Toglo gwelededd dewislen symudol

Dysgwyr anabl - Strategaeth Hygyrchedd 2024 / 2027

Ein cynlluniau ar gyfer gwneud ein hysgolion yn fwy hygyrch i ddysgwyr anabl.

Mae hygyrchedd yn cychwyn gydag agwedd

Yn bwsig
Yn bresennol
Yn cael eich gwerthfawrogi

Cynnwys

Cyflwyniad
Adran 1: Diffiniadau
Adran 2: Y fframwaith deddrwriaethol
Adran 3: Cyd-destun Abertawe
Adran 4: Strategaeth hygyrchedd Abertawe
Adran 5: Blaenoriaethau, cynllunio gweithredu a monitro
Atodiad 1
Atodiad 2
Atodiad 3
Rhestr Termau

 

Cyflwyniad

Yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010 a gynhwysir yn Adran 1, bydd y term 'dysgwr anabl' yn cael ei ddefnyddio drwy'r ddogfen hon i gyfeirio at blant a phobl ifanc yn ysgolion Abertawe sydd â nam ac sy'n anabl o'i herwydd.

Mae'r ddogfen hon yn nodi strategaeth y Gyfarwyddiaeth Addysg ar gyfer cynyddu fesul cam hygyrchedd ysgolion yr awdurdod lleol i ddysgwyr anabl. Bydd yn cael ei adolygu'n flynyddol a'i ddiweddaru bob tair blynedd. Mae'n bwysig nodi bod y strategaeth hon yn ymwneud yn benodol â gwella mynediad i ddysgwyr anabl fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Fel y cyfryw, mae angen gwahaniaethu rhwng anabledd ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Mae Cyngor Abertawe wedi mabwysiadu'r Model Cymdeithasol o Anabledd sy'n cydnabod mai cymdeithas sy'n creu rhwystrau agweddol a chorfforol sy'n anablu pobl, yn hytrach na'u namau corfforol neu feddyliol nhw eu hunain. Mae'r Model Cymdeithasol yn ddull cadarnhaol o ymdrin ag anabledd, sy'n canolbwyntio ar ddileu rhwystrau i gydraddoldeb. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddileu pob rhwystr o'r fath i'w wasanaethau.

Gweledigaeth y Gyfarwyddiaeth Addysg yw profiad addysg cynhwysol, teg a chadarnhaol i bob dysgwr anabl. Ategir hyn gan y gred bod pob plentyn yn wahanol, yn dysgu'n wahanol, ac y dylai pob un gael mynediad llawn i'r un cwricwlwm. Ni ddisgwylir i ddysgwyr ag anableddau addasu i strwythur addysg anystwyth. Dylid addasu'r strwythur i sicrhau bod arddulliau ac anghenion dysgu pawb yn cael eu diwallu. Caiff rhwystrau i ddysgu eu dileu er mwyn galluogi pob dysgwr i gymryd rhan lawn yn y cwricwlwm a bywyd yr ysgol, ac i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfartal.

Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg yn cydnabod:

  • bod dysgwyr anabl yn wynebu heriau penodol sy'n bygwth eu hymyleiddio, gan eu gwthio i gyrion addysg a'u cymuned leol, o gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol ac o fwynhau bywyd cymdeithasol;
  • bod gwahaniaethau'n parhau rhwng cyrhaeddiad pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl;;
  • effaith croestoriadedd, lle mae pobl sy'n rhannu mwy nag un nodwedd warchodedig mewn perygl o anfantais luosog, annhegwch, gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth;
  • gall agweddauac ymddygiadau sydd wedi gwreiddio'n ddwfn, yn systemig ac yn wahaniaethol fod yr her fwyaf;
  • yr angen am ddull seiliedig ar asedau sy'n gwerthfawrogi gwybodaeth a phrofiad bywyd y plentyn a'r teulu ochr yn ochr ag arbenigedd yr ysgol, lle gellir cyflawni newid cadarnhaol gyda'i gilydd;
  • y cysylltiad rhwng anabledd a thlodi;
  • bod plant anabl yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr trosedd.

(Gweler Atodiad 1 am ddata yn ymwneud â'r uchod)

Ein nodau hirdymor:

Mae pob dysgwr anabl yn bwysig, yn bresennol ac yn cael ei werthfawrogi.

Mae pob ysgol eisiau i bob plentyn yn eu dalgylch fod yn eu hysgol ac yn ceisio dileu rhwystrau trwy feddwl 'y tu allan i'r bocs'.

Mae pob pennaeth ac uwch arweinydd yn ysgolion Abertawe yn deall hyn, a hyd yn oed os nad ydynt wedi cyrraedd y sefyllfa hon eto, maent yn meddwl am hygyrchedd i ddysgwyr anabl ym mhob penderfyniad a wnânt.

Nid yw rhieni sy'n gofalu am ddysgwyr anabl yn teimlo fel rhiant-ofalwr ond rhiant yn unig, ac maent yn gwybod bod eu plentyn yn cael ei ystyried yn werthfawr.

Grŵp ffocws Rhiant-ofalwyr

 

Nod trosfwaol y strategaeth hon felly yw gwella lefelau presenoldeb, cyfranogiad a chyflawniad plant a phobl ifanc ag anableddau yn Abertawe. Mae hyn yn cyd-fynd â Gweledigaeth Cyngor Abertawe a'r amcan llesiant cysylltiedig ar gyfer addysg: Cynllun Corfforaethol Dinas a Sir Abertawe 2023-2028

Gweledigaeth Cyngor Abertawe:

Yn 2028 mae Abertawe yn lle sydd â chanol dinas ac economi leol defnydd cymysg ffyniannus. Mae'n fan lle gall pobl ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd, lle gall pawb gyflawni eu potensial a lle mae cymunedau'n gydnerth ac yn gydlynol. Mae Abertawe yn fan lle mae hawliau dynol yn cael eu parchu, a lle mae pobl yn cael eu diogelu rhag niwed a chamfanteisio. Mae'n fan lle mae natur a bioamrywiaeth yn cael eu cynnal a'u gwella, a lle mae allyriadau carbon yn gostwng.

Amcan llesiant:

Gwella Addysg a Sgiliau - fel bod pawb yn Abertawe yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd.

Mae cydberthynas agos rhwng Cynllun Corfforaethol ac Amcanion Llesiant y Cyngor a Chynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor ac Amcanion Cydraddoldeb. Cyhoeddir Cynllun Cydraddoldeb Strategol awdurdod lleol newydd yn ystod 2024. Yn ogystal, wrth wneud penderfyniadau strategol ar flaenoriaethau neu amcanion, rhoddir ystyriaeth i sut y gallai penderfyniadau helpu i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol: Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol (llyw.cymru)

Mae datblygiad y Strategaeth Hygyrchedd (y Strategaeth) hefyd yn seiliedig ar y dull hawliau dynol a hawliau plantsy'n ymgorffori'r egwyddorion allweddol canlynol:

  • Ymgorffori Hawliau Dynol: Dylai hawliau dynol/plant fod wrth wraidd cynllunio a darparu gwasanaethau.
  • Cydraddoldeb a Pheidio â gwahaniaethu: Sicrhau bod dysgwyr anabl yn cael cyfle cyfartal i wneud y gorau o'u bywydau a'u doniau, ac nad oes rhaid iddynt ddioddef cyfleoedd bywyd gwael oherwydd gwahaniaethu. Mae cydraddoldeb yn golygu trin pob dysgwr anabl yn deg a darparu cyfleoedd ac adnoddau iddynt yn unol â'u hanghenion, yn gyfartal ag eraill, a sicrhau eu bod yn gallu datblygu a ffynnu i'w llawn botensial. Mae hybu cydraddoldeb yn golygu cymryd camau i fynd i'r afael â gwahaniaethu.
  • Grymuso pobl: gwella galluoedd dysgwyr anabl fel unigolion fel eu bod yn gallu manteisio'n well ar hawliau.
  • Cyfranogiad: gwrando ar ddysgwyr anabl a'u rhieni/gofalwyr ac ystyried eu barn yn ofalus.
  • Atebolrwydd: Mae angen i benderfyniadau effeithiol fod yn dryloyw a rhoi rhesymau dros benderfyniadau a chamau gweithredu.

Mae datblygiad y strategaeth hon hefyd yn rhoi sylw dyledus i'r pum ffordd o weithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (llyw.cymru) ac yn benodol, i'r nod llesiant: Cymru fwy cyfartal: Cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo'u cefndir na'u hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a'u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).

Mae'r Gyfarwyddiaeth yn cydnabod yr argymhellion yn yr adroddiad Bywydau Llawn: Mynediad Cyfartal Adroddiad dilynol ar hygyrchedd i ddefnyddwyr cadair olwyn mewn ysgolion yng Nghymru (Comisiynydd Plant Cymru, 2018) (gweler Atodiad 2).

Fel y cyfryw, datblygwyd y Strategaeth hon drwy ddull cydgynhyrchu. Mae safbwyntiau dysgwyr a rhieni wedi'u hymgorffori yn ogystal â barn swyddogion addysg a swyddogion awdurdodau lleol eraill, grwpiau sydd â diddordeb penodol yn ogystal â'r cyhoedd yn ehangach. Cynhaliwyd ymarfer cwmpasu cychwynnol i lywio drafft cyntaf y Strategaeth. Mae'r Strategaeth ddrafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ehangach cyn ei chyhoeddi'n derfynol.

 

Adran 1: Diffiniadau

Gall dysgwr fod ag:

  • Anabledd yn unig
  • Anabledd ac ADY
  • ADY yn unig
  • Dim Anabledd nac ADY

Mae'r Strategaeth hon yn berthnasol i'r ddau gategori cyntaf yn unig. Esbonnir y diffiniadau o anabledd ac ADY isod.

Ystyr Anabledd (fel y'i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010)

Mae'r term 'disgybl' yn golygu plentyn neu berson ifanc o unrhyw oedran y darperir addysg ar ei gyfer, neu y mae'n ofynnol iddi gael ei darparu ar ei gyfer. Yn unol ag adran 6 o'r Ddeddf Cydraddoldeb, mae person (P) yn anabl:

(a)  os oes gan P nam corfforol neu feddyliol, ac
(b)  os yw'r nam yn cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu P i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Mae'r diffiniad o anabledd yn cwmpasu namau corfforol, sy'n cynnwys namau symudedd a synhwyraidd. Mae hefyd yn ymdrin â namau meddwl sy'n cynnwys anawsterau dysgu ac unrhyw nam sy'n deillio o salwch meddwl. Yn yr achos olaf, nid oes angen i'r salwch meddwl gael ei 'gydnabod yn glinigol', ond rhaid iddo ddal i gael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Ystyrir bod pob un o'r achosion o ganser, haint firws diffyg imiwnedd dynol (HIV) a sglerosis ymledol yn anabledd, yn yr un modd ag anffurfiad difrifol (Deddf Cydraddoldeb, Atodlen 1, paragraffau 3 a 6).

Mae anabledd hefyd yn cwmpasu'r rhai sydd â chyflwr cynyddol, megis nychdod cyhyrol, sy'n arwain at i berson fod â nam a fydd yn y dyfodol yn cael effaith andwyol sylweddol ar allu'r person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd (Deddf Cydraddoldeb, Atodlen 1, paragraff 8).

Rhaid i effaith yr amhariad fod yn sylweddol a rhaid iddo gael effaith andwyol sy'n fwy nag effaith fach. Mae hyn oherwydd nad yw bod â nam ynddo'i hun yn golygu bod person yn anabl. Dylid trin nam fel ei fod yn cael effaith andwyol sylweddol ar allu'r person dan sylw pe bai'n debygol o gael effaith andwyol sylweddol heb gymryd camau i'w oresgyn.

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) fel y'u diffinnir gan ALNET (2018)

(1)  Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd(boed yr anhawster dysgu neu anabledd yn deillio o gyflwr meddygol neu fel arall) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

(2)  Mae gan blentyn o oedran ysgol gorfodol neu berson dros yr oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd os yw ef neu hi -

(a) yn cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na'r mwyafrif o'r lleill o'r un oedran, neu
(b) gydag anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 sy'n ei atal neu'n ei lesteirio rhag gwneud defnydd o gyfleusterau addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol i eraill o'r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir, neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.

Mae Adran 3 Deddf ALNET (2018) yn diffinio'r term 'darpariaeth ddysgu ychwanegol' (DDdY), fel -

(1) darpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy'n ychwanegol at, neu'n wahanol i'r hyn a wneir yn gyffredinol ar gyfer eraill o'r un oedran mewn -

(a) ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru
(b) sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu
(c) fannau yng Nghymru lle y darperir addysg feithrin.

Ni fydd gan bob dysgwr sydd ag anabledd ADY (fel y'i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010)
Dim ond pan fydd anabledd y dysgwr yn ei atal neu'n ei lesteirio rhag gwneud defnydd o gyfleusterau addysgol neu hyfforddiant o'r math a ddarperir yn gyffredinol i eraill o'r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir, a bod hyn angen DDdY, y mae ganddynt ADY (oni bai bod ganddynt ADY oherwydd bod ganddynt anhawster dysgu sy'n galw am DDdY). 

I fod yn ADY, nid oes angen i anabledd effeithio ar fynediad i gyfleusterau addysgol neu hyfforddiant ym mhob maes dysgu ond gallai fod, er enghraifft, yn nam corfforol sydd ond yn effeithio ar fynediad i gyfleusterau addysg gorfforol ac sy'n galw am DDdY mewn perthynas ag addysg gorfforol yn unig. Gall dysgwr fod yn perfformio'n dda ar draws pob maes o'r cwricwlwm ond yn dal i fod ag ADY oherwydd bod ganddo anabledd sy'n ei atal neu'n ei rwystro rhag gwneud defnydd llawn o gyfleusterau addysgol neu hyfforddi oni bai bod DDdY yn cael ei wneud ar ei gyfer. 

Ceir rhai mathau o anabledd lle mae natur yr anabledd yn golygu ei bod yn debygol y bydd gan y dysgwr ADY. Er enghraifft, mae'n rhaid i awdurdodau lleol sefydlu a chynnal cofrestr o'r rhai yn eu hardal sydd â nam ar eu golwg neu eu clyw, neu sydd â chyfuniad o'r ddau, sy'n cael effaith sylweddol ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae dysgwyr ar y gofrestr hon yn fwy tebygol o fod ag ADY oherwydd bod y nam yn debygol o'u hatal neu eu rhwystro rhag defnyddio cyfleusterau addysgol neu hyfforddi ac mae'n debygol o alw am DDdY.

Mae ystod eang o anawsterau neu anableddau dysgu, ond gellir dosbarthu'r rhain yn fras i'r pedwar maes canlynol:

  • Cyfathrebu a rhyngweithio;
  • Gwybyddiaeth a dysgu;
  • Ymddygiad, datblygiad emosiynol a chymdeithasol;
  • Synhwyraidd a/neu gorfforol.

 

Adran 2: Y fframwaith deddfwriaethol

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu, erledigaeth ac aflonyddu ar sail y nodweddion gwarchodedig canlynol, y mae anabledd yn un ohonynt:

  • Oedran;
  • Anabledd;
  • Ailbennu Rhywedd;
  • Priodas a Phartneriaeth Sifil (amddiffyn rhag gwahaniaethu uniongyrchol yn unig);
  • Beichiogrwydd a Mamolaeth;
  • Hil;
  • Crefydd neu ddim cred;
  • Rhyw;
  • Cyfeiriadedd Rhywiol

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (Deddf 2010) yn disodli'r holl ddeddfwriaeth flaenorol ar wahaniaethu ar sail anabledd. Cafodd Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 ei diddymu a'i disodli gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r Awdurdod Lleol yn ddarostyngedig i'r dyletswyddau cyffredinol a phenodol a nodir yn Neddf 2010. Mae'r rhain yn cwmpasu pob agwedd ar gydraddoldeb, gan gynnwys anabledd. Ceir rhagor o fanylion am y dyletswyddau cyffredinol a phenodol a sut y maent yn berthnasol i awdurdodau lleol ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Gwahaniaethu

Gall gwahaniaethu fod yn uniongyrcholneu'n anuniongyrchol.

  • Mae gwahaniaethu uniongyrchol ar ddysgwr anabl yn digwydd pan fydd y disgybl anabl yn cael ei drin yn llai ffafriol nag un arall oherwydd ei nam neu ei anabledd.
  • Nid yw'n wahaniaethu i drin dysgwr anabl yn fwy ffafriol nag un nad yw'n anabl.
  • Gall dysgwyr anabl brofi gwahaniaethu anuniongyrchol lle mae polisi penodol, fel y caiff ei gymhwyso, yn eu rhoi dan anfantais (neu y byddai, pe bai'n cael ei gymhwyso, yn eu rhoi dan anfantais).
  • Mae gwahaniaethu'n codi pan fydd disgybl anabl yn cael ei drin yn llai ffafriol nid oherwydd yr anabledd ei hun, ond am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd ef/hi ac na ellir cyfiawnhau'r driniaeth.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Adran 149 o Ddeddf 2010)

Mae gan bob awdurdod lleol ac ysgol ddyletswydd gyffredinol o dan Ddeddf 2010 i roi sylw dyledus i'r angen i:

► ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan neu o dan y Ddeddf hon;
► hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu; a
► meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

Yn benodol, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ac ysgolion gyhoeddi gwybodaeth ar ffurf Cynllun Cydraddoldeb Strategoli ddangos cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd gyffredinol, a gallai hwn gynnwys gwybodaeth ynghylch sut y caiff y ddyletswydd ei chyflawni mewn perthynas â dysgwyr anabl.

O ran pobl ag anabledd, mae Deddf 2010 yn ailddatgan dyletswyddau blaenorol ynghylch cynllunio hygyrchedd a'r angen i wneud addasiadau rhesymol.

Bu gan ysgolion ac awdurdodau lleol ddyletswydd ers 2002 i ddarparu addasiadau rhesymol ar gyfer dysgwyr anabl, yn wreiddiol o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, ac yn awr o dan Ddeddf 2010.

Nodir y dyletswyddau hyn isod.

Addasiadau Rhesymol (Atodlen 13 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010)

Mae Deddf 2010 yn nodi tri gofyniad mewn perthynas ag addasiadau rhesymol:

► Mae'r gofyniad cyntaf yn nodi lle mae darpariaeth, maen prawf neu arfer ysgol yn rhoi person anabl o dan anfantais sylweddol mewn perthynas â mater perthnasol o'i gymharu â phersonau nad ydynt yn anabl, y dylid cymryd camau rhesymol i osgoi'r anfantais.

► Mae'r ail ofyniad yn nodi lle mae nodwedd ffisegol yn rhoi person anabl o dan anfantais sylweddol mewn perthynas â mater perthnasol o'i gymharu â phersonau nad ydynt yn anabl, y dylid cymryd camau rhesymol i osgoi'r anfantais.

► Mae'r trydydd gofyniad yn nodi lle byddai person anabl, oni bai am ddarparu cymorth ategol, yn cael ei roi o dan anfantais sylweddol mewn perthynas â mater perthnasol o'i gymharu â phersonau nad ydynt yn anabl, y dylid cymryd camau rhesymol i ddarparu'r cymorth ategol.

Mae ysgolion yn ddarostyngedig i'r gofyniad cyntaf a'r trydydd gofyniad. Cydymffurfir â'r ail ofyniad trwy ddatblygu cynlluniau hygyrchedd (Gweler isod).

Cynlluniau / Strategaethau Hygyrchedd (Atodlen 10 a Ddeddf Cydraddoldeb 2010)

Nodir Canllawiau Statudol i awdurdodau lleol ac ysgolion ar gynhyrchu strategaethau a chynlluniau hygyrchedd yn y ddogfen Cynllunio i Gynyddu Mynediad i Ysgolion i Ddisgyblion Anabl, Llywodraeth Cymru 2018

Mae Atodlen 10 o Ddeddf Cydraddoldeb (2010) yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol baratoi cynllun hygyrchedd a rhaid i bob awdurdod lleol baratoi strategaeth hygyrchedd mewn perthynas ag ysgolion y mae'n gorff cyfrifol iddynt. Mae strategaethau hygyrchedd a chynlluniau hygyrchedd yn helpu i sicrhau bod plant anabl yn cael eu cynnwys yn llawn mewn amgylchedd ysgol.

Mae gwella mynediad i addysg i blant anabl yn golygu ystyried y tair dyletswydd gynllunio sydd hefyd yn ofyniad statudol yn Atodlen 10 Deddf 2010:

► y cwricwlwm a sut mae'n cael ei addysgu;
► hygyrchedd adeiladau ysgol a'u hamgylchedd, gweithgareddau ysgol gan gynnwys teithiau ysgol a chludiant; a
► gwybodaeth a gweithgareddau a ddarperir gan ysgolion a pha mor hawdd yw hi i ddisgyblion anabl a/neu eu rhieni anabl eu deall.

Rhaid i strategaethau a chynlluniau gwmpasu cyfnod o dair blynedd a chael eu hadolygu a'u diwygio yn ôl yr angen, gyda chynlluniau a strategaethau newydd yn cael eu cynhyrchu bob tair blynedd. Dylai cynlluniau nodi amcanion tymor byr, canolig a hir. Wrth baratoi strategaethau a chynlluniau hygyrchedd, rhaid cynnal ymgynghoriad llawn ac effeithiol i nodi gwelliannau priodol gan sicrhau yr ystyrir barn disgyblion anabl a'u rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol priodol.

Rhaid i addasiadau rhesymol i ddarparu ar gyfer disgyblion anabl yn y dyfodol gael eu hymgorffori mewn strategaethau a chynlluniau hygyrchedd - mae angen cynllunio ymlaen llaw a gwella'n barhaus, p'un a yw disgyblion anabl yn mynychu'r ysgolion dan sylw ar hyn o bryd ai peidio.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD) a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (CCUHP)

Confensiwm y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yw'r cytundeb hawliau dynol rhyngwladol sy'n nodi hawliau dynol pobl anabl. Mae'r cytundeb yn diffinio pobl ag anableddau fel:

'y rhai sydd â namau corfforol, meddyliol, deallusol neu synhwyraidd hirdymor a all, wrth ryngweithio â rhwystrau amrywiol, eu hatal rhag cymryd rhan lawn ac effeithiol mewn cymdeithas ar sail gyfartal ag eraill.'

Mae CCUHP ac UNCRPD yn ymdrin yn benodol â'r angen i amddiffyn hawliau plant ag anableddau.

Noda Erthygl 7 UNCRPD:

  1. Rhaid i Bartïon gymryd yr holl fesurau angenrheidiol i sicrhau bod plant ag anableddau yn mwynhau'n llawn yr holl hawliau dynol a'r holl ryddid sylfaenol ar sail gyfartal â phlant eraill.
  2. Ym mhob gweithred sy'n ymwneud â phlant ag anableddau, lles pennaf y plentyn fydd y brif ystyriaeth.
  3. Rhaid i Bartïon sicrhau bod gan blant ag anableddau yr hawl i fynegi eu barn yn rhydd ar bob mater sy'n effeithio arnynt, gan roi pwys dyladwy i'w barn yn unol â'u hoedran a'u haeddfedrwydd, ar sail gyfartal â phlant eraill, ac i gael darpariaeth o gymorth anabledd sy'n briodol i oedran i wireddu'r hawl honno.

Yn yr un modd, mae'r CCUHP, yn Erthygl 23 yn datgan bod gan blant ag anabledd yr hawl i fwynhau 'bywyd llawn a gweddus'. Yn ogystal, mae'r CCUHP yn datgan bod gan bob plentyn hawl i wybodaeth (erthygl 13), addysg (erthyglau 28 a 29) ac i fynegi eu barn (erthygl 12). Mae'r hawliau hyn wedi'u hymgorffori yng Nghyfraith Cymru drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Mae'r CCUHP hefyd yn datgan bod gan blant yr hawl i ddefnyddio eu hiaith eu hunain. Iaith gyntaf llawer o blant a phobl ifanc byddar yw Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ALNET)

Fel y nodwyd yn flaenorol, ni fydd gan bob dysgwr anabl ADY. Yn achos y dysgwyr anabl hynny sydd ag ADY, bydd ALNET hefyd yn berthnasol.

Mae Deddf ADY yn gosod ei nod a'i phwrpas trwy bum egwyddor greiddiol:

► Dull gweithredu seiliedig ar hawliau lle mae barn, dymuniadau a theimladau'r person ifanc (a lle bo'n briodol, ei riant) yn ganolog i gynllunio a darparu cymorth.

