Toglo gwelededd dewislen symudol

Fframwaith siarter cwsmeriaid a safonau gwasanaeth

Mae Siarter Cwsmeriaid Cyngor Abertawe, ynghyd â'n Safonau Gwasanaeth cyhoeddedig, yn cyflwyno ein fframwaith ar gyfer egluro sut y byddwn yn bodloni disgwyliadau ein preswylwyr.

Siarter cwsmeriaid a safonau gwasanaeth (Word doc) [160KB]

Siarter cwsmeriaid

Mae'r fframwaith yn rhoi datganiadau clir a chryno, sy'n manylu ar ffyrdd y gallwn fesur a monitro lefelau gwasanaeth.

Mae'r Safonau Gwasanaeth yn egluro'r hyn a ddarperir gan bob gwasanaeth rheng flaen. Maent hefyd yn dweud faint o amser gymerwn ni i ddelio â'ch ymholiad. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn gwbl fodlon â'r gwasanaeth y byddwch yn ei dderbyn yn unol â'n Safonau.

Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i roi ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn ac rydym yn croesawu eich adborth ar sut y gallwn wella ein gwasanaethau.
Mae ein fframwaith Siarter Cwsmeriaid yn nodi beth yw ein haddewidion wrth i ni gyflenwi gwasanaethau o ansawdd uchel ar eich cyfer, a'r safonau gwasanaeth y byddwn yn eu darparu er mwyn i ni allu bodloni eich disgwyliadau.

Ein haddewidion

Byddwn yn:

  • Darparu gwasanaethau o ansawdd ar eich cyfer
  • Sicrhau ein bod yn defnyddio iaith glir a bod gennym staff wedi'u hyfforddi i ateb eich cwestiynau
  • Bod yn onest, yn ei gwneud yn hawdd i chi ddod atom, yn gwrtais, gan gadw eich anghenion wrth wraidd popeth a wnawn
  • Cydnabod ac yn ymateb o fewn yr amser a nodir yn ein Safonau Gwasanaeth
  • Ceisio ateb eich ymholiad wrth y pwynt cyswllt cyntaf a hysbysebir gennym lle bynnag y bo modd
  • Sicrhau bod yr wybodaeth a gewch yn gywir, yn gyfredol ac yn ddwyieithog lle bo angen
  • Darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen pan ofynnir amdanynt
  • Cyflenwi gwasanaethau mewn ffordd sy'n cynnig gwerth da am arian i'r gymuned
  • Eich cynnwys chi wrth ddylunio a chyflenwi ein gwasanaethau lle bynnag y bo modd

Pan fydd angen i chi gael mynediad at wasanaethau ar-lein, byddwn yn:

  • Darparu gwasanaethau ar-lein sy'n hawdd i chi eu defnyddio, yn hygyrch a dwyieithog, gyda'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch mewn un lle
  • Cyhoeddi ystod o gyfeiriadau gwe ac e-byst fel y gallwch gael mynediad cyflym at wasanaethau neu gysylltu â swyddogion
  • Rhoi gwasanaethau ar-lein diogel a dibynadwy i chi
  • Helpu'r preswylwyr hynny na allant ddefnyddio sianeli ar-lein gyda chefnogaeth wyneb yn wyneb a thros y ffôn

Os byddwch yn anfon e-bost atom, pan fyddwn yn ymateb, byddwn yn:

  • Eglur, yn defnyddio iaith glir, ac yn ymateb yn ddwyieithog lle bo'n briodol
  • Ymateb o fewn yr amser a nodir yn ein Safonau Gwasanaeth

Os byddwch yn ffonio'r Cyngor, byddwn yn: 

  • Ceisio ateb eich galwad mewn modd amserol
  • Cynnig opsiynau a gwybodaeth amgen ar gyfer cael mynediad at wasanaethau yn ystod cyfnodau prysur
  • Cynnig gwasanaethau yn Gymraeg ac mewn ieithoedd eraill

