Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Y diweddaraf am Fusnes Twristiaeth - 23 Rhag 2024

Yn cefnogi adferiad ein diwydiant twristiaeth lleol

Twristiaeth Abertawe'n Disgleirio: Tri Enillydd Lleol i Gynrychioli'r Rhanbarth yn y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol

Mae rhagoriaeth twristiaeth Abertawe unwaith eto wedi cael ei chydnabod ar y llwyfan rhanbarthol, wrth i dri enillydd blaenllaw o'r ardal fynd rhagddynt i Wobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2025 ar ôl llwyddo yng Ngwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru.

Bydd yr enillwyr canlynol o Abertawe'n cynrychioli'r rhanbarth yn y digwyddiad cenedlaethol uchel ei fri, a gynhelir ar 27 Mawrth 2025 yn Venue Cymru, Llandudno:

Mae'r gwobrau hyn yn dathlu ymdrechion eithriadol unigolion a sefydliadau sy'n cyfrannu at ddiwydiant twristiaeth a lletygarwch ffyniannus Cymru.

Gwnaeth y Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, longyfarch yr enillwyr ar eu llwyddiant. Meddai:

"Llongyfarchiadau i Clyne Farm Centre, Savage Adventures a Sioe Awyr Cymru ar y cyflawniad campus hwn. Mae'r tri enillydd wedi dangos twristiaeth Abertawe ar ei gorau, ac rydym yn falch o weld eu gwaith caled a'u harloesedd yn cael eu cydnabod ar y llwyfan rhanbarthol.

"Mae Sioe Awyr Cymru, menter a arweinir gan y Cyngor, yn un o uchafbwyntiau calendr digwyddiadau Abertawe, gan ddenu miloedd o ymwelwyr a hybu ein heconomi leol. Mae'n hyfryd ei bod yn cael ei dathlu ochr yn ochr â dau fusnes lleol eithriadol.

"Rydym yn dymuno'r gorau iddynt wrth iddynt gynrychioli de-orllewin Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2025."

Meddai Pete Savage o Savage Adventures:

"Mae'n bleser mawr i ni ennill y categori Gweithgaredd, Taith neu Brofiad Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru. Rydym yn frwd dros greu profiadau awyr agored bythgofiadwy sy'n cysylltu pobl â thirweddau anhygoel Bae Abertawe a de-orllewin Cymru.

"Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dangos ymroddiad ein tîm i antur, cynaliadwyedd a boddhad cwsmeriaid. Mae'n destun balchder i ni gynrychioli'r rhanbarth yn y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol ac rydym yn edrych ymlaen at ddangos Bae Abertawe ar ei orau."

Meddai Sarah Haden o Clyne Farm Centre:

"Mae ennill y categorïau Busnes Gorau sy'n Croesawu Cŵn a Llety Hunanarlwyo Gorau'n fraint fawr i ni. Rydym yn hynod falch o greu profiadau unigryw a chroesawgar sy'n darparu ar gyfer pob ymwelydd - gan gynnwys eu ffrindiau blewog!

"Mae'r gwobrau hyn yn dathlu ein hymrwymiad i ansawdd, arloesedd a sicrhau bod pob gwestai'n mwynhau harddwch cyffiniau naturiol Bae Abertawe. Mae'n destun cyffro cynrychioli de-orllewin Cymru yn y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol a pharhau i osod y safon ar gyfer twristiaeth gynaliadwy a chynhwysol."

Mae'r Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol yn dathlu twristiaeth Cymru ar ei gorau ac yn cynnig cyfle i'r enillwyr gael eu cydnabod ar lwyfan ehangach, gan hybu enw da Bae Abertawe fel cyrchfan twristiaeth blaenllaw.

Ceir rhagor o wybodaeth am atyniadau arobryn Bae Abertawe drwy fynd i croesobaeabertawe.com.

Bwletin Cyflogwyr CThEF - rhifyn mis Rhagfyr

Mae rhifyn mis Rhagfyr o'r Bwletin Cyflogwyr yn dod â'r diweddaraf i chi am CThEF ynghyd ag arweiniad i gefnogi cyflogwyr, gweithwyr proffesiynol y gyflogres ac asiantiaid.

Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys diweddariadau pwysig ar:

  • Gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a newidiadau i Lwfans Cyflogaeth a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref 2024.
  • Dyletswyddau cofrestru awtomatig ar gyfer y rheini sy'n gweithio dros y Nadolig
  • Cadarnhau cynlluniau i orchymyn bod buddion mewn nwyddau yn cael eu hadrodd drwy feddalwedd gyflogres o fis Ebrill 2026.
  • Y gyfradd llog swyddogol o 6 Ebrill 2025
  • Arweiniad ynghylch rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr parth buddsoddi
  • Helpu'ch gweithwyr i ychwanegu arian at eu pensiwn y wladwriaeth 

Lawrlwythwch rifyn mis Rhagfyr yn awr

Cyllideb i greu dyfodol mwy disglair i Gymru

£1.5 biliwn yn ychwanegol i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi busnesau bach a sbarduno twf economaidd - dyna sylfaen Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-2026.

Er mwyn cefnogi busnesau Cymru, bydd y lluosydd ardrethi annomestig yn cael ei gapio ar 1% ar gyfer 2025-2026 a bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn parhau i gael rhyddhad o 40% tuag at eu biliau. Bydd cyfanswm o £335 miliwn yn cael ei wario ar gymorth ardrethi annomestig yn 2025-2026.

Mae manylion llawn ar gael ar: Cyllideb i greu dyfodol mwy disglair i Gymru | LLYW.CYMRU.

Ymgynghoriad: Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) - 10 Ionawr

Mae'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) wedi'i gyfeirio at y Pwylgor Cyllid ar gyfer y gwaith o graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1.

Os caiff ei basio, bydd y Bil yn:

  • Ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru fod yn gofrestredig ar gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr.
  • Rhoi pŵer disgresiwn i awdurdodau lleol i godi ardoll ymwelwyr ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr ('yr ardoll').
  • Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori cyn cyflwyno, newid neu ddiddymu'r ardoll.
  • Gwneud darparwyr llety ymwelwyr yn atebol am dalu'r ardoll i Awdurdod Cyllid Cymru.
  • Rhoi sail ar gyfer cyfrifo swm yr ardoll sy'n daladwy a sut y caiff ei gasglu.
  • Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddefnyddio'r enillion net at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn eu hardaloedd a chyhoeddi adroddiad ar ddefnyddio enillion yr ardoll.
  • Rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ymestyn yr ardoll drwy reoliadau i fod yn gymwys i ddocfeydd ac angorfeydd hefyd.

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 16.00 dydd Gwener 10 Ionawr 2025.

Ymgynghoriad: Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)

A allai eich busnes elwa o deithiau rhithwir am ddim?

Mae prosiect PACE Cymru ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn awyddus i weithio gyda busnesau lleol i roi'r dechnoleg newydd hon ar waith yn eu llwyth gwaith dyddiol, yn rhad ac am ddim.

Gall teithiau rhithwir gael effaith gwerth uchel ar eich busnes, p'un a ydynt at ddibenion hyrwyddol neu gynnal a chadw. Maent yn ffordd wych o arddangos y lleoedd sydd ar gael gennych neu eich cyfleusterau - gallwch hefyd boblogi'r amgylchedd gyda gwybodaeth allweddol, gan annog gwesteion i archwilio'r adeilad.

Cymerwch gip ar enghraifft o daith rithwir ar gyfer llyfrgell campwsyma

Daw'r prosiect i ben ym mis Chwefror 2025, felly os oes gennych ddiddordeb, peidiwch ag oedi, e-bostiwch glyn.jenkins@uwtsd.ac.uk

Bysus am ddim yn dychwelyd ar gyfer y cyfnod cyn y Nadolig 

Gall siopwyr sy'n mynd i ganol dinas Abertawe'r Nadolig hwn deithio ar fysus am ddim bob dydd Sadwrn a dydd Sul yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr, gan ddechrau ar benwythnos Gorymdaith y Nadolig, 16 Tachwedd.

Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau bydd y cynnig trafnidiaeth gyhoeddus 'Teithio am Ddim Abertawe' yn dychwelyd ar gyfer cyfnod y Nadolig ac mae'n dilyn gwyliau'r haf gwych lle'r oedd bysus am ddim bob penwythnos.

Gan ddechrau ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd, bydd y cynnig am ddim diweddaraf ar waith bob dydd Sadwrn a dydd Sul yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig. Bydd gwasanaethau hefyd am ddim ddydd Llun 23 Rhagfyr a Noswyl Nadolig.

