Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Trefniadau derbyn - dosbarthiadau meithrin yn ysgolion yr awdurdod lleol 2024/ 2025

Ceisiadau lleoli cychwynnol, dewis rhieni a throsglwyddo.

Yr Awdurdod Lleol, yr ALl, yw'r awdurdod derbyn ar gyfer holl ysgolion cymunedol (ysgolion a ariennir ac a gynhelir yn llwyr gan yr ALl) yr ardal.

Cytunodd yr ALl y byddai ysgolion yn gweinyddu'r ceisiadau meithrin ar ran yr ALl.

Derbyn i ddosbarthiadau meithrin

Bydd gofyn i rieni/ofalwyr sydd am gael lle i'w plentyn mewn dosbarth meithrin gyflwyno cais am le.

Gall rhieni/gofalwyr naill ai wneud cais am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Gellir darparu cefnogaeth i rieni y mae angen cymorth arnynt lle y bo angen. Caniateir ceisiadau am leoedd os na fydd gwneud hynny'n peryglu darparu addysg effeithlon neu'r defnydd effeithlon o adnoddau.

Nid oes hawl i apelio os gwrthodir lle i blentyn mewn dosbarth meithrin.

Gall nifer y lleoedd meithrin sydd ar gael fod yn wahanol i nifer derbyn gweddill y grwpiau blwyddyn mewn ysgol (Derbyn i Flwyddyn 6).

(a)  Meini Prawf Gorymgeisio- dosbarthiadau meithrin mewn Ysgolion Cymunedol

Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol:

  1. Plant y mae'r Awdurdod Lleol yn gofalu amdanynt, h.y. Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG) neu a oedd yn arfer derbyn gofal*.
  2. Plant sy'n byw yn nalgylch penodol yr ysgol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.
  3. Plant y mae ganddynt frawd neu chwaer o oedran ysgol statudol sy'n mynd i'r ysgol ar adeg eu derbyn***. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.
  4. Plant eraill y gwnaed cais am le drostynt nad yw meini prawf 1 i 3 uchod yn berthnasol iddynt. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.

*Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG.

**Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter.

***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.)

Plant a chanddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol

Nid yw'r meini prawf gorymgeisio'n berthnasol i ddisgyblion y mae gan yr ALl Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ar eu cyfer, lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, ond amddiffynnir hawliau'r rhieni i fod yn rhan o leoli eu plant gan y gyfraith.  Bydd yr ALl, mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr ac ysgolion, yn penderfynu ym mha ysgol y bydd yr addysg yn cael ei darparu.  Mae'r ALl yn cadw'r hawl i enwi ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch.

Mae gan ysgolion ddyletswydd i dderbyn plant â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 y CDU, neu  Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi'u gosod mewn ysgol gan yr ALl ac mae'r disgyblion hyn yn cyfrif tuag at y nifer a dderbynnir hyd at y nifer derbyn, oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol â lleoedd cynlluniedig.

Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei gyhoeddi, ond gellir ei diweddaru yn seiliedig ar gyngor/deddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen.

Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol

Yn Abertawe mae gennym ysgolion eglwysig a Gynorthwyir yn Wirfoddol (sef ysgolion Catholig, ac ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru). Penderfynir ar geisiadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol drwy gyfeirio at y meini prawf derbyn a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol sy'n gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn eu hunain.

(b)  Gweithdrefnau Derbyn - lleoedd meithrin mewn Ysgolion Cymunedol

Gall rhieni / gwarchodwyr gyflwyno cais am le i'w plentyn yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis ar gyfer lle mewn ysgol arall gan ddefnyddio'r ffurflen cais am dderbyn.

Caniateir ceisiadau am le os oes lleoedd ar gael yn ôl y nifer derbyn cyhoeddedig.  Lle mae'r ceisiadau derbyn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r ALl.

Dylid defnyddio'r prif gyfeiriad preswyl wrth gyflwyno cais. Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sydd â chyfyngiadau ar ddeiliadaeth megis cabanau mewn parciau gwyliau sydd â chyfyngiadau tymhorol ar ddeiliadaeth fel cyfeiriad parhaol.

Ni fydd hawl awtomatig gan blant sy'n mynd i ddosbarth meithrin mewn ysgol i dderbyn addysg amser llawn yn yr un ysgol. Bydd rhaid i rieni / ofalwyr wneud cais am le gyda'r ymgeiswyr eraill ar yr adeg addas. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch.

Nid yw mynd i'r meithrin mewn unrhyw ysgol yn gwarantu y bydd lle ar gael yn y dosbarth Derbyn.

Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys sefyll profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, at ddiben asesu gallu neu ddawn.

Dylai rhieni / gofalwyr sy'n byw y tu hwnt i Awdurdod Lleol Dinas a Sir Abertawe gyflwyno cais i'w hawdurdod lleol eu hunain (yr awdurdod lleol y maent yn talu treth y cyngor iddo) oherwydd, os bydd yr ysgol / ysgolion y cyflwynwyd cais amdanynt yn Abertawe'n derbyn gormod o geisiadau, ni fydd rhaid i'r ALl gynnig lle ar gyfer ysgol arall yn Abertawe.

Tynnu lle yn ôl

Gellir tynnu lle yn ôl gan yr Awdurdod Lleol os derbynnir gwybodaeth sy'n awgrymu nad yw'r cais bellach yn bodloni'r meini prawf gorymgeisio yr aseswyd ef yn wreiddiol yn eu herbyn.  Caiff unrhyw le a gymeradwywyd ar sail preswylfa ei dynnu'n ôl os nad yw'r disgybl bellach yn byw'n barhaol yn y cyfeiriad ar ddechrau'r tymor ysgol y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

Rhestrau aros

Mae'r ALl, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion sydd wedi'u gordanysgrifio.  Yn achos pob cais, os yw rhieni/gofalwyr yn methu cael lle i'w plentyn/plant, cânt eu rhoi'n awtomatig ar y rhestr aros a chynigir cyfle iddynt fynd o flaen Panel Apeliadau Annibynnol. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Os daw lle ar gael, caiff ei ddyrannu gan yr ALl yn unol â'r meini prawf gordanysgrifio.

Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig.