Toglo gwelededd dewislen symudol

Enghreifftiau o daliadau uniongyrchol

Gallech ddefnyddio taliadau uniongyrchol mewnffyrdd gwahanol.

Gyflogi rhywun yn uniongyrchol i'ch helpu gyda'ch gofal (cynorthwy-ydd personol)

Enghraifft 1

O ganlyniad i ddamwain car, mae golwg rhannol gan Lisa ac mae'n defnyddio cadair olwyn.  Mae angen cefnogaeth arni gyda rhai o'u hanghenion gofal, ac i fynd hwnt ac yma. Gwnaeth ei gŵr Steve ei orau i'w chefnogi ond rhoddodd hyn straen ar eu perthynas.  Drwy gyflogi Ann fel Cynorthwy-ydd Personol, mae'n cael y gefnogaeth ar adegau sydd orau iddi hi.   Roedd Lisa bob amser wedi ymfalchïo yn ei phryd a'i gwedd a dechreuodd ddioddef iselder pan nad oedd yn gallu gwneud hyn ar ei phen ei hun. Ond mae Ann yn mwynhau siopa am ddillad a rhoi cynnig ar syniadau colur newydd hefyd, felly gyda'i help mae Lisa'n teimlo ei bod yn dilyn y datblygiadau ffasiwn diweddraf ac mae ei hunanhyder wedi gwella.  Ac oherwydd bod Steve yn chwarae llai o ran yn ei gofal, mae ei perthynas yn debycach i'r hyn roedd cyn ei damwain.

Enghraifft 2

Mae gan Kelly dri o blant.  Mae gan ei mab, Jack, anabledd dysgu difrifol a phroblemau iechyd eraill, felly mae angen gofal cyson arno.  Mae ei Thaliad Uniongyrchol yn ei galluogi i gyflogi rhywun mae'n ei adnabod fel cynorthwy-ydd Personol i ofalu am Jack ddwywaith yr wythnos fel y gall dreulio amser gyda'i merched.

 

Prynu gofal oddi wrth asiantaeth ofal breifat gofrestredig

Enghraifft 1

Ar ôl i Derek gael clun newydd, talodd am asiantaeth ofal breifat i'w helpu yn ei gartref.  Blwyddyn yn ddiweddarach cafodd strôc ac roedd y gofal personol yr oedd ei angen arno'n golygu fod hawl ganddo gael gofal cartref trwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Dewisodd Derek gael Taliad Uniongyrchol a thalu'r asiantaeth yr oedd wedi'i defnyddio o'r blaen i barhau â'i ofal gan ddefnyddio staff gofal yr oedd eisoes yn eu hadnabod.

 

Gwneud eich trefniadau eich hunan yn lle defnyddio gofal dydd neu ofal seibiant y Gwasanaethau Cymdeithasol

Enghraifft 1

Mae dementia gan Jean ac mae Bob ei gŵr yn gofalu amdani.  Roedd yn arfer treulio pythefnos y flwyddyn mewn cartref gofal er mwyn i Bob gael seibiant o ofalu amdani.  Mae Bob yn mynd ar drip golff gyda'i fab, ond roedd yn arfer teimlo'n euog ei fod yn cael mwy o hwyl na Jean.  Pe bai Jean yn cael Taliad Uniongyrchol, gallai dreulio tair wythnos yng nghartref ei chwaer gyda gofalwyr taledig yn dod i ofalu am eu hanghenion gofal personol.   Erbyn hyn, mae'r ddau'n mwynhau'r amser ar wahân.

Enghraifft 2

Mae Mair a Heulwen yn siarad Cymraeg, ac nid oedd y naill na'r llall yn mwynhau mynd i ganofan ddydd lle siaradwyd Saesneg.  Awgrymodd y gweithiwr cymdeithasol y gallent gael Taliad Uniongyrchol a dod â nhw i gysylltiad gan fod eu hanghenion yn debyg iawn.  Drwy gyfuno eu taliadau, gallent fforddio cyflogi Cynorthwy-ydd Personol a oedd yn siarad Cymraeg sy'n mynd â nhw unwaith yr wythnos i grŵp cymdeithasol i fenywod lle siaredir Cymraeg ac i gôr cymunedol, gan fod y ddwy'n mwynhau canu.

Enghraifft 3

Mae Norman yn 90 oed ac yn ansicr ar ei draed. Pan fydd yn cwympo, yn aml ni all godi eto. Roedd ei wraig, sy'n gofalu amdano, yn bryderus wrth feddwl amdano'n aros ar ei ben ei hun yn eu fflat pan fyddai'n mynd i apwyntiadau wythnosol yn yr ysbyty. Cynigiwyd gwasanaeth gwarchod, ond roedd Norman yn anhapus i gael dieithryn yn y tŷ. Fodd bynnag, mae Taliad Uniongyrchol yn galluogi ffrind Norman, Alf, nad yw'n ei weld yn aml nawr gan fod Alf yn byw sawl milltir i ffwrdd, i gael tacsi i fflat Norman ac aros gydag ef am y bore. Maent yn treulio'r amser yn sgwrsio'n hapus ac amser cinio bydd Alf yn cael pryd iddynt o'r siop sglods leol, sy'n golygu y gall gwraig Norman gael cinio ysgafn yng nghaffi'r ysbyty ar ôl ei thriniaeth a pheidio â rhuthro'n ôl. 

 

Brynu cyfarpar a fydd yn eich helpu i ddiwallu'ch anghenion a nodir

Enghraifft 1

Ar ôl rhai blynyddoedd, roedd Gary yn gwneud cynnydd da wrth oresgyn ei broblemau iechyd meddwl hir-sefydlog a helpodd ei ofalwr gofal i ddod o hyd i rôl wirfoddol iddo a fyddai'n helpu ei ragolygon cyflogaeth. Fodd bynnag, roedd ei OCD yn ei gwneud hi'n anodd iawn iddo ddefnyddio cludiant cyhoeddus i gyrraedd y lleoliad.  Gydag un Taliad Uniongyrchol, llwyddodd Gary i brynu beic ail law a oedd yn golygu y gallai gyrraedd ei leoliad gwirfoddoli ar amser ac, ar ben hynny, cynyddodd ei hunanhyder wrth iddo allu symud yn fwy.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Mai 2024