Cystadleuaeth arddio 2024 - yr enillwyr
Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein cystadleuaeth arddio yn 2024.
Yn ystod 2024, gwnaethom ddathlu 25 mlynedd y gystadleuaeth arddio i denantiaid a lesddeiliaid ac roedd yn hyfryd gweld cynigion gan y rhai hynny sy'n cystadlu'n rheolaidd a newydd-ddyfodiaid.
Unwaith eto, gwnaethom ofyn i chi anfon lluniau o'ch gerddi ac ni chawsom ein siomi gennych! Roedd yn benderfyniad anodd iawn dewis yr enillwyr gan i ni dderbyn cynifer o gynigion gwych. Gwnaethoch greu argraff ar y beirniaid gyda'ch gerddi lliwgar, eich defnydd clyfar o le a'ch amrywiaeth hyfryd o flodau a phlanhigion!
Felly, rydym yn diolch yn fawr i chi am gymryd rhan ac yn edrych ymlaen at weld eich gerddi eto yn 2025. Bydd gwybodaeth am y gystadleuaeth arddio eleni yn rhifyn nesaf Tŷ Agored.
Dyma ddetholiad o luniau o erddi'r enillwyr (cliciwch ar y lluniau i weld fersiynau mwy):
Gardd Orau - Gwobr 1af: Gayan Kodagodage
Gardd Orau - 2il wobr: Joanne McCabe
Gardd Orau - 3edd wobr: Alfred Scott
Yr Ardd Fwytadwy Orau: Andrea Evans
Yr Ardd Ffordd o Fyw Orau: Anne Hopkins
Y Cyfadeilad Lloches Gorau: Llys Talacharn
Y Defnydd Gorau o Le Bach/Cyfyngedig: Cheryl Dodd
Garddwr Newydd Gorau: Judith Wood
Y Blodyn Haul Gorau: Joanne McCabe
Yr Ardd Blodau Gwyllt Orau: Patrick McCormack