Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut galla i fod yn llwyodraethwr

Mae ffyrdd gwahanol o gael eich penodi neu'ch ethol i gorff llywodraethu ac mae llywodraethwyr fel arfer yn gwasanaethu am bedair blynedd.

Beth yw'r manteision o fod yn llywodraethwr ysgol?

  • Gwybod eich bod wedi chwarae rhan mewn gwella addysg plant.
  • Cyfle i ddatblygu sgiliau newydd ac ymarfer y rhai sydd gennych, megis cadeirio cyfarfodydd, siarad mewn grwpiau, gofyn cwestiynau, gwneud awgrymu pethau a phenodi staff.
  • Y cyfle i gyfrannu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau i'r tîm.

Gall llywodraethwyr ddisgwyl cael:

  • Deunyddiau cymorth ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), a'r awdurdod lleol.
  • Cyflwyniad a hyfforddiant arall i helpu llywodraethwyr i gyflawni eu dyletswyddau.
  • Cyngor a chymorth hwylus parod gan ein Huned Ysgolion a Llywodraethwyr, Cymdeithas Llywodraethwyr Abertawe.
  • Help gan bennaeth eich ysgol, staff eraill a'ch cydlywodraethwyr.
  • Cymorth uniongyrchol gan staff arbenigol awdurdod lleol sy'n helpu llywodraethwyr i fynd i'r afael â materion megis personél, cyllid, iechyd a diogelwch, rheoli eiddo a'r gyfraith.
  • Copïau tymhorol o'n cyhoeddiad, 'Newyddion Llywodraethwyr'.

Os oes diddordeb gennych mewn bod yn llywodraethwr AALl neu'n llywodraethwr cymunedol, mae'r ffurflenni perthnasol ar gael ar y dudalen hon.

I ddechrau, ysgrifennwch at yr Yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr.

Beth yw cyfansoddiad corff llywodraethu?

There are several different types of school governor.

Rol llywodraethwr ysgol

Mae yna tua 22,200 o lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru. Maen nhw'n rhoi o'u hamser, sgiliau ac arbenigedd yn wirfoddol, i helpu eu hysgolion i ddarparu'r addysg gorau posibl i blant.

Swyddi gwag llywodraethwyr awdurdod lleol

Gwneud cais gan 5.00pm 9 Ebrill 2024. Bydd Panel Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol yn ail-ddechrau ar 23 Ebrill 2024.

Cais i gynrychioli'r cyngor fel llywodraethwr yr awdurdod lleol

Os hoffech ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein.

Cyflwyno cais am benodiad fel llywodraethwr cymunedol

Os hoffech gyflwyno cais, llenwch y ffurflen gais ar-lein.

Gwahardd aelodaeth o gyrff llywodraethu

Mae'n bwysig bod unrhyw un sy'n ystyried cyflwyno cais i fod yn llywodraethwr ysgol yn deall y gall rhai unigolion fod yn anghymwys i dderbyn y swydd hon.
Close Dewis iaith