Pan fyddwch yn ymweld â'n swyddfeydd cyhoeddus, byddwn yn:

  • Darparu gofod hygyrch sydd ar agor yn ystod yr oriau a hysbysebir
  • Darparu awyrgylch croesawgar, cyfeillgar a chymwynasgar
  • Ceisio eich gweld o fewn 30 munud (os bydd rhaid i chi aros yn hirach, byddwn yn egluro pam)

Os byddwn yn ymweld â chi, byddwn yn:

  • Cyrraedd erbyn yr amser y cytunwyd arno ar gyfer yr apwyntiad (oni bai bod rhywbeth yn ein dal yn ôl, ac os felly byddwn yn cysylltu â chi)
  • Bod yn gymwynasgar, yn gwrtais ac yn eich trin â pharch ac urddas

Pan fyddwch yn siarad â'n staff, rydym yn disgwyl i chi:

  • Fod yn gymwynasgar, yn gwrtais a'n trin â pharch ac urddas
  • Deall y byddwn yn delio ag ymddygiad afresymol ac efallai y byddwn yn dod â'r sgwrs / ymweliad i ben, neu'n gweithredu ein Polisi Ymddygiad Cwsmer Afresymol os oes angen

Safonau gwasanaeth

Cais

Pan fyddwch yn cysylltu â'r Cyngor ynghylch:

Ymrwymiad y Cyngor i chi:

O fewn yr Amser Canlynol

Budd-daliadau - Budd-dal Tai (BT)

Gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai neu'n dweud wrthym am newid yn amgylchiadau eich cartref a allai effeithio ar gais presennol

Os ydych chi wedi rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn cyfrifo faint o BT y mae gennych hawl iddo ac yn dweud wrthych

28 niwrnod gwaith

Budd-daliadau - Gostyngiad Treth y Cyngor (GTC)

Gwneud cais newydd am GTC neu'n dweud wrthym am newid yn amgylchiadau eich cartref a allai effeithio ar gais presennol

Os ydych chi wedi rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn cyfrifo faint o GTC y mae gennych hawl iddo ac yn dweud wrthych

28 niwrnod gwaith

Budd-daliadau - Budd-dal Tai (BT) a Gostyngiad Treth y Cyngor (GTC)

Ymholiad hawliau / taliadau / effaith bosibl newid mewn amgylchiadau ar fudd-daliadau / gofyn am gyngor, cymorth

Byddwn yn egluro ein penderfyniadau / cyfrifiadau a'r rheoliadau mewn ffordd glir a chryno.

28 niwrnod gwaith

Budd-daliadau- Prydau Ysgol am Ddim (PYDd)

Gwneud cais newydd am PYDd neu ddweud wrthym am newid yn amgylchiadau eich cartref a allai effeithio ar ddyfarniad PYDd presennol

Os ydych wedi darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom ac rydym wedi gallu cael cadarnhad o'ch cymhwyster/diffyg cymhwyster gan yr Adran Gwaith a Phensiynau/CThEF, byddwn yn dweud wrthych os oes gennych hawl i PYDd.

7 niwrnod gwaith (i dderbyn y cadarnhad)

Torri rheolaeth gynllunio

Rhoi gwybod am waith lle nad oes gan eiddo ganiatâd cynllunio neu sydd wedi torri amod

Ymchwilio i'ch cwyn a'ch hysbysu o'r camau a gaiff eu cymryd

12 wythnos

Cais Rheoli Adeiladau

Cyflwyno ffurflen gais wedi'i chwblhau ar gyfer rheoliadau adeiladu

Cofrestru eich cais

O fewn 3 diwrnod gwaith

Arolygu gwaith adeiladu

Gofyn am Arolygiad

Cynnal arolygiadau tra bod y gwaith yn cael ei wneud a byddwn yn hapus i drafod rhaglen arolygu eich gwaith sy'n gweddu i chi.

