Toglo gwelededd dewislen symudol

Perchentyaeth cost isel

Mae perchentyaeth cost isel yn eich galluogi i brynu tŷ ar bris gostyngol y farchnad.

 

Ydw i'n gymwys ar gyfer perchentyaeth cost isel?

  1. Ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn?
  2. Ydych chi'n ddinesydd Prydeinig neu'r UE neu oes gennych ganiatâd penagored i aros yn y Deyrnas Unedig?
  3. Ydych chi'n bwriadu defnyddio'r eiddo fel eich unig neu brif gartref?
  4. Allwch chi fodloni nad yw eich amgylchiadau ariannol a/neu unigol yn eich galluogi i brynu neu rentu eiddo tebyg yn yr ardal ar y farchnad agored?
  5. Nid oes gennych ôl-ddyledion ac nid ydych wedi torri cytundeb tenantiaeth.
  6. Nid ydych eisoes yn berchen ar gartref.
  7. Allwch chi gael morgais? (Gwerthiant canolradd, Perchentyaeth Cost Isel yn unig).

Caiff blaenoriaeth ei rhoi i'r rheini:

  • y mae eu hincwm cartref yn isel
  • aelwydydd sy'n gwneud y defnydd gorau o faint eiddo. Er enghraifft, wrth ystyried fflat dwy ystafell wely, byddai cwpwl â phlentyn yn cael y flaenoriaeth ar gwpwl heb blant. Rhoddir blaenoriaeth hefyd i denantiaid tai cymdeithasol a'r rheini sy'n prynu am y tro cyntaf.

Mewn achos lle mae gan 2 aelwyd neu fwy ddiddordeb yn yr un eiddo, rhoddir blaenoriaeth i'r aelwyd sydd wedi'i chofrestru i'w hailgartrefu ar y gofrestr dyrannu priodol am y cyfnod hiraf.

Efallai bydd angen i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth ychwanegol yn ôl yr angen.

 

Perchentyaeth cost isel mewn ardaloedd gwledig

Meini prawf angen lleol

Ar gyfer tai fforddiadwy yn ardaloedd gwledig Abertawe, rhaid bodloni'r holl feini prawf tai fforddiadwy a nodir uchod ynghyd â'r meini prawf 'angen lleol' ychwanegol. Yng nghyd-destun tai angen lleol gwledig, ystyr defnyddio'r gair 'lleol' wrth ddisgrifio preswylydd yw:

  • ymgeiswyr sy'n preswylio yn yr ardal sydd wedi bod yn breswylwyr am gyfnod parhaus o 5 mlynedd o leiaf yn syth cyn cyflwyno cais,

neu

  • ymgeiswyr sydd wedi preswylio yn yr ardal am unrhyw gyfnod (neu gyfnodau sy'n gwneud cyfanswm o) fwy na 5 mlynedd ond llai na 10 mlynedd o fewn y 10 mlynedd yn syth cyn cyflwyno'r cais,

neu

  • ymgeiswyr a oedd yn arfer preswylio yn yr ardal ac mae ganddynt aelod(au) agos o'r teulu'n preswylio ar hyn o bryd yn yr ardal a lle mae'r aelod(au) agos o'r teulu wedi preswylio yn yr ardal am gyfnod parhaus o 10 mlynedd o leiaf, yn syth cyn cyflwyno'r cais am dai ac yn bwriadu aros yno. Ystyr 'aelod agos o'r teulu' yw rhiant neu rieni, plentyn neu blant, neu frodyr neu chwiorydd.
  • ymgeiswyr sy'n byw yn yr ardal ar hyn o bryd ac mae angen llety ar wahân arnynt, er enghraifft, pâr priod a phobl sy'n byw mewn llety clwm ar ôl ymddeol.
  • ymgeiswyr sy'n gweithio amser llawn neu ran-amser yn yr ardal. Diffinnir rhan-amser yn yr achos hwn fel o leiaf 10 awr yr wythnos.
  • ymgeiswyr y mae angen iddynt symud i'r ardal i gyflawni swydd amser llawn neu ran-amser (o leiaf 10 awr yr wythnos) yn yr ardal.
  • ymgeiswyr y mae angen iddynt symud i'r ardal er mwyn iddynt roi cefnogaeth i aelod agos o'r teulu neu gael cefnogaeth ganddo. Ystyr 'aelod agos o'r teulu' yw rhiant neu rieni, plentyn neu blant, neu frodyr neu chwiorydd neu berthynas arall y mae angen go iawn i roi cefnogaeth neu ei derbyn er boddhad Dinas a Sir Abertawe.

Os na fydd ymgeiswyr yn gallu bodloni unrhyw un o'r meini prawf hyn, gall yr awdurdod ystyried unigolion o'r ardaloedd amgylchynol a chymunedau sy'n ffinio'r ardal. Diffinnir hyn ar sail safle penodol os bydd angen.

 

Cynlluniau perchentyaeth cost isel presennol yn Abertawe

Ailwerthu cartrefi perchentyaeth cost isel - pan fyddwn yn ymwybodol o eiddo perchentyaeth cost isel sy'n cael eu hail-werthu, byddwn yn postio'r manylion yma.

 

Sut rwyf yn mynegi diddordeb mewn perchentyaeth cost isel?

Bydd angen i chi gofrestru'n gyntaf ar y gofrestr tai fforddiadwy drwy anfon eich manylion i cofrestrtaifforddiadwy@abertawe.gov.uk neu drwy ffonio (01792) 635047.

Byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cymhwysedd ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol. Byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth ynghylch eich amgylchiadau tai cyfredol, eich incwm, eich aelwyd arfaethedig a'ch dewisiadau a'ch gofynion tai yn y dyfodol.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, anfonir llythyr atoch i gadarnhau bod eich manylion ar y gronfa ddata.Byddwn yn cysylltu â chi bob 6 mis i ddiweddaru'ch manylion.

Fe'ch hysbysir o unrhyw gynlluniau sydd ar y gweill yn yr ardaloedd o'ch dewis sy'n cael eu harwain gennym.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Awst 2024