Ymuno â Llyfrgelloedd Abertawe
Cofrestrwch i ddod yn aelod am ddim ar-lein neu yn unrhyw un o'n 17 o lyfrgelloedd i ddechrau mwynhau'r ystod lawn o fanteision.
Manteision bod yn aelod o Lyfrgelloedd Abertawe:
- gallwch fenthyg hyd at 20 o lyfrau mewn cyfnod o 3 wythnos
- wifi am ddim ym mhob llyfrgell neu gallwch gadw lle ar un o'n cyfrifiaduron personol mynediad cyhoeddus i ddefnyddio'r we am ddim
- mynediad i e-Lyfrau, e-Lyfrau Llafar, e-Gylchgronau ac e-Bapurau Newydd am ddim
- mynediad i amrywiaeth o adnoddau ar-lein am ddim
- llogi DVDs
Ymaelodi ar-lein i fod yn aelod o'r llyfrgell
Os ydych eisoes yn aelod llawn o Lyfrgelloedd Abertawe, nid oes angen i chi gofrestru eto i gael mynediad at ein hadnoddau ar-lein.
Pan fyddwch yn cofrestru, gallwn wirio'n cronfa ddata ar sail yr wybodaeth a ddarperir, i sicrhau orau y gallwn nad ydym yn dal unrhyw gofrestriadau blaenorol ac felly'n osgoi dyblygu aelodaeth.
Ar ôl cwblhau'r ffurflen ar-lein, byddwch yn derbyn neges groeso sy'n cynnwys eich rhif llyfrgell dros dro ac a fydd yn cadarnhau eich PIN. Bydd angen yr wybodaeth hon arnoch i gael mynediad at eich cyfrif.
Wedyn, bydd angen i chi fynd i'r llyfrgell o'ch dewis gyda'ch rhif llyfrgell dros dro ac un prawf hunaniaeth sy'n dangos eich enw a'ch cyfeiriad (er enghraifft, trwydded yrru, datganiad banc neu fil cyfleustod) i dderbyn eich rhif llyfrgell parhaol a'ch cerdyn, a fydd yn golygu eich bod yn aelod llawn. Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Gallwch hefyd ymuno'n bersonol trwy ymweld ag unrhyw lyfrgell yn Abertawe gyda phrawf adnabod fel y disgrifir uchod.
Amodau a thelerau aelodaeth a defnydd o'r llyfrgell (PDF) [455KB]
Gallwch gael mynediad at eich cyfrif ar unrhyw adeg trwy ddefnyddio'ch rhif llyfrgell a'ch PIN.