Yr un diwrnod gwaith pan fo hynny'n bosibl, neu o fewn 24 awr i dderbyn y cais. Dyddiad yr arolygiad i'w drefnu.

Mynwentydd

 

Chwilio am fedd

Byddwn yn chwilio ym mynwentydd y Cyngor

 

O fewn 5 niwrnod gwaith

Amlosgfa

Ymholi am gynllun coffáu ar gyfer yr amlosgfa

Darparu gwybodaeth / costau a phrosesu'r cais

O fewn 5 niwrnod gwaith

Cofrestryddion

 

Ymholiad i gofrestru genedigaeth

Cynnig apwyntiad

O fewn 5 niwrnod gwaith

Tir ac eiddo masnachol

Chwilio am eiddo a thir y Cyngor sydd ar werth neu brydles

Byddwn yn eich hysbysu o eiddo a thir y Cyngor sydd ar gael. 

 

Cysylltu drwy e-bost o fewn 5 niwrnod gwaith. Cysylltu dros y ffôn o fewn 2 ddiwrnod gwaith os nad oes modd ateb eich galwad ac rydych yn gadael neges yn gofyn i ni eich ffonio'n ôl

 

Agendâu pwyllgorau

Dod o hyd i wybodaeth am unrhyw gyfarfod, megis cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, Cynllunio etc..

Byddwn yn cynghori ac yn eich helpu i chwilio am wybodaeth am eitemau yr adroddwyd arnynt i wahanol gyfarfodydd y Cyngor.

5 niwrnod gwaith

Cynghorwyr

 

Dod o hyd i wybodaeth am unrhyw un o'n 75 o gynghorwyr.

Byddwn yn cynorthwyo ac yn cynghori gydag ymholiadau megis dod o hyd i'ch cynghorydd lleol neu aelod cabinet perthnasol ar gyfer maes gwasanaeth.

3 diwrnod gwaith

Cwynion

Gwneud cwyn am unrhyw wasanaeth

Byddwn yn ymchwilio i'r gŵyn ac yn ymateb i chi. Rydym yn cymryd cwynion o ddifri ac yn eu defnyddio fel cyfle i wella ein gwasanaethau.

Cwynion corfforaethol:

Cam 1: 10 niwrnod gwaith

Cam 2: 20 niwrnod gwaith

Mae cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn Polisi penodol, defnyddiwch y ddolen

Tir sy'n eiddo i'r Cyngor

Ymholiadau cyffredinol gan gynnwys perchnogaeth

Byddwn yn eich hysbysu os yw tir yn eiddo i'r Cyngor ac yn cadarnhau meysydd cyfrifoldeb

Cysylltu drwy e-bost o fewn 5 niwrnod gwaith. Cysylltu dros y ffôn o fewn 2 ddiwrnod gwaith os nad oes modd ateb eich galwad ac rydych yn gadael neges yn gofyn i ni eich ffonio'n ôl

Treth y Cyngor

Adrodd am newid cyfeiriad / newid perchnogaeth neu feddiannaeth eiddo

Cymryd y manylion gennych a diweddaru'r systemau i allu cyflwyno'r bil cywir

28 niwrnod gwaith

Treth y Cyngor

Cais i dalu drwy ddebyd uniongyrchol

Cymryd y manylion gennych a sefydlu debyd uniongyrchol ar gyfer eich dewis chi o'r 4 dyddiad sydd ar gael

28 niwrnod gwaith

 

Treth y Cyngor

Dweud wrthym am eich anawsterau wrth geisio talu bil

Byddwn yn gwrando ac yn gwneud ein gorau i gytuno ar gynllun talu sy'n rhesymol ac yn dderbyniol gan y ddwy ochr. Byddwn hefyd yn cynnig eich cyfeirio am gyngor ariannol annibynnol ac yn dweud wrthych am Ostyngiad Treth y Cyngor

28 niwrnod gwaith

 

Treth y Cyngor

Gwneud taliad

Byddwn yn cymryd y taliad oddi wrthych yn brydlon

3 diwrnod

Adeiladau peryglus

Adrodd am adeilad peryglus.

