Toglo gwelededd dewislen symudol

Eiddo rhannu ecwiti ar gael

Ydych chi'n ceisio prynu eich cartref eich hun ond ni allwch fforddio eiddo addas ar y farchnad agored?

Os ydych chi'n gweithio, nad ydych chi'n berchen ar gartref a gallwch gael morgais, efallai y gallwn eich helpu oherwydd mae'n bosib eich bod chi'n gymwys i gael eiddo Rhannu Ecwiti. Caiff y cartrefi hyn eu gwerthu am gost is i helpu pobl ag incwm cartref isel na fyddai'n gallu fforddio eiddo am werth llawn y farchnad.

Bydd y prynwr yn berchen ar 100% o'r eiddo am ganran o werth llawn y farchnad. Caiff yr eiddo hwn ei werthu am 70% o werth llawn y farchnad. Caiff y 30% sy'n weddill ei osod fel pridiant cyfreithiol yn erbyn yr eiddo. Bydd gan brynwr yr eiddo Rhannu Ecwiti holl hawliau a chyfrifoldebau perchennog cartref.

Mae gennym nifer cyfyngedig o eiddo Rhannu Ecwiti ar werth ar ddatblygiad Cwrt y Brenin ym Mhentre'r Ardd.

  • Llain 509 Cwrt Y Brenin, Pentre'r Ardd - 3 ystafell wely diwedd teras
    Pris rhannu ecwiti - £185,000
  • Llain 510 Cwrt Y Brenin, Pentre'r Ardd - 3 ystafell wely canol teras
    Pris rhannu ecwiti - £182,000
  • Llain 511 Cwrt Y Brenin, Pentre'r Ardd - 3 ystafell wely diwedd teras
    Pris rhannu ecwiti - £185,000

Shared equity properties - Cwrt Y Brenin, Garden Village (3 bedroom end link).

Shared equity properties - Cwrt Y Brenin, Garden Village.

Os ydych chi'n meddwl y gallech fod yn gymwys ac mae diddordeb gennych yn y cyfle hwn neu os hoffech gael eich ystyried ar gyfer unrhyw gynlluniau yn y dyfodol, e-bostiwch eich manylion cyswllt at: CofrestrTaiFforddiadwy@abertawe.gov.uk.

Perchentyaeth cost isel

Mae perchentyaeth cost isel yn eich galluogi i brynu tŷ ar bris gostyngol y farchnad.

Cynlluniau perchnogaeth a rennir

Mae cynlluniau perchnogaeth a rennir yn eich galluogi i brynu cyfran o eiddo.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Rhagfyr 2025