Bydd y gwasanaeth am ddim yn ailddechrau 27 Rhagfyr a bydd yn parhau i fod am ddim tan 7pm Nos Galan. Bydd preswylwyr sy'n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Abertawe'n gallu teithio am ddim am 19 o ddiwrnodau.

Gwybodaeth: www.abertawe.gov.uk/bysusamddim

Basgedi crog i fusnesau

Archebwch fasgedi crog, basgedi polyn lamp a chafnau bariau i roi lliw i'ch busnes y gwanwyn/haf hwn.

Bwriadwn ddechrau dosbarthu basgedi yn ystod mis Mai, gan ddibynnu ar dyfiant y fasged ac os bydd y tywydd yn caniatáu. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gosod bracedi fel gallwn eu hongian i chi.

Os ydych yn dewis i'ch basgedi gael eu dyfrio gennym hefyd, byddant yn cael eu bwydo a'u dyfrio drwy'r haf tan oddeutu fis Hydref. Fel arfer, byddwn yn ymweld 4 diwrnod yr wythnos, ond os bydd cyfnod o dywydd sych, byddwn yn gwneud ymweliadau ychwanegol.

Dyddiad olaf i archebu: 30 Ebrill 2025 (wrth i fasgedi fod ar gael)

Basgedi crog i fusnesau

Dydd Gŵyl Dewi

Wrth i ni symud tuag at 2025, bydd ein tîm digwyddiadau'n edrych ymlaen at Ddydd Gŵyl Dewi ac yn gwneud cynlluniau ar gyfer ein digwyddiad Gŵyl Croeso blynyddol i ddathlu'r achlysur.  Cynhelir y digwyddiad, sy'n cynnwys diwrnod hwyl i'r teulu a gŵyl fwyd, yng nghanol y ddinas ddydd Gwener 28 Chwefror a dydd Sadwrn 1 Mawrth 2025, a bydd yn cynnwys gorymdaith liwgar i ddathlu diwrnod ein nawddsant.

Rydym yn bwriadu defnyddio'r Ŵyl Croeso fel digwyddiad hollgynhwysol ar gyfer yr holl ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi ar draws Abertawe.

Ydych chi wedi trefnu unrhyw ddigwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi? Os felly, rhowch wybod i ni fel ein bod ni'n gallu eu cynnwys yn nigwyddiad Gŵyl Croeso! Byddwch yn elwa o ymgyrch farchnata helaeth sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad hwn yn ogystal â brandio a chefnogaeth i hyrwyddo'ch dathliadau.

E-bost: special.events@abertawe.gov.uk

Mapiau Ymwelwyr Bae Abertawe maint A3 ar gael yn awr

Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein mapiau ymwelwyr maint A3 poblogaidd ar gael unwaith eto. Mae'r mapiau pen cownter, dwyochrog i'w rhwygo i ffwrdd yn cynnwys canol dinas Abertawe ar un ochr a Gŵyr a'r ardal ehangach ar y llall.

Maent yn berffaith i'w rhoi i ymwelwyr i'w helpu i wneud yn fawr o'u harhosiad ac archwilio popeth sydd gan ein hardal i'w gynnig.

Mae'r mapiau ar gael yn rhad ac am ddim i fusnesau twristiaeth a lletygarwch lleol - gellir eu casglu o Neuadd y Ddinas ar gais.

E-bostiwch Tim.Twristiaeth@abertawe.gov.uk i ofyn am gyflenwad ohonynt.

    Digwyddiadau gwych sy'n dod i Fae Abertawe yn 2024:

    7 Rhag 2024 - 5 Ion 2025: Jack and the Beanstalk, Theatr Y Grand Abertawe
    6 Maw - It's Your Swansea, Arena Abertawe
    26-31 Mai 2025: Eisteddfod yr Urdd, Parc Margam
    5-6 Gorff 2025: Sioe Awyr Cymru
    13 Gorff 2025: IronMan 70.3 Abertawe
    14 Medi 2025: 10k Bae Abertawe

    Oedd y diweddariad hwn ar y fasnach dwristiaeth yn ddefnyddiol? Rhannwch ef neu cysylltwch â Geraldine.Williams@abertawe.gov.uk

    Close Dewis iaith

    Rhannu'r dudalen hon

    Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

    Argraffu

    Eicon argraffu
    Addaswyd diwethaf ar 23 Rhagfyr 2024