Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffïoedd ar gyfer gwasanaethau amlosgi

Manylion ynghylch gwasanaethau claddu

Ffïoedd amlosgi

Gwasanaeth safonol - £850

  • Dydd Llun i ddydd Gwener 9.30am tan 3.30pm (hyd at 3pm ar ddydd Gwener) i bobl 18+ oed
  • Hyd gwasanaeth safonol yw 30 munud, sy'n cynnwys yr amser i fynd i mewn i'r capel a'i adael;
  • Ni chynhelir unrhyw wasanaethau amlosgi yn y capel rhwng 1.00pm a 2.00pm;
  • Uchafswm maint arch (gan gynnwys dolenni) yw hyd at 88 modfedd o hyd x 33 modfedd o led x 20 modfedd o uchder

Mae'r ffi'n cynnwys:

  • Cerddoriaeth drwy system gerddoriaeth ddigidol (Obitus)
  • Gordal amgylcheddol;
  • Ffi canolwr meddygol
  • Y trefnydd angladdau/ymgeisydd/cynrychiolydd a enwyd yn casglu'r llwch
  • Blwch llwch bioddiraddadwy;
  • Storio llwch am un mis;
  • Tystysgrif amlosgi
  • Gwasgaru llwch yn y Gerddi Coffa heb dystion - dydd Llun i ddydd Gwener.

Amlosgi Uniongyrchol (neb yn bresennol) - £320

  • Dydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am a 9.15am i bobl 18+ oed
  • Ni chynhelir gwasanaeth
  • Ni chaniateir i unrhyw alarwyr fod yn bresennol.

Mae'r ffi'n cynnwys

  • Darn o gerddoriaeth wrth fynd i mewn i'r amlosgfa;
  • Gordal amgylcheddol;
  • Ffi canolwr meddygol;
  • Y trefnydd angladdau / ymgeisydd /cynrychiolydd a enwyd yn casglu'r llwch;
  • Blwch gweddillion amlosgedig bioddiraddadwy;
  • Storio gweddillion amlosgedig am un mis;
  • Tystysgrif amlosgi;
  • Gwasgaru gweddillion amlosgedig yn y Gerddi Coffa heb dystion - dydd Llun i ddydd Gwener.

Baban - colli beichiogrwydd cynnar - Dim ffi

  • Dydd Llun i ddydd Gwener 9.30am neu 10.30am
  • Hyd y gwasanaeth yw 30 munud, sy'n cynnwys yr amser i fynd i mewn i'r capel a'i adael;

Mae'r gwasanaeth am ddim yn cynnwys:

  • Cerddoriaeth drwy system gerddoriaeth ddigidol (Obitus);
  • Gordal amgylcheddol;
  • Ffi canolwr meddygol;
  • Os ceir gweddillion amlosgedig, bydd y trefnydd angladdau/ymgeisydd/cynrychiolydd a enwyd yn ei gasglu;
  • Wrn baban;
  • Storio gweddillion amlosgedig am un mis;
  • Tystysgrif amlosgi;
  • Gwasgaru gweddillion amlosgedig yn y Gerddi Coffa/Gardd Goffa'r Babanod, gyda thystion neu hebddynt - dydd Llun i ddydd Gwener.

Plentyn hyd at 17 oed - Dim ffi

  • Dydd Llun i ddydd Gwener 9.30am tan 3.30pm (hyd at 3pm ddydd Gwener)
  • Hyd y gwasanaeth yw 30 munud, sy'n cynnwys yr amser i fynd i mewn i'r capel a'i adael;

Mae'r gwasanaeth am ddim yn cynnwys:

  • Cerddoriaeth drwy system gerddoriaeth ddigidol (Obitus);
  • Gordal amgylcheddol;
  • Ffi canolwr meddygol;
  • Y trefnydd angladdau / ymgeisydd /cynrychiolydd a enwyd yn casglu'r llwch;
  • Blwch gweddillion amlosgedig bioddiraddadwy;
  • Storio gweddillion amlosgedig am un mis;
  • Tystysgrif amlosgi;
  • Gwasgaru gweddillion amlosgedig yn y Gerddi Coffa gyda thystion neu hebddynt - dydd Llun i ddydd Gwener.

