Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithio Abertawe - Datblygiad proffesiynol parhaus

Gall Abertawe'n Gweithio helpu i ddadansoddi'ch rôl, eich cyfrifoldebau a'ch ffiniau eich hun yn y sefydliad.

Arweiniad

Mae profi'ch cymhwyster (eich gallu) yn y gwaith yn hanfodol. Mae'n caniatáu i chi weld eich posibiliadau Canolbwyntiwch ar ddatblygu'ch hun gyda'r nod o allu helpu eraill. Bydd hyn yn eich arwain i'r cyfeiriad iawn a bydd hefyd yn dangos efallai ei bod hi'n bryd i chi symud ymlaen a dechrau anelu am y nodau uwch sydd gennych.

Bydd gan bob arweinydd da gynlluniau datblygu yn barod ar gyfer y flwyddyn i ddod. Os ydych yn mynd i adolygiadau misol, chwarterol neu flynyddol, gwnewch yn siŵr eich bod yn trin yr amserau hyn fel gwiriad iechyd, ar eich cyfer chi eich hun ac fel cefnogaeth i'r sefydliad.

Dylech adnabod y sgiliau a'r galluoedd sydd gennych i'w cynnig yn eich swydd bresennol ac ystyried gwella sgiliau neu ddysgu rhai newydd i'ch helpu chi a'r sefydliad i ddatblygu.

Cymerwch amser i werthuso datblygiadau yn eich sector gwaith. Edrychwch ar y gystadleuaeth yn eich ardal ac ysbrydolwch ddatblygiadau newydd i ddal cynulleidfa. Byddwch yn ymwybodol o feysydd allweddol eich rôl, yn enwedig yn yr oes ddigidol. Manteisiwch ar gymdeithas waith 'ar-lein' sy'n tyfu a gosodwch eich nodau i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf sy'n ystyried dilyn eich llwybr gyrfa.

 

Arhoswch yn gadarnhaol

Mae pawb yn cael diwrnodau pan fyddan nhw'n teimlo na allan nhw barhau fel y maen nhw yn eu swydd bresennol neu maen nhw'n cymryd eu swydd yn ganiataol. Os ydych chi'n dechrau teimlo fel hyn, ewch ati i ddod o hyd i gefnogaeth ar gyfer y problemau ac esboniwch sut rydych yn teimlo wrth eich rheolwr.

Os ydych yn gwneud yn dda yn eich gyrfa neu'n teimlo bod angen i chi wella, gallwch ddatblygu gyda DPP achrededig. Siaradwch ag Abertawe'n Gweithio am ddod o hyd i gefnogaeth gwaith ar eich cyfer os ydych yn teimlo nad yw hyn ar gael i chi. Mae pobol ar gael sydd wir am helpu.

Gall Abertawe'n Gweithio helpu i ddadansoddi'ch rôl, eich cyfrifoldebau a'ch ffiniau eich hun yn y sefydliad. Ydych chi'n teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi fel unigolyn? Ydych chi'n gallu myfyrio ar unrhyw benderfyniadau gwael a thyfu ohonynt mewn ffordd gadarnhaol? Gall amgylchedd gwaith cefnogol wneud byd o wahaniaeth i'ch datblygiad.

Gallwn helpu i'ch cefnogi. Yr unig beth y mae'n rhaid i chi ei wneud yw gofyn. Ffôn 01792 578632 nawr.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Ionawr 2023