 

Byddwn yn ymateb o fewn 3 awr / 24 awr yn dibynnu ar ddifrifoldeb.

 

Delio o fewn 3 awr â pheryglon sydd ar fin digwydd. Y diwrnod gwaith nesaf ar gyfer peryglon nad ydynt ar fin digwydd.

Baw cŵn / sbwriel

Rhoi gwybod am leoliadau lle mae baw cŵn a / neu sbwriel yn creu perygl a / neu niwsans

Cael gwared ar y niwsans a / neu'r perygl

Perygl - erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf

Niwsans - o fewn 5 niwrnod gwaith

Addysg: Ymholiadau Cyffredinol

Gofyn unrhyw gwestiwn ynglŷn â darpariaeth addysg yn Abertawe

Rhoi ymateb clir a chryno a / neu fynegbostio at yr ysgol / proses berthnasol

15 niwrnod gwaith

Addysg: Grant Gwisg Ysgol (Grant Hanfodion Ysgol)

Llinell gymorth i gefnogi'r broses ymgeisio am grant ar-lein

Rhoi cymorth i hawlwyr sy'n cael trafferth gyda'r broses ymgeisio ar-lein

15 niwrnod gwaith

Addysg:

Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (TADYCh)

Cysylltu ag aelod o'r Tîm TADYCh am wybodaeth, cyngor neu gymorth

Sicrhau ein bod yn cyhoeddi'r holl wybodaeth berthnasol ar ein gwefan

15 niwrnod ysgol (yn ystod tymor yr ysgol) neu 28 niwrnod calendr (yn ystod gwyliau'r ysgol)

Addysg:

Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (TADYCh)

Ymholiadau cyffredinol i'r tîm

Sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael ar ein gwefan.

Ateb e-byst yn ymwneud â chwestiynau penodol

Darparu gwasanaethau cyfyngedig dros y ffôn i'r rhai nad oes ganddynt fynediad at y we neu e-bost

15 niwrnod ysgol i ymateb i ymholiadau e-bost

Bydd y llinell ffôn ar agor rhwng 10.00am a 12 ganol dydd a rhwng 2.00pm a 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Addysg: Derbyn i Ysgolion

Gwneud cais i newid ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol

Ysgrifennu atoch gyda chanlyniad eich cais yn unol â'n hamserlenni

15 niwrnod ysgol (yn ystod tymor yr ysgol) neu 28 niwrnod calendr (yn ystod gwyliau'r ysgol)

Gwneud cais am le mewn ysgol gan eich bod wedi symud i'r ardal

Ysgrifennu atoch gyda chanlyniad eich cais yn unol â'n hamserlenni

15 niwrnod ysgol (yn ystod tymor yr ysgol) neu 28 niwrnod calendr (yn ystod gwyliau'r ysgol)

Gwneud cais am le mewn ysgol ar gyfer mynediad i ddosbarth derbyn neu flwyddyn 7

Sicrhau ein bod yn cyhoeddi'r holl wybodaeth berthnasol ar ein gwefan ac yn ysgrifennu atoch yn uniongyrchol os ydych chi wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd gydag ysgol yn Abertawe

 

Ymholiadau cyffredinol am fynediad i ysgolion

Sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael ar ein gwefan.

Ateb e-byst yn ymwneud â chwestiynau penodol

Darparu gwasanaethau cyfyngedig dros y ffôn i'r rhai nad oes ganddynt fynediad at y we neu e-bost

10 niwrnod gwaith i ymateb i ymholiadau e-byst

Bydd y llinell ffôn ar agor rhwng 10.00am a 12 ganol dydd a rhwng 2.00pm a 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc)

Eiddo gwag

Rhoi gwybod am eiddo gwag sy'n agored i fynediad

Byddwn yn ymweld â'r eiddo, yn ceisio adnabod a chysylltu â'r perchennog a sicrhau bod yr eiddo yn cael ei ddiogelu os oes risg o fynediad heb awdurdod.