► Adnabyddiaeth gynnar, ymyrraeth a chynllunio trosglwyddo effeithiol.

► Cydweithio lle mae pawb sy'n gysylltiedig yn gweithio gyda'i gilydd er lles gorau'r person ifanc.

► Addysg gynhwysol sy'n cefnogi cyfranogiad llawn mewn addysg bellach prif ffrwd, lle bynnag y bo'n ymarferol, a dull lleoliad cyfan i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY.

► System ddwyieithog lle mae pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i ddarparu DDdY yn y Gymraeg lle gofynnir am hynny.

Nod Deddf ALNET 2018 yw creu:

► Fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi pob plentyn o oedran ysgol gorfodol neu iau ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac i gefnogi pobl ifanc ag ADY sydd mewn ysgol neu Addysg Bellach (AB).
► Proses integredig, gydweithredol o asesu, cynllunio a monitro amlasiantaethol sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol.
► System deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor, ac i ddatrys pryderon ac apeliadau.

Bydd y system wedi'i thrawsnewid yn:

► Sicrhau bod pob dysgwr ag ADY yn cael ei gefnogi i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chyflawni ei lawn botensial;
► Gwella'r gwaith o gynllunio a chyflwyno cymorth i ddysgwyr ag ADY rhwng 0 a 25 oed, gan roi anghenion, barn, dymuniadau a theimladau dysgwyr wrth wraidd y broses;
► Canolbwyntio ar bwysigrwydd adnabod anghenion yn gynnar a rhoi ymyriadau amserol ac effeithiol ar waith sy'n cael eu monitro a'u haddasu i sicrhau eu bod yn cyflenwi'r canlyniadau dymunol.

Dylid nodi hefyd:

Nid oes gan berson anhawster dysgu neu anabledd dim ond oherwydd bod yr iaith (neu'r ffurf ar iaith) y mae'n cael ei addysgu ynddi neu y bydd yn cael ei addysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) a ddefnyddir, neu a ddefnyddiwyd, gartref.

Fodd bynnag, cydnabyddir y gall rhai dysgwyr anabl ag ADY fod yn amlieithog ac efallai bod ganddynt hefyd angen Saesneg/Cymraeg fel iaith ychwanegol (SlY/CIY). Gall hyn fod â goblygiadau o ran nodi anawsterau dysgu yn ogystal â strategaethau perthnasol ar gyfer addysgu a dysgu ac ystyriaethau ehangach o ran cyfathrebu â rhieni/gofalwyr a dysgwyr.

 

Adran 3: Cyd-destun Abertawe

Mae gan Abertawe ystod eang o ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY ac anableddau. Mae'r awdurdod lleol yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion i sicrhau bod y ddarpariaeth yn berthnasol ac yn ymatebol i anghenion. Bydd anghenion y mwyafrif o blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu mewn ysgolion prif ffrwd. I'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol, gall darpariaeth arbenigol prif ffrwd helpu.

Cyfleusterau Addysgu Arbenigol (CAA)/Ysgolion Arbennig

Mae gan nifer o ysgolion prif ffrwd gyfleusterau, adnoddau a staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddarparu ar gyfer anghenion plant ag anawsterau dysgu penodol. Mae CAA fel arfer yn faes o fewn ysgol lle mae nifer fach o ddysgwyr ag anghenion uchel neu arwyddocaol yn cael eu haddysgu ar wahân. Mae'r rhan fwyaf o CAA yn rhoi cyfle i ddysgwyr fynychu rhai dosbarthiadau prif ffrwd, gyda chymorth priodol.

Mae gan Abertawe 34 CAA ar draws y cyfnodau cynradd ac uwchradd sy'n cwmpasu ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Mae dwy ysgol arbennig, un ar gyfer dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog a'r llall ar gyfer dysgwyr ag anawsterau dysgu cymedrol i ddifrifol a disgyblion ag awtistiaeth ddifrifol.

Ar adeg drafftio'r strategaeth hon, mae Cyngor Abertawe'n cynnal adolygiad cynhwysfawr ac yn ailosod cyfleusterau addysgu arbenigol i sicrhau mynediad i ddysgwyr yn eu cymunedau eu hunain lle bynnag y bo modd. Yn ogystal, mae'r Cyngor yn ymgynghori ar gynnig i gyfuno'r ddwy ysgol arbennig ar 1 Medi 2025 ar y safleoedd presennol. Yna adleolir i'r ysgol bwrpasol newydd ar 1 Ebrill 2028 - bydd hyn hefyd yn rhoi 100 yn ychwanegol o leoedd cynlluniedig.

Timau arbenigol

Mae gan y Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol nifer o dimau o weithwyr proffesiynol sydd naill ai'n gweithio gyda dysgwyr anabl neu'n cynghori ac yn arwain ysgolion, neu'r ddau:

  • Tîm Cefnogi Ymddygiad
  • Tîm Anghenion Corfforol a Chymhleth
  • Tîm Anghenion Synhwyraidd
  • Tîm Anawsterau Dysgu Cymhleth
  • Tîm Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
  • Tîm Seicoleg Addysg

Data ar ddysgwyr anabl

Nid yw'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn casglu data ar ddysgwyr anabl fel y cyfryw; fodd bynnag, mae data ar anghenion ADY ar gael.

Nododd PLASC 2023 y canlynol
AngenCyfanswm
Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd300
Anhwylderau Sbectrwm Awtistig1202
Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol1883
Dyscalcwlia11
Dyslecsia335
Dyspracsia45
Nam ar y clyw140
Anawsterau Dysgu Cymedol2125
Nam Aml-Synhwyraidd28
Anawsterau Corfforol a Meddygol395
Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog82
Anawsterau Dysgu Difrifol157
Anawsterau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu2215
Nam ar y Golwg80
Cyfanswm8998

Mae Atodiad 1yn cynnwys data cenedlaethol ar anabledd. Yn 2021/2022, cofnodwyd bod tua 11% o blant yn anabl ac mae'r ffigwr hwn bron wedi dyblu dros ddegawd. Mae hanner y plant anabl yn adrodd am nam cymdeithasol neu ymddygiadol.

Hygyrchedd ysgolion

Mae llawer o'r 93 o adeiladau ysgol yn Abertawe yn rhagflaenu'r gofyniad i fod yn hygyrch. Mae rhaglen gynlluniedig ar gyfer adeiladau newydd ac ailfodelu o fewn y degawd diwethaf wedi sicrhau bod rhai ysgolion naill ai'n gwbl hygyrch neu mai cyfyngedig yn unig yw eu problemau mynediad, lle na chafodd rhannau o adeiladau eu hailfodelu. Mae 11 ysgol gynradd a 6 ysgol uwchradd yn disgyn i'r categori hwn.

O ran yr ysgolion sy'n weddill, mae'r wybodaeth sydd gan yr awdurdod lleol ar hyn o bryd yn dangos bod 35 o ysgolion eraill yn rhannol hygyrch a bod gan y gweddill fwy o broblemau mynediad.

 

Adran 4: Strategaeth Hygyrchedd Abertawe

Sefydlwyd grŵp craidd o swyddogion addysg i gynllunio a datblygu'r strategaeth ddrafft a hysbyswyd i raddau helaeth gan ganlyniad ymarfer cwmpasu cychwynnol. Diben yr ymarfer cwmpasu oedd nodi barn, materion a rhwystrau gan amrywiaeth o randdeiliaid allweddol er mwyn nodi meysydd i'w gwella. Mae barn dysgwyr anabl a rhieni sy'n ofalwyr wedi bod yn ganolog i lunio'r strategaeth hon.

Casglwyd gwybodaeth oddi wrth:

  • ysgolion drwy gyflwyno eu cynllun hygyrchedd cyfredol neu gwblhau holiadur;
  • dysgwyr anabl trwy lenwi holiadur Word neu Microsoft Forms naill ai'n annibynnol neu gyda chymorth, ee. gan Gydlynydd ADY;
  • rhieni dysgwyr anabl trwy'r fforwm Rhieni sy'n Ofalwyr trwy grŵp ffocws bach a chwblhau holiadur Word neu Microsoft Forms;
  • swyddogion addysg drwy lenwi holiadur Word neu Microsoft Forms a thrwy drafodaeth fwy anffurfiol. 

 

Ymatebwyr
Ysgolion43 o ymatebwyr: cyflwynodd 25 gynlluniau hygyrchedd, 18 yn cwblhau holiadur
Dysgwyr63 o ymatebwyr
Rheini / gofalwyr28 o ymatebwyr, a grŵp ffocws gydag arweinwyr y fforwm rhieni / gofalwyr
Swyddogion awdurdod lleolSwyddogion Addysg - grŵp cynllunio strategaeth
Swyddogion yn y Tîm Cymorth Dysgu

Amlinellir canfyddiadau sy'n gysylltiedig yn benodol â'r tair dyletswydd gynllunio yn yr adrannau perthnasol isod. Fodd bynnag, nodwyd rhai materion cyffredinol hefyd, yn ymwneud yn bennaf â chydymffurfiaeth, gan gynnwys sut mae barn rhanddeiliaid perthnasol yn llywio penderfyniadau. Dylid nodi, bod yr ymatebion a'r crynodebau sy'n dilyn yn faterion/meysydd y mae angen eu gwella er mwyn llywio blaenoriaethau ar gyfer y Strategaeth. Mae Cyfarwyddiaeth Addysg yr awdurdod lleol yn cydnabod bod ysgolion wedi bod yn datblygu Cynlluniau Hygyrchedd yn absenoldeb y canllawiau diweddaraf ac y bydd enghreifftiau o arfer da mewn ysgolion yr ydym yn anelu at eu casglu wrth i'r gwaith ar y Strategaeth fynd rhagddo.

Cydymffurfiaeth

Mae angen datblygu cynlluniau hygyrchedd ysgolion yn unol â'r canllawiau statudol Cynllunio i gynyddu mynediad i ysgolion ar gyfer disgyblion anabl 2018

Beth ddywedodd ein hymarfer cwmpasu wrthym?

Roedd yr ymatebion gan yrysgolion yn nodi bod angen cefnogaeth/arweiniad ar ysgolion yn y meysydd canlynol:

  • dealltwriaeth o'r cefndir deddfwriaethol ar gyfer cynhyrchu cynlluniau hygyrchedd, ee. Yr angen i gyfeirio at y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn hytrach na'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn hytrach na Deddf Cydraddoldeb 2010 a sicrhau cyfeiriad at ddogfen ganllawiau 'Cynllunio i gynyddu mynediad i ysgolion ar gyfer disgyblion anabl 2018';
  • rhai ysgolion yn cynnwys eu cynlluniau hygyrchedd fel rhan o'u Polisi Cydraddoldeb/ Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol (CCS), a gaiff ei ganiatáu - fodd bynnag, nid oedd y Polisi/ Cynlluniau Cydraddoldeb yn gyffredinol yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chynhyrchu CCSau. Yn ogystal, mae'n rhaid adolygu CCSau bob pedair blynedd tra bod rhaid adolygu cynlluniau hygyrchedd bob tair blynedd;
  • dealltwriaeth o'r ehangder o anableddau a gwmpesir o dan y diffiniad. Roedd tuedd mewn archwiliadau, cynlluniau a'r holiaduron i ganolbwyntio ar anableddau 'gweladwy' corfforol yn hytrach nag anableddau cudd, ee. namau synhwyraidd neu iechyd meddwl;
  • sicrhau wrth 'wrando ar farn' bod ffocws penodol ar anabledd a hygyrchedd;
  • cymryd rhan gan ac ymgynghori gyda rhanddeiliaid allweddol fel rhan o ddatblygu cynlluniau hygyrchedd a nodi blaenoriaethau;
  • datblygu cynlluniau penodol ar gyfer cyd-destun ysgolion/lleoliadau unigol
  • gwella fformat a chynnwys y cynlluniau hygyrchedd, ee
    • cwblhau archwiliadau a datblygu cynllun cyfatebol
    • cynlluniau yn mynd i'r afael â phob un o'r tair dyletswydd gynllunio e.e. yn hytrach na hygyrchedd corfforol yn unig
    • cynnwys amcanion tymor byr, canolig a hir a costau cysylltiedig lle bo'n berthnasol
    • sicrhau cynllunio rhagweithiol, hirdymor sy'n ystyried anghenion dysgwyr anabl presennol yn ogystal â dysgwyr anabl posibl y dyfodol
    • ffocysu yn benodol ar ddysgwyr anabl yn hytrach na'r rhai sydd gyda ADY a/neu SIY
    • cyhoeddi cynlluniau hygyrchedd ar wefannau ysgolion.

