Toglo gwelededd dewislen symudol

Enwi a rhifo strydoedd

Rydym yn gyfrifol am enwi'r holl ffyrdd a strydoedd, ac am enwi a rhifo'r holl eiddo (preswyl, masnachol a diwydiannol) yn Ninas a Sir Abertawe.

Gellir ond creu cyfeiriad a derbyn côd post gan y Post Brenhinol ar ôl iddo gael ei enwi a'i rifo'n swyddogol gan y cyngor. Felly os ydych yn cynllunio datblygiad newydd, yn adeiladu eiddo newydd, yn trawsnewid eiddo presennol neu'n dymuno newid enw eich eiddo, rhaid i chi gysylltu â ni ar gyfer creu cyfeiriad neu i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.

Bydd methu â gwneud hyn yn golygu na fydd y cyfeiriad yn gyfeiriad swyddogol a bydd hyn yn arwain at broblemau. Er enghraifft, ni fydd y Post Brenhinol, cwmnïau dosbarthu neu wasanaethau cyfleustodau yn adnabod y cyfeiriad; ac efallai y ceir anawsterau wrth gofrestru i bleidleisio a dyrannu cardiau credyd. Hefyd, efallai bydd gwasanaethau Ambiwlans, Tân a Heddlu yn cael anhawster dod o hyd i'r cyfeiriad mewn argyfwng.

Dylid hefyd nodi bod gan y cyngor bŵer i orfodi newidiadau i gyfeiriadau answyddogol er mwyn sicrhau cydymffurfiad â chonfensiynau safonol a bod Polisi'r Cyngor ynghylch enwi a rhifo strydoedd yn cael ei gynnal. Mae'n well dweud wrth y cyngor am eich gofynion enwi a rhifo newydd cyn gynted â phosib.

Enwi a rhifo strydoedd - arweiniad a gweithdrefn (PDF) [111KB]

Cyflwyno cais am enwi neu ailenwi eiddo presennol

Nid oes angen i chi gyflwyno cais os ydych am ychwanegu enw at eiddo sydd eisoes wedi'i rifo. Fodd bynnag, os ydych yn ychwanegu enw at eiddo wedi'i rifo, mae'n rhaid i chi gofio dyfynnu rhif yr eiddo yn ystod yr holl ohebiaeth.

Cyflwyno cais am enwi a rhifo datblygiad newydd

Mae'r ffurflen hon ar gyfer enwi a rhifo eiddo neu ddatblygiad newydd.

Cyflwyno cais i newid enw a rhif eiddo

Dylid defnyddio'r ffurflen hon os oes angen cyfeiriad newydd o ganlyniad i drawsnewid eiddo. Mae hyn yn cynnwys eiddo sydd eisoes wedi'i rannu neu ei gyfuno ac mae'n cynnwys eiddo preswyl, masnachol a diwydiannol.

Cyflwyno cais i addasu enw neu rif cynllun datblygu wedi'i addasu

Dylid defnyddio'r ffurflen hon os bwriedir newid cynllun datblygu a bod y newidiadau wedi'u cymeradwyo gan yn adran gynllunio. Cynghorir datblygwyr safleoedd mawr i wneud gwaith fesul cam ac ystyried llif disgwyliedig rhifo eiddo.

Cyflwyno cais i ailenwi stryd ar gais preswylydd

Gellir defnyddio'r ffurflen hon i ofyn i stryd gael ei hailenwi. Bydd rhaid i o leiaf ddau draean o'r preswylwyr a'r perchnogion roi eu caniatâd cyn y gellir ystyried unrhyw gynigion ailenwi.

Cyflwyno cais am gadarnhau cyfeiriad

Gellir defnyddio'r ffurflen hon i wirio cyfeiriad.

Street naming and numbering team

Contact us if you have any queries about street naming and numbering and can't find the information online.
Close Dewis iaith