Toglo gwelededd dewislen symudol

e-Bapurau Newydd ac e-Gylchgronau

Gallwch gyrchu cylchgronau a phapurau newydd i'w darllen ar-lein neu eu lawrlwytho i fynd â chi, yn union fel y byddent yn ymddangos wedi'u hargraffu, gyda PressReader ac ePress (drwy BorrowBox).

Os ydych yn aelod o Lyfrgelloedd Abertawe, bydd gennych fynediad yn awtomatig at ein gwasanaethau e-bapurau newydd ac e-gylchgronau, PressReader ac ePress (drwy BorrowBox). Ddim yn aelod? Gwnewch gais i ymuno nawr.

  • Gallwch gael mynediad llawn at bapurau newydd a chylchgronau cyhoeddwyr papurau newydd a chylchgronau o safon o'r eiliad maent ar gael ar y stondinau papur newydd.
  • PressReader - Does dim angen eu rhoi ar gadw a does dim terfyn ar nifer yr e-bapurau newyddion neu'r e-gylchgronau y gallwch eu lawrlwytho.
  • ePress - Does dim angen eu rhoi ar gadw a gallwch fenthyca hyd at 50 o bapurau newyddion neu gylchgronau ac fe'u tynnir yn awtomatig o'ch cyfrif ar ddiwedd y cyfnod benthyca.
  • Gallwch lawrlwytho e-bapurau newydd ac e-gylchgronau ar eich cyfrifiadur neu e-ddarllenydd (ceir rhai cyfyngiadau'n dibynnu ar y gwasanaeth - gweler y gwefannau unigol am wybodaeth bellach).
  • Mae apiau Apple ac Android ar gael ar gyfer y ddau wasanaeth i chi lawrlwytho eich teitlau dewisol all-lein ac wrth i chi fynd.

Pressreader

Agor PressReader (Yn agor ffenestr newydd)

I ddefnyddio PressReader bydd angen i chi gofrestru gan ddefnyddio'r opsiwn 'Libraries & Groups', ac yna chwilio am 'Swansea Libraries'. Nodwch eich enw, rhif eich cerdyn llyfrgell arferol a'ch cyfrinair/PIN i greu cyfrif. 

Fideo cam wrth gam o sut i ddefnyddio PressReader gyda'ch cerdyn llyfrgell (Yn agor ffenestr newydd)

Efallai y bydd angen i chi nodi'ch manylion llyfrgell eto ar ôl cyfnod o amser. Mae angen gwneud hyn i ddilysu'ch cyfrif llyfrgell gyda PressReader.

  • Gallwch bori'r holl gyhoeddiadau neu ddewis categori o'r hafan.
  • I chwilio am deitl gallwch ddefnyddio'r opsiwn chwiliad chwyddwydr yn y gornel dde uchaf.
  • Cliciwch ar lun argraffiad er mwyn ei ddarllen, gwrando ar gynnwys erthygl neu i ddewis argraffiad o ddyddiad gwahanol. Gallwch hefyd ychwanegu eich hoff deitlau at 'My Publications'.

Arweiniad Cyflym i PressReader (Yn agor ffenestr newydd)

Mae arweiniad ychwanegol a fideos 'sut i' defnyddiol ar gael ar wefan PressReader (Yn agor ffenestr newydd).

ePress

Agor BorrowBox (Yn agor ffenestr newydd)

Fideo cam wrth gam sy'n dangos i chi sut i lawrlwytho a defnyddio ap BorrowBox ar eich dyfais (Yn agor ffenestr newydd)

  1. Er mwyn defnyddio BorrowBox bydd angen i chi nodi eich rhif cerdyn llyfrgell arferol a'ch cyfrinair/PIN. Ar y tro cyntaf, gofynnir i chi ddarparu cyfeiriad e-bost i creu eich cyfrif.
  2. Dewiswch 'ePress' o'r ddewislen ar y brig er mwyn gweld eu teitlau. Gallwch weld teitlau arbennig, y rhifynnau diweddaraf a'r teitlau mwyaf poblogaidd yn ogystal â phori fesul categori. 
  3. Er mwyn chwilio am lyfr gallwch ddefnyddio'r blwch chwilio ar ochr dde uchaf y dudalen.
  4. I fenthyca llyfr, dewiswch yr opsiwn benthyca o dan fanylion pob e-bapur newydd neu e-gylchgrawn. 
  5. Pan fyddwch wedi'i ddewis, gallwch ddewis naill ai benthyca'r rhifyn hwnnw'n unig neu gallwch danysgrifio i'r teitl - bydd tanysgrifio naill ai'n rhoi'r opsiwn i chi gael hysbysiad pan fydd y rhifyn nesaf ar gael neu'n ei fenthyca'n awtomatig. Gallwch ganslo hyn ar unrhyw adeg. 
  6. Gallwch yna ddewis i'w ddarllen ar-lein neu lawrlwytho'r teitl fel PDF i'w ddarllen yn hwyrach neu ei arbed ar e-ddarllenydd. Os bydd ffenestr dros dro yn ymddangos gydag opsiynau 'Open', 'Run' neu 'Save' ar gyfer eich llyfr pan rydych yn ei lawrlwytho, sicrhewch eich bod yn gwasgu 'Save', neu fel arall ni fydd y teitl yn cael ei gadw ar eich dyfais yn y modd cywir. 
  7. Ar ôl 14 diwrnod, bydd dau gyfnod adnewyddu o bythefnos ar gael. Ar ôl hynny, os ydych yn dewis peidio ag adnewyddu, ni fydd yr e-bapur newydd neu'r e-gylchgrawn ar gael mwyach i chi ei agor a bydd angen i chi ddileu'r ffeil o'ch dyfais. 

Y tro cyntaf y byddwch yn ceisio lawrlwytho e-bapur newydd neu e-gylchgrawn byddwch yn cael eich annog i lawrlwytho a gosod Adobe Digital Editions (Yn agor ffenestr newydd) os nad yw'r feddalwedd hon ar eich cyfrifiadur/MAC. Os ydych chi'n defnyddio dyfais symudol Android, Kindle Fire neu iPhone/iPad gallwch lawrlwytho'r ap BorrowBox.

Mae help ar gael ar wefan BorrowBox (Yn agor ffenestr newydd). Bydd angen i chi fewngofnodi i'r wefan i gael mynediad iddi.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Chwefror 2025