Roedd yr ymatebion gan y dysgwyryn nodi:

  • profiadau amrywiol, yn gysylltiedig i ryw raddau â natur eu hanabledd;
  • er mai dim ond mewn nifer fach o ymatebion, roedd enghreifftiau lle nad oedd addasiadau rhesymol o bosibl wedi cael eu gwneud, ni allaf fynd ar daith breswyl.... Gartref, mae gen i gamera yn fy ystafell felly mae fy rhieni'n gwybod pan fydda i angen rhywbeth fel y toiled, ac yn y nos dwi angen pethau penodol ac roedd rhaid i ni aros dros nos.(A ellid bod wedi gwneud addasiad rhesymol fel y gallai'r dysgwr fynychu ar sail ddyddiol?)
  • gwahaniaethu gan ddysgwyr eraill, Myfyrwyr ysgol yn defnyddio slyrs y diwylliant sy'n ffafrio pobl abl (ableist), naill ai heb sylweddoli eu bod yn ymddwyn felly, neu eu bod yn gwbl ymwybodol eu bod yn defnyddio slyrs 'ableist' ac yn ei weld yn ddoniol;
  • llai o ddealltwriaeth o'r rhwystrau a'r problemau a brofir gan ddysgwyr anabl ag anableddau mwy cudd megis anghenion cymdeithasol ac emosiynol yn hytrach na'r rhai ag anableddau corfforol gweladwy;
  • roedd rhai dysgwyr eisiau i gyfoedion ddeall eu hanghenion, ond roedd eraill eisiau peidio â chael eu neilltuo ac eisiau ffitio i mewn;
  • casglwyd a gwrandawyd ar eu barn, ond roedd hyn i'w weld yn gyffredinol yn hytrach nag o ran eu hanableddau.

 

Roedd yr ymatebion gan y rhieni/gofalwyr yn nodi:

  • profiadau amrywiol, roedd rhai enghreifftiau o arfer dda/profiadau cadarnhaol'mae ysgolion wedi bod yn anhygoel'. Mae'r ysgol wedi bod yn rhagweithiol iawn yn awgrymu cefnogaeth neu roi pethau ar waith pan wyf wedi gofyn am help. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd yn eithaf da. Fodd bynnag, yn gyffredinol, roedd ymatebwyr yn adrodd am brofiadau mwy negyddol.Teimlaf fod fy mab wedi cael ei adael i lawr gan ei ysgol. Cafodd fy mhlentyn ei orfodi i adael yr ysgol oherwydd diffyg dealltwriaeth
  • pryderon ynghylch agweddau negyddol a diffyg cynwysoldeb. Un o'r anawsterau mwyaf yw cynhwysiant. Mae ysgolion yn amddiffynnol yn hytrach na chwilfrydig. Mae hygyrchedd yn dechrau gydag agwedd, gyda hygyrchedd gwirioneddol yn ail. 'Dealltwriaeth hen ffasiwn', 'beirniadol' 'nawddoglyd'.
  • ysgolion yn 'fodel meddygol iawn' gyda diffyg dealltwriaeth o'r model cymdeithasol o anabledd gyda 'phobl dda, frwdfrydig yn gwneud penderfyniadau gwael'
  • yr angen am well dealltwriaeth o'r hyn y mae anabledd yn ei olygu a'r 'ymbarél eang' y mae'n ei gwmpasu yn ogystal â phryderon ynghylch iaith, 'nid yw llawer o athrawon a rhieni sy'n ofalwyr yn hoffi defnyddio'r gair anabl oni bai bod problemau corfforol, oherwydd cynodiadau negyddol'
  • mae gwahaniaeth yn normal. Fodd bynnag, mae'r 'system gyfan yn ymwneud â chydymffurfio â'r norm'. Os byddai ysgolion yn bodloni anghenion y 'lleiafrif' yna byddent yn 'cwrdd ag anghenion pawb'.
  • penderfyniadau lleoliadau awdurdod lleol mewn gwirionedd yn arwain at 'ddadleoli' o gymunedau lleol sy'n effeithio ar allu dysgwyr i ffurfio cyfeillgarwch ac i gymdeithasu y tu allan i ysgolion. Mae effaith ganlyniadol hefyd ar rieni, sy'n teimlo'n 'unig iawn' ac yn 'ynysig iawn'.
  • ysgolion ddim yn ystyried barn rhieni/gwarcheidiaid a barn eu plant. Maent yn gyndyn i wrando ar unrhyw farn sy'n gwrth-ddweud eu barn nhw. Maent yn cyfeirio'n gyson atom fel rhieni yn unig a nhw eu hunain fel gweithwyr proffesiynol pan mewn gwirionedd mae gennym lawer mwy o arbenigedd yn anghenion ein plentyn ein hunain.
  • Rwy'n teimlo bod rhaid i chi fod yn ofalus beth rydych yn ei ddweud, ac mae angen i chi gadw'r ysgol yn gyfredol â bob dim, oherwydd nid ydych eisiau achosi trafferthion.
  • Nid yw ysgol fy mab erioed wedi dangos unrhyw ddiddordeb yn ei farn ef na'n barn ni.
  • Mae'r ysgol yn dda iawn am wrando ar ein syniadau, fodd bynnag nid yw pob un o'r rhain wedi cael eu dilyn i fyny.
  • goblygiadau ariannol i rieni sy'n ofalwyr y mae gan eu plant anghenion sylweddol gan y gall hyn arwain at rieni yn gorfod rhoi'r gorau i yrfaoedd a gwaith. Gall hyn achosi 'straen mawr'
  • 'gwahanu' o fewn ysgolion. Mae hyn a hyn ar gyfer normal, a hyn a hyn ar gyfer yr anabl.
  • materion ynghylch enwau mannau tawel a phwy gaiff fynediad/na chaiff fynediad i'r rhain.
  • yr angen am well cynrychiolaeth o unigolion anabl ar gyrff llywodraethu.
  • cydnabod heriau ariannu a'r angen i daro'r cydbwysedd rhwng gwelliannau a chyfyngiadau ariannol.

 

Roedd yr ymatebion gan y swyddogion addysg yn nodi:

  • ysgolion yn gallu bod yn adweithiol yn hytrach na rhagweithiol wrth gynllunio gwelliannau hygyrchedd;
  • ymateb cymysg pan ofynnwyd a oedd pobl yn gwrando ar farn dysgwyr anabl 'mae llawer o ddisgyblion rwy'n eu haddysgu yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt';
  • nid yw'r rhai sy'n cefnogi dysgwyr anabl yn uniongyrchol ac yn cynghori ysgolion yn ymwybodol o gynlluniau hygyrchedd ysgolion unigol, sy'n awgrymu nad ymgynghorwyd â nhw.

 

Blaenoriaethau ar gyfer gwella:

  • Cynhyrchu canllawiau cynhwysfawr i ysgolion ar ddatblygu cynlluniau hygyrchedd sy'n: cadarnhau'r diffiniad o anabledd; yn amlinellu'n glir y cyfrifoldebau statudol; yn rhoi hawliau plant yn ganolog ac yn sicrhau bod gwelliannau'n seiliedig ar farn y rhai sydd â phrofiad o fyw.
  • Adolygu a gwella'r wybodaeth a'r hyfforddiant sydd ar gael i lywodraethwyr, penaethiaid/uwch arweinwyr, rheolwyr adeiladau a Chydlynwyr ADY mewn perthynas â'r uchod.
  • Ceisio gwella agweddau tuag at anabledd trwy hyrwyddo ymagwedd seiliedig ar asedau, sydd hefyd yn mynd i'r afael â gwahaniaethu a micro-ymosodedd diwylliant sy'n ffafrio pobl abl.
  • Ehangu cwmpas y ffrwd waith 'arallgyfeirio cyrff llywodraethu' i gynnwys cynyddu nifer y llywodraethwyr sy'n nodi eu bod yn anabl.
  • Parhau i hwyluso cyfranogiad effeithiol ac ystyrlon gan ddysgwyr anabl a'u rhiant-ofalwyr wrth lunio gwelliannau hygyrchedd.

Y tair dyletswydd gynllunio

Mae'r adrannau a ganlyn yn amlinellu'r tair dyletswydd gynllunio, yn nodi cyfrifoldebau cyffredinol yr awdurdod lleol ac ysgolion yn ogystal ag amlinellu'r canlyniadau a'r blaenoriaethau a nodwyd o'r ymarfer cwmpasu.

Y tair dyletswydd gynllunio yw:

  • cynyddu'r graddau y gall disgyblion anabl gymryd rhan yng nghwricwlwm yr ysgol;
  • gwella amgylchedd ffisegol ysgolion; a
  • gwella'r modd y cyflwynir gwybodaeth ysgrifenedig i ddisgyblion anabl

Dyletswydd Gynllunio 1
Cynyddu'r graddau y gall disgyblion anabl gymryd rhan yng nghwricwlwm yr ysgol

Mae gan ddysgwyr anabl union yr un hawliau cwricwlwm â'u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Dylai ymyrraeth gynnar ac atal alluogi mwy o blant i gael diwallu eu hanghenion mewn ffordd fwy cynhwysol trwy wasanaethau cyffredinol. Nid yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio'r hyn a olygir gan y cwricwlwm. Fodd bynnag, dylid ei gydnabod fel yr holl brofiadau a gynllunnir ar gyfer plant a phobl ifanc trwy eu haddysg, lle bynnag y cânt eu haddysgu. Mae'r cyfanrwydd hwn yn cynnwys ethos a bywyd yr ysgol fel cymuned, meysydd cwricwlwm a phynciau, dysgu rhyngddisgyblaethol a chyfleoedd i gyflawni. Noda'r. Cwricwlwm i Gymru bod cwricwlwm ysgol yn bopeth y mae dysgwr yn ei brofi er mwyn cyflawni'r pedwar diben:

  • dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu hoes;
  • cyfranwyr mentrus, creadigol, sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a'r byd; ac
  • unigolion iach, hyderus, sy'n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Dylai cwricwlwm ysgol godi dyheadau pob dysgwr. Dylai ystyried sut y caiff pob dysgwr ei gefnogi i wireddu'r pedwar diben ac i wneud cynnydd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr chwarae rhan weithredol yn eu cymuned a'r gymdeithas ehangach, a ffynnu mewn byd cynyddol gymhleth. Dylai ysgolion fod yn ymwybodol o anghenion ac amgylchiadau eu holl ddysgwyr wrth ddylunio eu cwricwlwm eu hunain, ystyried cyfle cyfartal wrth roi cymorth ac ymyriadau ar waith, neu wneud addasiadau rhesymol. Cwricwlwm i Gymru.

Wrth ystyried sut y gellir gwella mynediad dysgwyr anabl i'r cwricwlwm, ni ddylid canolbwyntio ar feysydd dysgu a phrofiad penodol neu bynciau unigol ond rhaid ystyried pob agwedd ar y cwricwlwm, gan gynnwys gofal a gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol. Dylai cynllunio gynnwys mentrau i oresgyn unrhyw rwystrau sy'n atal, neu'n ei gwneud yn anodd, i blant ac oedolion ifanc anabl gymryd rhan lawn mewn teithiau ysgol a gweithgareddau fel chwarae ysgol, clybiau ar ôl ysgol a chlybiau cymorth astudio.

Mae'r ddyletswydd gynllunio hon hefyd yn cynnwys darparu cymhorthion, offer arbenigol a thechnoleg gynorthwyol. Yn ogystal, mae'n cynnwys nodi a diwallu anghenion hyfforddi staff.

Beth ddywedodd ein hymarfer cwmpasu wrthym?

