Llyfrgelloedd
Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at lyfrau ac adnoddau am ddim yn ogystal â channoedd o wasanaethau'r cyngor ar-lein.
Bydd yn rhaid talu dirwyon ar gyfer benthyciadau llyfrgell hwyr o 2 Ebrill 2023. Bydd unrhyw eitemau sydd ar fenthyg ar ôl y dyddiad hwnnw ac sydd heb eu dychwelyd neu eu hadnewyddu erbyn eu dyddiad dychwelyd yn destun dirwy. Codir ffïoedd hwyr ar bob benthyciad newydd ar ôl y dyddiad hwn hefyd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag unrhyw un o lyfrgelloedd Abertawe.
Mae gennym 17 llyfrgell yn ogystal â gwasanaeth dosbarthu i'r cartref i gwsmeriaid nad ydynt yn gallu cyrraedd eu llyfrgell leol. Rydym hefyd yn cynnig nifer o wasanaethau digidol i'n haelodau.