Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyddiadau pwysig i'w cofio ar gyfer Addysg Uwchradd 2024 / 2025

Mae'r amserlen hon ar gyfer rhieni sy'n gwneud cais am le ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2024.

 

Amserlen 2024 / 2025
2 Hydref 2023Gall unrhyw riant gyda phlentyn sy'n gymwys i ddechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2024 ddechrau'r broses o gyflwyno cais am le. Bydd yr Awdurdod Lleol yn ysgrifennu at yr holl rieni y mae eu plant wedi'u cofrestru mewn dosbarth Blwyddyn 6 mewn ysgol gynradd yn Abertawe i'w gwahodd i wneud cais am le ym Mlwyddyn 7 i'w plant.
24 Tachwedd 2023Dyddiad cau i rieni wneud cais a chwblhau'r ffurflen gais ar-lein. Dylech gwblhau un ffurflen yn unig gan nodi'n glir eich dewis cyntaf o ysgol, a'r ail a'r trydydd dewis. Dyrennir lleoedd yn unol a'r meini prawf derbyn a nodir ar dudalen 11
Polisi ar geisiadau hwyr

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ol y dyddiad cau a gyhoeddir (24 Tachwedd 2023) yn cael eu hystyried tan ar ol i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y diwrnod cynnig statudol. Ymdrinnir â cheisiadau hwyr yn y drefn y'u derbyniwyd.

Os oes mwy o geisiadau hwyr am ysgol nag y mae lleoedd ar gael, bydd y ceisiadau'n cael eu hystyried yn unol â'r meini prawf gor-alw.  

Mae hyd yn golygu efallai na ddyrennir lle i chi yn yr ysgol o'ch dewis hyd yn oed os ydych chi'n byw yn nalgylch yr ysgol neu'n symud i'r dalgylch ar ol 24 Tachwedd 2023. Gellir cynnal apeliadau am geisiadau hwyr ar ôl i'r apeliadau am geisiadau ar amser gael eu cynnal.

1 March 2024Hysbysir rhieni sydd wedi gwneud cais ar amser ynghylch p'un a ddyrannwyd lle i'w plentyn yn yr ysgol o'u dewis ai peidio, ac os na, ble mae lle ar gael.
2 March - 28 March 2024Gall rhieni sydd wedi gwneud cais ar amser apelio yn erbyn cais aflwyddiannus trwy ofyn am ffurflen apelio gan y Trefniadau Derbyn

 

Close Dewis iaith