  • Ysgolion oedd yr ymatebwyr mwyaf cadarnhaol pan ofynnwyd iddynt am fynediad i'r cwricwlwm a gweithgareddau, tra bod mwy o rieni sy'n ofalwyr yn teimlo na allai eu plentyn gael mynediad i'r cwricwlwm a'r gweithgareddau llawn.
  • Lle'r oedd ysgolion yn nodi problemau, roedd yn aml yn cael ei gyfuno â hygyrchedd ffisegol gwahanol rannau o adeilad yr ysgol.
  • Nid oedd yr holl ddysgwyr yn yr ysgol uwchradd yn dilyn eu holl bynciau yn y brif ffrwd ond mewn darpariaeth arbenigol, neu nid oeddent yn gallu cymryd pob pwnc.
  • Y prif faes pwnc lle mynegwyd pryderon gan rieni, gwarcheidiaid a dysgwyr oedd hygyrchedd Addysg Gorfforol. Ni fydd yr ysgol yn gadael iddo wneud rhai chwaraeon a allai fod yn 'beryglus', ee. mewn rygbi, gallai syrthio neu gael ei wthio ar y llawr. Rwy'n teimlo y gallaf gymryd rhan ym mhob gwers a gweithgaredd yn yr ysgol ar wahân i Addysg Gorfforol. Yn enwedig wrth chwarae gemau pêl, gan fy mod yn cael trafferth gweld y bêl oherwydd ei maint a'i lliw.
  • Codwyd nifer o faterion ynghylch mynediad i ddarpariaeth cyn ac ar ôl ysgol, cyfnodau preswyl, tripiau, gweithgareddau ar ôl ysgol:
    • mae gan glybiau ar ôl ysgol a chlybiau brecwast 'ddarpariaeth sero ar gyfer anghenion ychwanegol' (rhiant)
    • Methu ymuno â theithiau. Ni fydd yr ysgol yn newid y daith i'w gynnwys.
    • gofyn i rieni i fynd gyda'u plant ar daith ysgol, a oedd yn cael ei weld fel ateb. Rydym wedi mynychu'r rhan fwyaf o'r teithiau ysgol ond fel arfer mae'n rhaid i mi ddarparu cymorth ychwanegol neu fynd gyda nhw.
    • teithiau ysgol nad oedd yn addas ar gyfer dysgwr ag anableddau corfforol.
    • mae cael eu cludo i'r ysgol ac oddi yno mewn tacsi hefyd yn atal dysgwyr rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a chlybiau ar ôl ysgol.
  • Cafwyd ymatebion cymysg i'r ddarpariaeth o offer arbenigol a thechnoleg gynorthwyol ar gyfer mynediad i'r cwricwlwm lle'r oedd angen hynny. Teimlai rhai rhieni nad oedd eu plant yn cael eu darparu nac yn cael defnyddio offer perthnasol. Roedd rhai ysgolion yn ansicr a oedd gan bob dysgwr anabl fynediad at yr offer sydd ei angen arnynt. Roedd rhai rhieni wedi darparu offer eu hunain.
  • Problemau gydag argaeledd cefnogaeth un-i-un lle bo angen.
  • Roedd rhieni sy'n ofalwyr yn cydnabod yr her wrth recriwtio cynorthwywyr addysgu.
  • Dywedwyd bod angen gwella disgwyliadau Estyn o ran yr hyn sy'n cael ei weld fel arfer da, neu fel arall mae arfer aneffeithiol yn parhau.
  • Heblaw am swyddogion addysg, a nododd fod mwyafrif y staff yn ymroddedig i sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael mynediad i ysgolion ac yn ymgysylltiedig, roedd yr ymateb mwyaf negyddol o bell ffordd ar draws pob grŵp o ymatebwyr yn ymwneud â p'un yw athrawon a chynorthwywyr addysgu yn gwybod sut i gefnogi mynediad i'r cwricwlwm i ddysgwyr anabl/wedi'u hyfforddi'n ddigonol. Roedd amrywiaeth o sylwadau a oedd yn nodi bod angen gwelliant sylweddol:
    • ADY ddim yn ffocws ysgol gyfan
    • Athrawon/cynorthwywyr addysgu heb fynediad i hyfforddiant cyn dechrau gweithio gyda dysgwyr
    • Anawsterau gan ysgolion o ran rhyddhau staff ar gyfer hyfforddiant
    • Diffyg hyfforddiant i athrawon newydd
    • Yr angen i gynnwys rhieni/gofalwyr â phrofiadau bywyd neu sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl anabl mewn hyfforddiant
    • Staff ddim yn deall anghenion y dysgwyr
    • Ysgolion ddim yn gwbl siwr o ba hyfforddiant sydd ar gael nac yn nodi bod angen i hyfforddiant fod yn ehangach o ran ei gwmpas
    • Mwy o angen am hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ymhlith staff prif ffrwd a'r angen i dargedu hyfforddiant yn ehangach na Chydlynwyr ADY a chynorthwywyr addysgu sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda dysgwyr anabl. Yr holl staff addysgu i gael eu hyfforddi mewn ymwybyddiaeth o awtistiaeth

Cyfrifoldebau cyffredinol

Bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gefnogi ysgolion drwy:

  • Ddarparu dewislen gynhwysfawr o ddysgu proffesiynol i ysgolion.
  • Mynediad at yr ystod lawn o wasanaethau arbenigol a all ddarparu cyngor ac ymgynghori, gan gynnwys drwy'r timau a restrir ar Adran 3
  • Hwyluso adnabod a rhannu arfer effeithiol.

Bydd ysgolion yn:

  • Nodi'r holl ddysgwyr a darpar-ddysgwyr anabl hysbys sy'n wynebu rhwystrau i ddysgu a chyfranogiad llawn yn y cwricwlwm a datblygu a gweithredu rhaglenni a strategaethau addysgu hygyrch yn seiliedig ar gyngor arbenigol lle bo'n berthnasol.
  • Ystyried anghenion asesedig dysgwyr a gweithredu unrhyw addasiadau rhesymol a all fod yn angenrheidiol i alluogi cyfranogiad.
  • Sicrhau bod dysgwyr anabl yn cael y cymhorthion angenrheidiol a thechnoleg gynorthwyol yn ôl yr angen. Disgwylir i ysgolion ariannu unrhyw offer hyd at gost o £250 y dysgwr.
  • Parhau i ddatblygu a gwreiddio dulliau o wahaniaethu'r cwricwlwm i alluogi mwy o fynediad i ddysgwyr anabl.
  • Monitro a gwerthuso cyfranogiad a chynnydd yn y cwricwlwm ar gyfer dysgwyr anabl a nodi unrhyw welliannau angenrheidiol.
  • Archwilio anghenion hyfforddi staff, gan gynnwys staff sydd newydd gymhwyso neu staff sydd newydd eu penodi, mewn perthynas â chynyddu cyfranogiad yn y cwricwlwm i ddysgwyr anabl a nodi a gweithredu cynlluniau i fodloni'r rhain.
  • Archwilio anghenion dysgwyr a darpar-ddysgwyr mewn perthynas â darpariaeth ehangach yr ysgol, gan gynnwys clybiau brecwast/ar ôl ysgol; gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliannol; a theithiau ysgol a chyfnodau preswyl a datblygu cynlluniau i fynd i'r afael â rhwystrau a sicrhau cyfranogiad.
  • Ystyried lleoli ystafelloedd dosbarth sy'n ymroddedig i feysydd cwricwlaidd penodol megis cerddoriaeth, gwyddoniaeth, celf mewn ardaloedd o'r ysgol sy'n gwbl hygyrch, ee. ar y llawr gwaelod.

Blaenoriaethau ar gyfer gwella:

  • Adolygu ac ehangu ymhellach y cynnig dysgu proffesiynol i sicrhau ei fod yn bodloni cwmpas eang yr anghenion hyfforddi ar gyfer pob grŵp o staff
  • Datblygu canllawiau i ysgolion ar addasiadau rhesymol ar gyfer teithiau a phreswyl
  • Datblygu canllawiau, gan gynnwys enghreifftiau o arfer da, ar gyfer AG/chwaraeon cynhwysol
  • Gwella'r wybodaeth a'r defnydd o dechnoleg gynorthwyol trwy weithredu'r Strategaeth Ddigidol.

Dyletswydd Gynllunio 2
Gwella Amgylchedd Ffisegol Ysgolion i Ddysgwyr Anabl

Mae'r ddyletswydd gynllunio yn cynnwys gwelliannau, a sut y gwneir y rhain dros amser i amgylchedd ffisegol yr ysgol a darparu cymhorthion corfforol i gael mynediad at addysg. Mae angen i welliannau ystyried: mynediad corfforol; mynediad i ddysgwyr â nam ar eu golwg; mynediad i ddysgwyr â nam ar eu clyw a mynediad i ddysgwyr â namau eraill gan gynnwys namau synhwyraidd. Mae'r ddyletswydd gynllunio hefyd yn cynnwys mynediad i gludiant ysgol.

Mae cymhorthion ffisegol i gael mynediad at addysg yn cynnwys cymhorthion neu addasiadau a ddarperir o dan y ddyletswydd gynllunio sy'n ymwneud â phoblogaeth dysgwyr yr ysgol (a'r boblogaeth honno yn y dyfodol) yn hytrach na chymhorthion unigol/ technoleg gynorthwyol a ddarperir ar sail unigol.

Mae'r amgylchedd ffisegol yn cynnwys:

  • dosbarthiadau
  • neuaddau/mannau cymunedol
  • coridorau
  • stepiau
  • grisiau
  • cyrbau
  • arwynebau allanol a phalmentydd
  • meysydd parcio
  • adeiladau mynedfeydd ac allanfeydd (gan gynnwys llwybrau dianc brys)
  • drysau mewnol ac allanol
  • giatiau
  • toiledau a chyfleusterau ymolchi
  • goleuo
  • gwresogi
  • awyru
  • lifftiau
  • gorchuddion llawr
  • arwyddion
  • arwynebau mewnol
  • addurniadau ystafell/coridor a dodrefn

Mae gwelliannau ar gyfer mynediad ffisegol yn cynnwys:

  • rampiau
  • gosod lifftiau gan gynnwys gwaith adeiladu
  • creu toiledau hygyrch/mannau newid/ystafelloedd hylendid
  • gosod/newid drysau i fodloni gofynion defnyddwyr nad ydynt yn gallu cerdded
  • agorwyr drysau awtomataidd a dyfeisiau dal drysau'n agored yn electronig
  • gosod canllawiau cydio a chanllawiau eraill y tu hwnt i anghenion defnyddwyr eraill yr adeilad
  • cyrbau isel
  • gwaith gwella acwstig fel nenfydau ffug a byrddau wal
  • gosod offer sefydlog, ee. teclyn codi ar draciau, gwely y gellir addasu ei uchder, toiled golchi-sychu
  • darparu systemau maes sain
  • darparu ffensys diogel i greu amgylchedd diogel i atal rhag dianc, ar sail eithriadol dim ond lle mae angen penodol y tu hwnt i'r hyn fyddai ei angen fel arfer i'r ysgol gydymffurfio â'i dyletswyddau diogelu.
  • atgyweirio a chynnal a chadw (ee. drysau, arwynebau lloriau ac ati)
  • gosod paneli gwylio ar wahanol uchderau i ddrysau i wella gwelededd
  • amnewid dodrefn drws neu ychwanegu dolenni uchel
  • addasiadau i fatiau mynedfa/peryglon baglu/manylion drws cyfwyneb
  • cael gwared ar beryglon baglu ar lwybrau cylchrediad allanol, megis palmantau anwastad, tyllau yn y ffyrdd a gwreiddiau coed
  • ailosod marciau llinell maes parcio ar gyfer mannau parcio i'r anabl
  • dolen sain sylfaenol ar gyfer derbynfa
  • gosod cyswllt sain/cloch alwad o'r brif fynedfa i'r dderbynfa
  • arwyddion rhybudd gweledol a chyffyrddol ar gyfer gwahanol ofynion - gan gynnwys arwyddion Braille lle bo angen, lleoliad y dangosyddion gweledol
  • ailaddurno gorffeniadau waliau/nenfwd gyda chynlluniau lliw gwahaniaethol
  • gwell arwyddion ar draws y safle a'r adeiladau
  • defnydd o oleuadau priodol, bleindiau, byrddau gwyn gyda gorffeniad di-sglein

Pan fydd unrhyw welliannau yn cael eu gwneud, rhagwelir y cymerir gofal i sicrhau cyfatebiaeth ofalus rhwng swyddogaeth/diben yr ardal a'i chynllun ffisegol.

Beth ddywedodd ein hymarfer cwmpas wrthym?

