Toglo gwelededd dewislen symudol

Casgliadau elusennol ar y stryd

Bydd angen trwydded casglu ar y stryd ar gyfer unrhyw gasgliad elusennol mewn man cyhoeddus, os yw ar stryd gyhoeddus ai peidio.

Mae'n rhaid cyflwyno cais o leiaf 28 niwrnod cyn y casgliad. Oherwydd y gellir cynnal un casgliad yn unig y tro, y cynharaf rydych yn gofyn am ddyddiad, y mwyaf tebygol rydych o gael y dyddiad a ddymunir. Os nad oes lle ar y dyddiad gofynnol, cynigiwn ddyddiadau eraill i chi.

Cewch gasglu unrhyw le yn Ninas a Sir Abertawe, ac eithrio Sgwâr y Castell, Canolfan Siopa'r Cwadrant a'r orsaf fysus. Nid oes cyfyngiadau ar yr amseroedd y cewch gasglu ond, os ydych yn trefnu casgliad, dylech roi sylw priodol i ddiogelwch a lles y casglwyr ac unrhyw un a hoffai gyfrannu.

Caiff pob sefydliad wneud cais am un dydd Sadwrn ac un dydd y chwarter calendr. Cyfnod chwarter calendr yw mis Ionawr i fis Mawrth, mis Ebrill i fis Mehefin, mis Gorffennaf i fis Medi a mis Hydref i fis Rhagfyr.

Ar ôl cynnal eich casgliad, mae gennych 28 niwrnod i gyflwyno datganiad o gyfrifon. Mae hyn yn dangos y swm a godwyd, y gwariant a'r cyfanswm a gasglwyd ar gyfer y sefydliad penodol. Dylech fod yn ymwybodol na fydd sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofyniad hwn yn cael eu hystyried ar gyfer trwyddedau yn y dyfodol.

Os ydych yn trefnu casgliad stryd, cysylltwch â ni cyn anfon eich hysbysiad. Os na chysylltwch â ni, gall eich dyddiad gofynnol wrthdaro â chasgliad sydd eisoes wedi'i awdurdodi, a fydd yn arwain at wrthod eich cais.

 

Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Mai 2021