Caiff yr holl amlosgiadau eu cynnal yn unol â Chôd Ymddygiad (Yn agor ffenestr newydd) Amlosgi y Ffederasiwn Awdurdodau Claddu ac Amlosgi (FBCA).

 

Ffïoedd amlosgi ychwanegol

Gwasanaeth dwbl - £410 (ac eithrio ffi amlosgi safonol)

  • 30 munud yn ychwanegol, dydd Llun i ddydd Sadwrn)

Gwasanaeth safonol ar ddydd Sadwrn - £395 (ac eithrio ffi amlosgi safonol)

  • 9.30am-12.00pm

Gwasgaru gweddillion amlosgedig ar ôl amlosgiad yn amlosgfa Abertawe

  • Gwasgariad di-dyst - Dim ffi
  • Tystio gwasgariad (Dydd Llun - Dydd Gwener) - £55.00
  • Tystio gwasgariad (Dydd Sadwrn) - £80.00

Gwasgaru gweddillion amlosgedig ar ôl amlosgiad mewn amlosgfeydd eraill

  • Gwasgariad tyst / di-dyst (Dydd Llun - Dydd Gwener) - £105.00
  • Gwasgariad tyst / di-dyst (Dydd sadwrn) - £130.00

Cerddoriaeth organ

  • Dewis o emynau Cymraeg a Saesneg i gael eu chwarae gan ein horganydd preswyl (talu yn uniongyrchol i'r organydd) - £31.00

Teyrngedau digidol yn ystod gwasanaeth

  • Llun un ddelwedd - llun unigol (eurgylch) o'r ymadawedig wedi'i arddangos ar sgriniau yn y capel drwy gydol y gwasanaeth (ar gael ar gais yn unig) - Dim ffi
  • Sioe Sleidiau Sylfaenol - sioe sleidiau gyda hyd at 25 o luniau mewn dolen - dim cerddoriaeth - £65.00
  • Sioe Sleidiau Cerddoriaeth - hyd at 25 o luniau wedi'u hamseru i'r gerddoriaeth a ddewiswyd, gyda delweddau'n diflannu ac yn ymddangos yn raddol - £85.00
  • Teyrnged â Thema - gallwch ddewis o amrywiaeth o themâu gyda hyd at 25 o luniau wedi'u golygu'n broffesiynol a'u hamseru i ddarn o gerddoriaeth ddethol - £115.00
  • Codir tâl am luniau ychwanegol - Ar gyfer pob 25 llun ychwanegol ar deyrnged weledol - £35.00
  • Fideo/teyrnged luniau a ddarperir gan y teulu - fe'i defnyddir fel y caiff ei dderbyn, a bydd darparwr allanol yn gwneud gwiriadau ansawdd sylfaenol - £35.00
  • Lawrlwythiad o deyrnged - Fersiwn lawrlwythiadwy o deyrnged i'w chadw am byth - £20.00
  • Codir tâl am lawrlwytho hwyr - £15.00

 ​​​​​Gweddarlledu

  • Gweddarllediad byw ac ar alw - gwasanaeth wedi'i ffrydio'n fyw; gall teuluoedd rannu'r ddolen ddiogel ag eraill i wylio'n fyw neu ar-lein am 28 niwrnod pellach. Ffeil lawrlwythiadwy wedi'i chynnwys heb unrhyw gost ychwanegol - £75.00

Cofroddion

  • Cofrodd - DVD / USB / Blu-ray / CD Sain - £75.00
  • Cofrodd - Copïau ychwanegol o'r DVD / USB / Blu-ray / CD Sain - £35.00
  • Llyfr Fideo - yn arddangos y gwasanaeth, y deyrnged neu'r ddau - £105.00
  • Blwch Atgofion - Blwch atgofion o'r ansawdd gorau gyda 25 o ffotograffau wedi'u hargraffu, cof bach (USB) a DVD fel cofrodd sy'n dangos y ffrydio byw/deyrnged fyw, neu'r ddau (os dewisir y ddau gynnyrch) - £145.00
  • Gwasanaethau i bobl ifanc (dan 18 oed): Gweddarllediad byw ac ar alw, llun lleugylch a sioe sleidiau sylfaenol o hyd at 25 o luniau - Dim Ffi
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Ebrill 2024