Toglo gwelededd dewislen symudol

Strategaeth Hygyrchedd i wella mynediad i ysgolion Abertawe ar gyfer dysgwyr anabl

Mae Cyngor Abertawe'n ymgynghori ar ei Strategaeth Hygyrchedd ar gyfer dysgwyr anabl.

Mae Atodlen 10 Deddf Cydraddoldeb (2010) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi Strategaeth Hygyrchedd mewn perthynas ag ysgolion y maent yn gorff cyfrifol amdanynt. Mae Strategaethau Hygyrchedd yn helpu i sicrhau bod plant anabl yn cael eu cynnwys yn llawn mewn amgylchedd ysgol drwy ystyried tair dyletswydd cynllunio:

  • y cwricwlwm a sut caiff ei addysgu;
  • hygyrchedd adeiladau ysgol a'u hamgylchoedd, gweithgareddau'r ysgol gan gynnwys teithiau ysgol a chludiant; a
  • gwybodaeth a gweithgareddau a ddarperir gan ysgolion a pha mor hawdd ydyw i ddisgyblion anabl a / neu eu rhieni anabl ei deall.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 8 Ebrill 2024 ac yn dod i ben ar 24 Mai 2024.

Defnyddiwch y tudalennau perthnasol isod i gael rhagor o wybodaeth gysylltiedig.

Os oes angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat arall e.e. print bras, e-bostiwch addysg@abertawe.gov.uk

Strategaeth Hygyrchedd 2024 / 2027

Ein cynlluniau ar gyfer gwneud ein hysgolion yn fwy hygyrch i ddysgwyr anabl.

Strategaeth Hygyrchedd 2024 / 2027 (Hawdd ei Ddeall)

Ein cynlluniau ar gyfer gwneud ein hysgolion y fwy hygyrch i ddysgwyr anabl.

Strategaeth Hygyrchedd 2024 / 2027 (ieithoedd heblaw am y Gymraeg / Saesneg)

Ein cynlluniau ar gyfer gwneud ein hysgolion yn fwy hygyrch i ddysgwyr anabl.
Close Dewis iaith