Dwysedd poblogaeth
Ystadegau poblogaeth Abertawe ac ardaloedd lleol.
Mae amcangyfrifon dwysedd poblogaeth ar gael ar gyfer Abertawe a'i hardaloedd lleol, gan gynnwys wardiau ac Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is a Chanol (ACEHI ac ACEHG). Mae'r ffigyrau hyn yn deillio o rannu'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol ag arwynebedd y tir mewn cilometrau sgwâr. Mesurir arwynebedd y tir ar y penllanw cymedrig ac eithrir ardaloedd lle mae dŵr mewndirol, fel a argymhellir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Eurostat.
Cynhwysir ffigurau dwysedd poblogaeth (a'r amcangyfrifon cyfanswm poblogaeth ac arwynebedd tir ategol) yn y ffeil sydd ar y dudalen hon, sy'n cynnwys y taflenni gwaith canlynol ar wahân:
- Dinas a Sir Abertawe, 1991 i canol 2023
- Awdurdodau lleol yng Nghymru, canol 2023
- Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn Abertawe, canol 2022
- Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol yn Abertawe, canol 2022
- Wardiau etholiadol yn Abertawe, canol 2022.
Dwysedd Poblogaeth 2022-23 (Excel doc) [132KB]
Dwysedd cyfartalog poblogaeth Dinas a Sir Abertawe yw 653 o bobl y cilometr sgwâr (amcangyfrif canol 2023), sef y pedwerydd uchaf o 22 o ardaloedd awdurdod lleol Cymru (cyfartaledd: 153 o bobl y cilometr sgwâr). Yn Abertawe, mae amcangyfrifon dwysedd poblogaeth lleol yn amrywio'n sylweddol gan ddibynnu ar y ddaearyddiaeth ardaloedd bach a ddefnyddir:
- Ar gyfer wardiau, mae gwerthoedd yn amrywio o 32 o bobl y cilometr sgwâr (ar gyfer ward Gŵyr) i 6,421 o bobl y km sgwâr (ward Uplands).
- ACEHG: o 49 o bobl y km sgwâr (Abertawe 030 - 'Gorllewin Gŵyr') i 8,897 o bobl y km sgwâr (Abertawe 026 - 'Brynmill').
- ACEHI: o 29 o bobl y km sgwâr (ACEHI Gŵyr 2) i 15,168 o bobl y km sgwâr (ACEHI 'Uplands 9').
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr amcangyfrifon dwysedd poblogaeth neu ystadegau poblogaeth eraill, cysylltwch â ni.