  • Roedd y dysgwyr a ymatebodd yn gyffredinol yn teimlo eu bod yn gallu symud o gwmpas yr ysgol.
  • Roedd mwy o adolygiadau cymysg gan rieni/gofalwyr. Fodd bynnag, roedd peth o'r anallu i symud o gwmpas yr ysgol yn gysylltiedig â 'diogelwch' yr unigolyn i wneud hynny yn hytrach nag amgylchedd ffisegol yr ysgol fel y cyfryw.
  • Cafwyd enghreifftiau o sefyllfaoedd y gellid eu datrys yn hawdd - 'drysau coridor ar gau a stwff yn y coridorau'. 'Coridorau yn cael eu rhwystro gan fyrddau, diffyg pwyntiau mynediad'.
  • Yr ardal o'r ysgol y cyfeiriwyd ati'n benodol oedd y neuadd/ffreutur oherwydd ei bod yn orlawn neu'n swnllyd yn enwedig ar gyfer rhai â nam ar y synhwyrau.
  • Roedd hygyrchedd ffisegol weithiau'n cael ei gyfuno ag archwiliadau iechyd a diogelwch gan ysgolion ac nid oedd yn ystyried mynediad i ddysgwyr anabl yn unig.
  • Roedd hygyrchedd ffisegol ysgolion yn gysylltiedig yn gyffredinol â p'un a oedd yr ysgol yn adeilad newydd/wedi'i ailfodelu, ac ati. Mae rhai adeiladau ysgol yn sylweddol fwy anhygyrch yn y lle cyntaf, felly mae angen llawer mwy o waith arnynt.
  • Lle mae ailfodelu wedi digwydd, mae problemau o hyd y gellid bod wedi'u hosgoi gyda mewnbwn y rhai sydd â phrofiad bywyd.
  • Mae problemau mynediad yn yr ysgolion arbennig.
  • Mae problemau y tu allan i ysgolion oherwydd diffyg cyrbau isel (rhiant ofalwr) ac ar gyfer ysgolion lle nad oes mannau parcio ar y safle sy'n golygu na allant ddynodi mannau parcio i'r anabl (ysgolion).
  • Cafwyd ymatebion cymysg i fynediad i gludiant ysgol. Yn benodol, nododd ysgolion ddiffyg bysiau mini hygyrch.
  • Awgrymodd swyddogion addysg, unwaith y byddai dysgwyr anabl wedi gadael eu hysgol, fod offer i wella hygyrchedd yn aml yn aros yn yr ysgol ond ddim yn cael ei ddefnyddio. Mae angen rhannu neu ailgylchu offer yn well o amgylch ysgolion hyd yn oed os yw hyn yn gostus. Mae goblygiadau i storio offer o'r fath.
  • Nid yw'r system bresennol yn hwyluso gwir ddealltwriaeth o raddfa'r angen ar draws yr ystâd ysgolion ar lefel awdurdod lleol.
  • Mae lefelau cyllid yn broblem ac yn debygol o achosi risg i gyflenwi'r strategaeth hygyrchedd ac i gyflenwi cynlluniau hygyrchedd yn yr ysgol.

Cyfrifoldebau

Bydd yr Awdurdod Lleol yn:

  • adolygu ac asesu gwybodaeth a ddarperir trwy archwiliadau mynediad gan ysgolion i helpu i lywio'r cynllunio a'r blaenoriaethau;
  • hyrwyddo'r cysyniad o ddylunio cynhwysol a disgwyl y bydd cynllunio yn ystyried egwyddorion dylunio cynhwysol;
  • blaenoriaethu buddsoddiad mewn adeiladau ysgol yn unol â chwmpas ac amcanion y QEd - Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a'r datblygiad arfaethedig o ddarpariaeth ADY;
  • gwella hygyrchedd ffisegol pan ymgymerir ag ailfodelu ac adnewyddu adeiladau ysgol, a mynd i'r afael yn llawn â gofynion hygyrchedd ar gyfer pob adeilad newydd;
  • cynyddu'n raddol nifer yr ysgolion hygyrch gyda'r nod o gynnal plant a phobl ifanc, lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol, yn eu hysgolion lleol;
  • rhoi cyngor i lywodraethwyr, uwch arweinwyr a rheolwyr safle, ynghylch gwelliannau i amgylchedd ffisegol ysgolion yn ôl yr angen;
  • darparu cyngor i ysgolion fesul achos mewn perthynas â chynllunio ar gyfer gwelliannau i'r amgylchedd ffisegol i ddysgwyr unigol trwy gyfeirio at y Tîm Cymorth Dysgu.
  • ariannu pryniant cymhorthion/offer arbenigol dros £250 a argymhellwyd gan therapydd galwedigaethol neu ffisiotherapydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac a awdurdodwyd gan ALNIT.
  • ariannu gwelliannau hygyrchedd drwy'r rhaglen cynnal a chadw cyfalaf ar sail blaenoriaeth ac arian cyfatebol yn unol â'r Is-adran Cyfrifoldeb gydag ysgolion cynradd yn cyfrannu'r £5k cyntaf ac ysgolion uwchradd y £10k cyntaf
  • gwneud defnydd ystyriol o grantiau ADY achlysurol a lle bo'n briodol defnyddio hyn i gefnogi gwelliannau hygyrchedd mewn ysgolion.

 

Bydd ysgolion yn:

  • cymryd agwedd strategol a rhagweithiol at hygyrchedd ffisegol trwy gwblhau archwiliad mynediad i nodi'r holl welliannau sydd angen eu gwneud a cheisio blaenoriaethu'r rhain dros amser
  • cynnwys mân waith adeiladu neu ddatblygiadau i wella hygyrchedd, fel y nodwyd trwy'r awdit mynediad, yn y cynllun gwella ysgol yn flynyddol
  • trefnu unrhyw addasiadau ffisegol sydd eu hangen, a bod yn gyfrifol am gost yr addasiadau fel y nodir yn yr Is-adran Cyfrifoldeb gydag ysgolion cynradd yn cyfrannu'r £5k cyntaf ac ysgolion uwchradd y £10k cyntaf
  • darparu/gosod cymhorthion/offer arbenigol i gefnogi hygyrchedd ac ariannu hyn hyd at £1500
  • cynnal a gwasanaethu adeiladau ac offer;
  • ystyried, ar sail gynlluniedig, sut i wella hygyrchedd drwy ad-drefnu neu aildrefnu agweddau ar amgylchedd yr ysgol nad oes angen eu haddasu'n ffisegol neu wneud gwaith adeiladu drwy:
    • aildrefnu gofod yr ystafell,
    • cael gwared ar rwystrau o goridorau a rhodfeydd,
    • newid cynllun ystafelloedd dosbarth,
    • darparu lle storio dynodedig
    • adleoli ystafelloedd ar gyfer arbenigeddau pwnc penodol dros dro neu'n barhaol.

Meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella:

  • Datblygu offeryn archwilio hawdd ei ddefnyddio i bob ysgol ei ddefnyddio i gefnogi eu cynllunio rhagweithiol ar gyfer gwella'r amgylchedd ffisegol, gan gynnwys hygyrchedd ar ymyl y ffordd.
  • Gwella'r system ar gyfer nodi a blaenoriaethu gwelliannau hygyrchedd ar draws yr ystâd ysgolion sy'n defnyddio'r awdit mynediad fel sail ac sydd ag amserlenni penodol i gefnogi defnydd mwy strategol o grantiau cyfalaf llai.
  • Archwilio'r potensial ar gyfer gwella hygyrchedd ar ymyl y ffordd gyda'r Tîm Priffyrdd.
  • Adeiladu ysgol arbennig newydd gyda chyfleusterau arbenigol yr 21ain ganrif, gwell amgylcheddau dysgu a mwy o leoedd.
  • Ystyried ymgorffori storfa offer ganolog yn yr adeilad ysgol arbennig newydd sy'n cefnogi ail-ddefnyddio/ailgylchu offer yn fwy cost-effeithiol.

Dyletswydd Gynllunio 3
Gwella mynediad i wybodaeth ysgrifenedig a ddarperir gan yr ysgol i ddysgwyr anabl

Mae'r adran hon yn ymdrin â chynllunio i wneud gwybodaeth ysgrifenedig a ddarperir fel arfer gan yr ysgol i'w dysgwyr yn hygyrch i ddysgwyr anabl. Gall gwybodaeth gynnwys eitemau fel taflenni, amserlenni, gwerslyfrau neu wybodaeth am ddigwyddiadau ysgol. Gallai fformatau amgen ar gyfer darparu gwybodaeth gynnwys: print bras, tâp sain, Braille, system symbolau gydnabyddedig, y defnydd o TGCh a darparu gwybodaeth ar lafar, trwy siarad gwefusau, neu mewn iaith arwyddion. Rhaid darparu gwybodaeth o fewn amser rhesymol, ee. amserlen resymol ar gyfer darparu taflen sydd ei hangen yn ystod gwers fyddai ar ddechrau'r wers.

Yn ymarferol, rhagwelir y bydd anghenion y mwyafrif o ddysgwyr sydd angen gwybodaeth mewn fformat gwahanol eisoes wedi cael eu nodi drwy brosesau adnabod ADY.

Beth ddywedodd ein hymarfer cwmpas wrthym?

  • Cafwyd ymatebion cymysg i'r cwestiwn ynghylch deall gwybodaeth ysgrifenedig.
  • Lle mae angen adnoddau, offer neu gymorth penodol ar ddysgwyr, roedd hyn ar waith yn gyffredinol
  • Roedd y materion allweddol a nodwyd gan ddysgwyr, rhieni a gweithwyr addysg proffesiynol yn tueddu i ymwneud â strategaethau addysgu cyffredinol nad oeddent yn ystyried anghenion dysgwyr anabl:
    • Gormod o wybodaeth yn cael ei rhoi ar unwaith.
    • Diffyng gwirio dealltwriaeth o gyfarwyddiadau.
    • Cyfarwyddiadau a geirfa yn rhy gymhleth gyda diffyg cymorth gweledol neu esboniad i gefnogi dealltwriaeth.
    • Llawysgrifen ar y bwrdd sy'n anodd ei darllen, ac wedi'i ysgrifennu allan o drefn.
    • Dim digon o amser prosesu.

Cyfrifoldebau

Bydd yr awrdurdod lleol yn:

  • Sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol o'r ystod lawn o wasanaethau cymorth sydd ar gael i roi cyngor, arweiniad a chynorthwyo'n uniongyrchol i drosi gwybodaeth i fformatau amgen.
  • Adolygu'n rheolaidd ei drefniadau ar gyfer darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen i sicrhau bod ganddo gapasiti digonol yn yr achos hwn.
  • Darparu cyngor arbenigol i ysgolion mewn perthynas â disgyblion byddar a'r rhai â nam ar eu golwg.
  • Annog ysgolion, gan gynnwys ysgolion arbennig, i rannu syniadau a chasglu a choladu enghreifftiau o arfer da i'w lledaenu.

Bydd ysgolion yn:

  • Codi ymwybyddiaeth ymhlith staff o'r gofyniad i ddarparu gwybodaeth mewn fformatau amgen, os oes angen.
  • Cynnal y wybodaeth ddiweddaraf am anghenion dysgwyr o ran darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen a sicrhau ei bod yn cael ei rhannu ymhlith staff.
  • Casglu a rhannu enghreifftiau o arfer da ymhlith staff.
  • Adolygu ac archwilio'n rheolaidd ddull yr ysgol o ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig yn gyffredinol i weld a oes modd gwella'r fformat yn rheolaidd ac yn gyffredinol er mwyn gwella hygyrchedd.
  • Ceisio cyngor a chefnogaeth arbenigol yn yr achosion hynny sydd y tu hwnt i arbenigedd uniongyrchol yr ysgol.

Blaenoriaethau ar gyfer gwella yn y maes hwn:

Yn y bôn, mae'r materion allweddol a nodwyd yn dynodi angen am hyfforddiant pellach i athrawon, sydd wedi'i nodi fel blaenoriaeth o dan ddyletswydd gynllunio 1.

