Toglo gwelededd dewislen symudol

Gosod dysglau lloeren ar dai cyngor

Gallwch osod dysgl loeren ar eich eiddo ar yr amod eich bod wedi cael caniatâd yr Adran Tai a'r Adran Cynllunio, os oes angen.

Bydd angen i chi ysgrifennu at eich swyddfa dai ardal i ofyn am ganiatâd.

Efallai bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio os:

  • bydd diamedr y ddysgl yn fwy na 900mm
  • bydd mwy nag un dysgl fesul eiddo
  • ydych yn byw mewn bloc isel o fflatiau ac mae 2 ddysgl eisoes ar y bloc
  • bydd y ddysgl yn cael ei gosod ar y simnai neu'n uwch na'r to

Byddwn yn ymateb i chi ar ôl i ni gael ymateb gan yr Adran Gynllunio.

Eich cyfrifoldeb chi fydd symud ac ailosod y ddysgl os gwneir gwaith ar eich eiddo. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw waith sydd ar ddod, ond ni fyddwn yn talu am symud y ddysgl. Os nad ydych yn symud y ddysgl erbyn y dyddiad a roddwyd, byddwn ni'n ei symud ac yn codi tâl arnoch am wneud hynny.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Gorffenaf 2021