Toglo gwelededd dewislen symudol

Cais i drosglwyddo trwydded mangre

Os yw mangre wedi'i gwerthu neu os yw'n newid perchnogaeth, gallwch wneud cais i drosglwyddo'r drwydded mangre. Bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliad presennol y drwydded.

I gael caniatâd gan ddeiliad presennol y drwydded, dylech ddefnyddio'r ffurflen  Consent of premises licence holder to transfer (PDF) [39KB]. Bydd angen lanlwytho hon i'r ffurflen ar-lein, felly bydd angen i chi fod wedi cwblhau hon cyn i chi gwblhau'r cais i drosglwyddo trwydded mangre.

Os na allwch gael caniatâd, dylech ddarparu datganiad ynghylch pam nad yw wedi'i amgáu gyda'r cais.

Bydd angen i bob ymgeisydd unigol, gan gynnwys y rheini mewn partneriaeth nad yw'n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ond nid cwmnïau na phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, gynnwys dogfennau sy'n dangos yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig (darllenwch nodyn arweiniol 2)

Mae angen i chi hefyd ddarparu'r drwydded mangre bresennol neu reswm pam na ellir ei darparu.