 

Aran 5: Blaenoriaeth, cynllunio gweithredu a monitro

Crynodeb o flaenoriaethau

  • Cynhyrchu canllawiau cynhwysfawr i ysgolion ar ddatblygu cynlluniau hygyrchedd sy'n: cadarnhau'r diffiniad o anabledd; yn amlinellu cyfrifoldebau statudol yn glir; yn rhoi hawliau plant yn ganolog ac yn sicrhau bod gwelliannau'n seiliedig ar farn y rhai sydd â phrofiad bywyd.
  • Adolygu a gwella'r wybodaeth a'r hyfforddiant sydd ar gael i lywodraethwyr, penaethiaid/uwch arweinwyr, rheolwyr adeiladau a Chydlynwyr ADY mewn perthynas â'r uchod.
  • Ceisio gwella agweddau tuag at anabledd trwy hyrwyddo ymagwedd seiliedig ar asedau, sydd hefyd yn mynd i'r afael â gwahaniaethu a micro-ymosodedd diwylliant sy'n ffafrio pobl abl.
  • Ehangu cwmpas y ffrwd waith 'arallgyfeirio cyrff llywodraethu' i gynnwys cynyddu nifer y llywodraethwyr sy'n nodi eu bod yn anabl.
  • Parhau i hwyluso cyfranogiad effeithiol ac ystyrlon gan ddysgwyr anabl a'u rhiant-ofalwyr wrth lunio gwelliannau hygyrchedd.
  • Adolygu ac ehangu ymhellach y cynnig dysgu proffesiynol i sicrhau ei fod yn bodloni cwmpas eang yr anghenion hyfforddi ar gyfer pob grŵp o staff.
  • Datblygu canllawiau i ysgolion ar addasiadau rhesymol ar gyfer teithiau a phreswyl.
  • Datblygu canllawiau, gan gynnwys enghreifftiau o arfer da, ar gyfer AG/chwaraeon cynhwysol.
  • Datblygu awdit i bob ysgol ei ddefnyddio i gefnogi eu cynllunio rhagweithiol er mwyn gwella'r amgylchedd ffisegol, gan gynnwys hygyrchedd ar ymyl y ffordd.
  • Gwella'r system ar gyfer nodi a blaenoriaethu gwelliannau hygyrchedd ar draws yr ystâd ysgolion sy'n defnyddio'r awdit mynediad fel sail, ac sydd ag amserlenni penodol i gefnogi defnydd mwy strategol o grantiau cyfalaf llai.
  • Archwilio'r potensial ar gyfer gwella hygyrchedd ar ymyl y ffordd gyda'r Tîm Priffyrdd.
  • Adeiladu ysgol arbennig newydd sbon o'r radd flaenaf gyda chyfleusterau arbenigol integredig, amgylchedd dysgu gwell a mwy o leoedd.
  • Ystyried ymgorffori ystorfa offer ganolog yn yr adeilad ysgol arbennig sy'n cefnogi ail-ddefnyddio/ailgylchu offer yn fwy cost-effeithiol.

 

Yn seiliedig ar effaith, cost ac adnoddau/gwaith sydd ei angen, mae'r blaenoriaethau wedi'u categoreiddio fel rhai:

  • Tymor Byr - i gael sylw o fewn blwyddyn gyntaf y strategaeth
  • Tymor Canolig - i'w cychwyn neu i gael sylw o fewn y strategaeth gyfredol
  • Tymor Hir - i'w cychwyn o fewn y strategaeth gyfredol ond yn barhaus

 

 

Blaenoriaethau
PriorityEffaithCostAdnodd / baich gwaithTymor

Cynhyrchu canllawiau cynhwysfawr i ysgolion ar ddatblygu cynlluniau hygyrchedd sy'n: cadarnhau'r diffiniad o anabledd; yn amlinellu cyfrifoldebau statudol yn glir; yn rhoi hawliau plant yn ganolog ac yn sicrhau bod gwelliannau'n seiliedig ar farn y rhai sydd â phrofiad bywyd.

UchelIselCanoligByr
Adolygu a gwella'r wybodaeth a'r hyfforddiant sydd ar gael i lywodraethwyr, penaethiaid/uwch arweinwyr, rheolwyr adeiladau a Chydlynwyr ADY mewn perthynas â'r uchod.CanoligIselCanoligCanolig
Ceisio gwella agweddau tuag at anabledd trwy hyrwyddo ymagwedd seiliedig ar asedau, sydd hefyd yn mynd i'r afael â gwahaniaethu a micro-ymosodedd diwylliant sy'n ffafrio pobl abl.CanoligIselCanoligCanolig
Ehangu cwmpas y ffrwd waith 'arallgyfeirio cyrff llywodraethu' i gynnwys cynyddu nifer y llywodraethwyr sy'n nodi eu bod yn anabl.IselIselIselCanolig
Parhau i hwyluso cyfranogiad effeithiol ac ystyrlon gan ddysgwyr anabl a'u rhiant-ofalwyr wrth lunio gwelliannau hygyrchedd.UchelIselIselHir
Adolygu ac ehangu ymhellach y cynnig dysgu proffesiynol i sicrhau ei fod yn bodloni cwmpas eang yr anghenion hyfforddi ar gyfer pob grŵp o staff.CanoligIselUchelCanolig
Datblygu canllawiau i ysgolion ar addasiadau rhesymol ar gyfer teithiau a phreswyl.CanoligIselIselCanolig
Datblygu canllawiau, gan gynnwys enghreifftiau o arfer da, ar gyfer AG/chwaraeon cynhwysol.IselIselIselCanolig

Datblygu awdit i bob ysgol ei ddefnyddio i gefnogi eu cynllunio rhagweithiol er mwyn gwella'r amgylchedd ffisegol, gan gynnwys hygyrchedd ar ymyl y ffordd.

UchelIselIselByr

Gwella'r system ar gyfer nodi a blaenoriaethu gwelliannau hygyrchedd ar draws yr ystâd ysgolion sy'n defnyddio'r awdit mynediad fel sail, ac sydd ag amserlenni penodol i gefnogi defnydd mwy strategol o grantiau cyfalaf llai.

CanoligIselCanoligCanolig

Archwilio'r potensial ar gyfer gwella hygyrchedd ar ymyl y ffordd gyda'r Tîm Priffyrdd.

IselAnhysybsIselCanolig
Adeiladu ysgol arbennig newydd sbon o'r radd flaenaf gyda chyfleusterau arbenigol integredig, amgylchedd dysgu gwell a mwy o leoedd.UchelUchelUchelHir
Ystyried ymgorffori ystorfa offer ganolog yn yr adeilad ysgol arbennig sy'n cefnogi ail-ddefnyddio/ailgylchu offer yn fwy cost-effeithiol.IselUchelCanoligHir

Gweler y cynllun gweithredu yn Atodiad 3.

Bydd monitro cynnyddCynllun Gweithredu'r Strategaeth Hygyrchedd yn cael ei wneud trwy gyfarfodydd tymhorol y Grŵp Strategaeth Hygyrchedd Swyddogion Addysg.

Bydd y Cynllun Gweithredu yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol.

Bwrdd Arweinwyr Strategol y Gyfadran Addysg fydd yn goruchwylio'r monitro.

 


Atodiad 1

Ystadegau anabledd y DU: Cyffredinrwydd a phrofiadau bywd (Briff Ymchwill Ty'r Cyffredin)

  • Amcangyfrifiwyd yn 2021/22 bod gan 16.0 miliwn o bobl yn y DU anabledd. Mae hyn yn cynrychioli 24% o'r boblogaeth gyfan. Mae nifer yr achosion o anabledd yn codi gydag oedran: roedd tua 11% o blant yn anabl, o'i gymharu â 23% o oedolion o oedran gweithio a 45% o oedolion dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
  • Mae cyfran y plant sy'n adrodd am anabledd bron wedi dyblu dros y degawd diwethaf(o 6% yn 2011/12 i 11% yn 2021/22).
  • Nodwyd bod gan hanner (50%) y plant anabl nam cymdeithasol neu ymddygiadol, ac yna namau iechyd meddwl (21%) a namau 'eraill' (21%).
  • Mae mynychder anabledd safonedig yn ôl oedran ar ei uchaf ymhlith pobl o'r grŵp ethnig Bangladeshaidd: adroddodd tua 39% o bobl 16 oed a hŷn yn y grŵp ethnig hwn fod ganddynt anabledd yn unol â diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb. Ar ben arall y raddfa, y grŵp ethnig Tsieineaidd sydd â'r gyfran isaf o bobl yn adrodd am anabledd (15%).
  • Erysgwahaniaethaurhwng cyrhaeddiad pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Mae'r gwahaniaethau mwyaf yn y rhai sydd wedi ennill cymwysterau lefel gradd a'r rhai nad enillodd unrhyw gymwysterau. Rhwng Gorffennaf 2020 a Mehefin 2021, roedd gan chwarter (24.9%) o bobl anabl 21 i 64 oed radd fel eu cymhwyster uchaf, o'i gymharu â 42.7% o bobl nad ydynt yn anabl. Yn ogystal, nid oedd gan 13.3% o bobl anabl unrhyw gymwysterau, sef bron deirgwaith y gyfran o bobl nad ydynt yn anabl (4.6%).
  • Roedd pobl anabl yn llawer mwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar. Roedd cyfradd anweithgarwch economaidd pobl anabl yn 42.7%, gyda'r ffigur cyfatebol ar gyfer y rhai nad ydynt yn anabl yn 14.3%. Mae pobl anabl yn cael eu talu llai ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl.
  • Mae gan deuluoedd sy'n cynnwys oedolyn neu blentyn anabl incwm canolrifol sylweddol is na theuluoedd lle nad oes neb yn anabl. Mae hyn yn cael ei yrru'n rhannol gan y rhwystrau y mae llawer o bobl anabl yn eu hwynebu mewn addysg a chael mynediad at gyflogaeth a chan gyfrifoldebau gofalu am rai aelodau o'r teulu.
  • Mae cyfraddau tlodi yn uwch ymhlith teuluoedd lle mae o leiaf un aelod yn anabl. Yn 2021/22, cyfran y bobl mewn tlodi cymharol ar ôl costau tai oedd 27% ar gyfer teuluoedd lle mae rhywun yn anabl, o'i gymharu â 19% ar gyfer pobl sy'n byw mewn teuluoedd lle nad oes neb yn anabl.
  • Mae pobl anabl hefyd yn adrodd am lefelau uwch o unigrwydd: dywedodd 15.1% o bobl anabl eu bod yn teimlo'n unig "yn aml neu drwy'r amser" yn 2020/21, o'i gymharu â 3.6% o bobl nad ydynt yn anabl. Roedd y rhai â chyflyrau mwy difrifol, a ddywedodd eu bod yn gyfyngedig iawn yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd, fwy na dwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n unig "yn aml neu drwy'r amser" na'r rhai a ddywedodd eu bod wedi'u cyfyngu ychydig (25.5% a 10.5 % yn y drefn honno). Dywedodd cyfran uwch o oedolion iau (16 i 24 oed) eu bod yn teimlo'n unig "yn aml neu drwy'r amser" na'r rhai mewn grwpiau oedran hŷn, boed yn anabl ai peidio.
  • Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023, canfu Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) fod 18.2% o oedolion anabl 16 oed a hŷn wedi profi rhyw fath o drosedd, o'i gymharu â 15.5% o oedolion nad ydynt yn anabl. Roedd y gwahaniaeth rhwng plant anabl a phlant nad ydynt yn anabl yn fwy, gyda phlant anabl rhwng 10 a 15 oed ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi dioddef trosedd (22.3% o'i gymharu â 9.2%).

 

Nododd Adroddiad BwlchCanfyddiad Anabledd (Scope, Mai 2018):

  • Mae agweddau negyddol a rhagfarn yn parhau i fod yn broblem fawr i bobl anabl - dywedodd un o bob tri (32%) o ymatebwyr anabl fod llawer o ragfarn yn erbyn pobl anabl ym Mhrydain. Rhoddodd pobl nad ydynt yn anabl ymateb hollol wahanol, gyda dim ond un o bob pump (22%) yn cytuno bod llawer o ragfarn.
  • Er y gall yr agweddau negyddol hyn fod ar ffurf sarhad a chamdriniaeth lwyr, mae ymchwil ethnograffig ar wahân, a gynhaliwyd ar gyfer Scope gan Britain Thinks yn gynnar yn 2018, wedi canfod bod pobl anabl yn aml yn wynebu gweithredoedd bach amrywiol o ymddygiad negyddolmegis: defnyddwyr cadeiriau olwyn yn nodi fod pobl yn gadael i ddrysau gau yn eu hwynebau yn hytrach na dal y drws yn agored iddynt; pobl yn siarad â ffrind neu ofalwr ac yn siarad yn y trydydd person, yn hytrach na siarad yn uniongyrchol â'r person anabl; staff gwasanaeth mewn siopau a bwytai yn anwybyddu cwsmeriaid anabl, ac eraill yn 'ochneidio' neu'n 'twt twtio'.

