Tyregen UK Ltd, Ystad Ddiwydiannol Westfield, Uned 2, Waunarlwydd, SA5 4SF
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar gais am Drwydded Rhan 2A dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Lloegr a Chymru) 2016.
Mae'r cwmni y'i hadwaenir fel Tyregen UK Limited, Argyle House, 10 West Street, Gorseinon, Abertawe, Cymru SA4 4AA wedi gwneud cais i Gyngor Abertawe am drwydded i weithredu gweithfa i losgi gwastraff nad yw'n beryglus mewn peiriant llosgi gwastraff sy'n llosgi llai na 3 tunnell yr awr yn Tyregen UK Limited, Ystad Ddiwydiannol Westfield, Uned 2, Waunarlwydd, SA5 4SF
Mae'r cais yn disgrifio unrhyw effaith amgylcheddol o'r broses hon ar yr amgylchedd lleol.
Os hoffech siarad ag unrhyw un am gael gafael ar y dogfennau, ffoniwch yr is-adran Rheoli Llygredd ar 01792 635600.
Bydd unrhyw sylwadau ysgrifenedig yn cael eu rhoi ar y gofrestr gyhoeddus oni bai eu bod yn cynnwys datganiad yn gofyn i ni beidio â gwneud hyn. Os oes cais o'r fath, bydd y gofrestr yn cynnwys nodyn bod sylwadau wedi cael eu gwneud nad ydynt ar y gofrestr oherwydd y cais hwnnw.
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 12 Medi 2024 ac yn dod i ben ar 2 Hydref 2024.
Dogfennau'r cais
Mae elfennau o'r testun yn y dogfennau cais wedi cael eu golygu o'r gofrestr gyhoeddus, yn unol â Rheoliadau 50 a 51 Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
- Ffurflen gais am Beiriant Llosgi Gwastraff Bach E10277A_APP-4 (Cyfrinachol) (PDF, 756 KB)
- Trwydded APS - Crynodeb Annhechnegol E1027a_NTS-5 (cyhoeddus) (PDF, 2 MB)
- Asesiad Risg Allyriadau Aer – Peiriant Pyrolysis, Abertawe E1027A_A1-3 (PDF, 5 MB)
-
Cais am wybodaeth ychwanegol: