol.

Close Dewis iaith