 

Tlodi incwm cymharol: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 (Ystadegau Llywodraeth Cymru)

  • Yn y cyfnod diweddaraf (FYE 2020 i FYE 2022) roedd 31% o'r plant a oedd yn byw mewn teulu lle'r oedd rhywun ag anabledd mewn tlodi incwm cymharol o'i gymharu â 26% o'r rhai mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl.
  • Ar gyfer oedolion o oedran gweithio, roedd 28% a oedd yn byw mewn teulu lle'r oedd rhywun ag anableddmewn tlodi incwm cymharol o'i gymharu ag 16% o'r rheini mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl.

 


Atodiad 2

Bywydau Llawn: Mynediad Cyfartal Adroddiad dilynol ar hygyrchedd i ddefnyddwyr cadair olwyn mewn ysgolion yng Nghymru (Comisiynydd Plant Cymru 2018)

Canfu'r adroddiad hwn fod y mwyafrif o awdurdodau lleol wedi adrodd rhywfaint o gynnydd ers yr adroddiad gwreiddiol yn 2014. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn nodi bod lle i ddatblygu ymhellach, yn enwedig y canlynol y dylid eu hystyried gan awdurdodau lleol:

  • Dylai pob awdurdod lleol gyhoeddi eu strategaethau hygyrchedd ar eu gwefannau, a dylai cynlluniau hygyrchedd ysgolion fod ar gael ar-lein hefyd.
  • Mae angen i staff mewn awdurdodau lleol wybod bod y dogfennau hyn yn bodoli a gallu darparu'r fersiynau diweddaraf i deuluoedd sy'n holi amdanynt. Byddai codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant yn cynorthwyo gyda hyn, a byddem hefyd yn argymell bod adeiladau ac adrannau addysg awdurdodau lleol yn berchen ar y dogfennau hyn ar y cyd, er mwyn rhannu gwybodaeth glir a chyfredol â theuluoedd.
  • Mae ymgynghori â phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac mae'n rhaid iddo fod yn rhan o'r strategaethau a chynlluniau er mwyn gwneud y rhain yn ystyrlon a chynnal hawliau plant ledled Cymru. Dylai pob awdurdod lleol ac ysgol felly ymgynghori â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd wrth baratoi eu strategaeth neu gynllun.
  • Dylai Awdurdodau Lleol ddefnyddio Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant yn eu holl waith sy'n ymwneud â hygyrchedd i blant a phobl ifanc, i alluogi disgyblion a'u teuluoedd i wneud dewisiadau gwybodus ac i gynorthwyo mwy o ddisgyblion ag anableddau i fynychu'r ysgol o'u dewis, gyda'u ffrindiau.

 


Atodiad 3

Cynllun Gweithredu: Blwyddyn 1

Mae hon yn ddogfen waith a bydd yn cael ei diwygio a'i diweddaru dros amser.

Cynllun Gweithredu: Blwyddyn 1
BlaenoriaethTymorCamau Gweithredu Blwyddyn 1ArweinyddAmserlenMeini prawf llwyddiantMonitro

Cynhyrchu canllawiau cynhwysfawr i ysgolion ar ddatblygu cynlluniau hygyrchedd sy'n: cadarnhau'r diffiniad o anabledd; yn amlinellu cyfrifoldebau statudol yn glir; yn rhoi hawliau plant yn ganolog ac yn sicrhau bod gwelliannau'n seiliedig ar farn y rhai sydd â phrofiad bywyd.

Byr
  • Canllawiau a thempledi ymchwil a gynhyrchwyd gan awdurdodau lleol eraill.
  • Cynhyrchu canllawiau drafft a thempled cynllun hygyrchedd.
  • Cynnal digwyddiad codi ymwybyddiaeth ar gyfer penaethiaid a chasglu adborth ar y cynllun drafft trwy gael nifer fach o ysgolion i dreialu.
  • Cwblhau a dosbarthu y ddogfen a gymeradwywyd.
CydraddoldebauMedi 2024
  • Pob ysgol yn datblygu cynlluniau hygyrchedd yn unol â'r cyfrifoldebau statudol sydd ar gael ar wefannau ysgolion.
Swyddog Addysg, Grŵp Strategaeth Hygyrchedd
Adolygu a gwella'r wybodaeth a'r hyfforddiant sydd ar gael i lywodraethwyr, penaethiaid/uwch arweinwyr, rheolwyr adeiladau a Chydlynwyr ADY mewn perthynas â'r uchod.Canolig
  • Cwmpasu'r hyfforddiant a'r wybodaeth bresennol sydd ar gael.
  • Adnabod bylchau / materion.

Cydraddoldebau / ADY

Mawrth 2025
  • Llunio cynllun i fynd i'r afael â bylchau gan gynnwys swyddogion sy'n gyfrifol am ddatblygu.
Swyddog Addysg, Grŵp Strategaeth Hygyrchedd
Ceisio gwella agweddau tuag at anabledd trwy hyrwyddo ymagwedd seiliedig ar asedau, sydd hefyd yn mynd i'r afael â gwahaniaethu a micro-ymosodedd diwylliant sy'n ffafrio pobl abl.Canolig
  • Datblygu polisi 'iaith' ar gyfer y Gyfadran Addysg

Dysgwyr Agored i Niwed  / Cydraddoldebau

Rhagfyr 2024
  • Polisi wedi'i gwblhau, ei gymeradwyo a'i ddosbarthu.
Swyddog Addysg, Grŵp Strategaeth Hygyrchedd
Ehangu cwmpas y ffrwd waith 'arallgyfeirio cyrff llywodraethu' i gynnwys cynyddu nifer y llywodraethwyr sy'n nodi eu bod yn anabl.Canolig
  • Adolygu deunyddiau/adnoddau presennol ar gyfer recriwtio llywodraethwyr lleiafrifoedd ethnig a nodi sut y gellir eu haddasu i ymgorffori anabledd.
  • Diweddaru'r gronfa ddata sy'n casglu gwybodaeth am lywodraethwyr sydd newydd eu penodi i gynnwys casglu gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig.

Cydraddoldebau / Llywodraethwyr

Mawrth 2025
  • Nodi'r adnoddau sydd eu hangen, a chynllun i'w datblygu.
  • Cronfa ddata wedi'i diwygio / diweddaru ac yn addas i'r diben.
Swyddog Addysg, Grŵp Strategaeth Hygyrchedd
Parhau i hwyluso cyfranogiad effeithiol ac ystyrlon gan ddysgwyr anabl a'u rhiant-ofalwyr wrth lunio gwelliannau hygyrcheddHir
  • Codi ymwybyddiaeth o'r gofyniad i ysgolion gynnwys safbwyntiau dysgwyr anabl a'u rhieni sy'n gofalu yn y canllawiau cynllun hygyrchedd i ysgolion a thrwy ganllawiau ehangach CCS.
CydraddoldebauMedi 2024
  • Mae cynlluniau hygyrchedd ysgolion yn dangos tystiolaeth o gynnwys barn.
Swyddog Addysg, Grŵp Strategaeth Hygyrchedd
Adolygu ac ehangu ymhellach y cynnig dysgu proffesiynol i sicrhau ei fod yn bodloni cwmpas eang yr anghenion hyfforddi ar gyfer pob grŵp o staff.Canolig
  • Adolygu'r cynnig presennol a nodi bylchau drwy ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol.
ADYGorffennaf 2025
  • Datblygu cynllun
Swyddog Addysg, Grŵp Strategaeth Hygyrchedd
Datblygu canllawiau i ysgolion ar addasiadau rhesymol ar gyfer teithiau a phreswylCanolig
  • Ymchwilio a chwmpasu dogfennau/canllawiau presennol.
CydraddoldebauMedi 2025
  • Nodi'r wybodaeth allweddol i'w chynnwys.
Nodi'r wybodaeth allweddol i'w chynnwys.
Datblygu canllawiau, gan gynnwys enghreifftiau o arfer da, ar gyfer AG/chwaraeon cynhwysol.Canolig
  • Ymchwilio a chwmpasu dogfennau/canllawiau presennol.
  • Cysylltu â sefydliadau eraill sy'n cefnogi chwaraeon anabledd.
ADYMedi 2025
  • Nodi'r camau nesaf.
Swyddog Addysg, Grŵp Strategaeth Hygyrchedd

Datblygu awdit i bob ysgol ei ddefnyddio i gefnogi eu cynllunio rhagweithiol er mwyn gwella'r amgylchedd ffisegol, gan gynnwys hygyrchedd ar ymyl y ffordd.

Byr
  • Archwiliadau ymchwil a ddatblygwyd gan awdurdodau lleol eraill.
  • Cynhyrchu archwiliad.
Cydraddoldebau a ChyfalafMedi 2024
  • Dosbarthu'r archwiliad a'i ddefnyddio gan ysgolion i lunio eu blaenoriaethau gwella yn eu Cynlluniau Hygyrchedd.
Bwrdd Rhaglen fisol QEd

Gwella'r system ar gyfer nodi a blaenoriaethu gwelliannau hygyrchedd ar draws yr ystâd ysgolion sy'n defnyddio'r awdit mynediad fel sail, ac sydd ag amserlenni penodol i gefnogi defnydd mwy strategol o grantiau cyfalaf llai.

Canolig
  • Coladu allbynnau archwilio a sicrhau ansawdd.
  • Asesiad diwygiedig o hygyrchedd ysgolion gan ddefnyddio meini prawf LlC.
CyfalafMawrth 2025
  • Mae ysgolion yn cwblhau archwiliadau mynediad ac yn rhannu gyda'r awdurdod
  • Nodi blaenoriaethau a gofynion i gefnogi penderfyniadau ariannu a'r gallu i gael mynediad at grantiau yn y dyfodol.
Bwrdd Rhaglen fisol QEd

Archwilio'r potensial ar gyfer gwella hygyrchedd ar ymyl y ffordd gyda'r Tîm Priffyrdd.

Canolig
  • Cwmpasu'r angen trwy archwiliadau lefel ysgol.
  • Ymgysylltu â Phriffyrdd i archwilio opsiynau ariannu posibl.
CyfalafMawrth 2025
  • Nodi blaenoriaethau a gofynion i gefnogi penderfyniadau ariannu a'r gallu i gael mynediad at grantiau yn y dyfodol.
  • Cytuno ar gynllun cyflenwi fesul cam.
Bwrdd Rhaglen fisol QEd

Adeiladu ysgol arbennig newydd gyda chyfleusterau arbenigol yr 21ain ganrif, gwell amgylcheddau dysgu a mwy o leoedd.

Hir
  • Canlyniad y broses ymghynghori statudol.
  • Cymeradwyaeth y Cabinet i symud ymlaen i dendr cam un.
  • Cyflwyno Achos Busnes Amlinellol a chael cymeradwyaeth gan LlC.
LluosogMawrth 2025
  • Symud ymlaen i ddylunio manwl a chais cynllunio. .
Bwrdd Rhaglen fisol QEd

Ystyried ymgorffori ystorfa offer ganolog yn yr adeilad ysgol arbennig sy'n cefnogi ail-ddefnyddio/ailgylchu offer yn fwy cost-effeithiol.

Hir
  • Ystyriaeth gan yr arbenigwyr ysgolion ac offer o'r potensial i gyflenwi a chynnal darpariaeth o'r fath.
  • Datblygu'r rhestr llety i'w hymgorffori os cytunir ar hyn.
LluosogMawrth 2025
  • Cytuno ar fodel cyflenwi cynaliadwy.
  • Cynnwys darpariaeth yn yr atodlen llety.
Bwrdd Rhaglen fisol QEd

 


Rhestr termau
ADYAnghenion Dysgu Ychwanegol
AGAddysg Gorfforol
ALNCOCydlynydd Anhenion dysgu Ychwanegol
ALNETDeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
ALNITTîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant
ALPDarpariaeth Dysgu Ychwanegol
CACynorthwy-ydd Addysgu
CAACyfleuster Addysgu Arbenigol
CCSCynllun Cydraddoldeb Strategol
CCUHPConfensiwn ar Hawliau'r Plentyn
CRPDConfensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau
CSEWArolwg Troseddu Cymru a Lloegr
CYBLDCyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion
FYEBlwyddyn Ariannol yn Diweddu
HIVFirws Imiwnoddiffygiant Dynol
IDPCynllun Datblygu Unigol
SIYSaesneg fel Iaith Ychwanegol
TGChTechnolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu
CCUHPConfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Ebrill 2024