Ymweld â'r eiddo o fewn 2 ddiwrnod gwaith

Ymholiadau neu gwynion yn ymwneud ag hylendid bwyd

Gwneud cwyn, cyflwyno ymholiad neu gais am wasanaeth

 

Ymchwilio i'r gŵyn, ymateb i'r ymholiad neu'r cais am wasanaeth a chymryd camau priodol

Bydd swyddogion yn ymateb i'ch cwyn, ymholiad neu gais am wasanaeth o fewn 5 niwrnod gwaith iddo ddod i law

Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth yn ysgrifenedig

Ar ôl i gais ysgrifenedig am wybodaeth wedi'i chofnodi ddod i law, bydd y Cyngor yn eich hysbysu a yw'r wybodaeth honno gan y Cyngor ai peidio. Byddwn yn darparu'r wybodaeth yn y ffordd y gofynnwyd amdani.

20 niwrnod gwaith

Grantiau a chyllid

Cael gwybod am opsiynau neu gyfleoedd cyllido grantiau

Helpu i'ch mynegbostio i'r ffynonellau cyllido mwyaf priodol

O fewn 28 niwrnod gwaith ar gyfer y cais cychwynnol

Torri lleiniau glaswellt

Rhoi gwybod ble mae glaswellt hir yn atal gyrwyr rhag gweld yn iawn gan achosi perygl

Torri glaswellt yn ôl yr angen

O fewn 5 niwrnod gwaith

Cyngor a chwynion Iechyd a Diogelwch

Gwneud cwyn, cyflwyno ymholiad neu gais am wasanaeth

 

Ymchwilio i'r gŵyn, ymateb i'r ymholiad neu gais am wasanaeth a chymryd camau priodol

Bydd swyddogion yn ymateb i'ch cwyn, ymholiad neu gais am wasanaeth o fewn 5 niwrnod gwaith iddo ddod i law

Priffyrdd: Teithio Llesol

Ymholiadau cyffredinol

Sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael ar ein gwefan.

Ateb e-byst yn ymwneud â chwestiynau penodol.

Bydd swyddogion yn ymateb i'ch ymholiad, cwyn neu gais am wasanaeth o fewn 10 niwrnod gwaith iddo ddod i law

Priffyrdd: Achos Brys

Rhoi gwybod am sefyllfa frys beryglus ar y Briffordd

Ymateb o fewn 4 awr / 24 awr yn dibynnu ar ddifrifoldeb.

Priffyrdd: Adduned Tyllau yn y Ffordd

Rhoi gwybod am dwll yn y ffordd

Byddwn yn atgyweirio'r twll yn y ffordd os oes modd.

48 awr i weithredu a 48 awr arall i ymateb pan ddarperir cyfeiriad e-bost.

Cais am Wasanaeth Priffyrdd

Rhoi gwybod am geisiadau am waith neu wasanaeth arferol, rhew, cyflwr ffordd, llifogydd etc.

Cofnodi'r alwad, ymchwilio, cymryd y camau priodol.

Nid oes amser ymateb penodol ar gyfer diffygion nad ydynt yn peri risg diogelwch. Bydd rhaglenni gwaith arferol yn mynd i'r afael â'r rhain.

Trwyddedu Tai Amlfeddiann-aeth

Gwneud cais am drwydded neu ofyn am amrywiad ar drwydded bresennol

Cofnodi'r cais a chysylltu â chi i gadarnhau manylion, cymryd taliad ac egluro'r camau nesaf.

O fewn 10 niwrnod gwaith i chi gyflwyno'ch cais.

Safonau Tai

Rhoi gwybod am broblemau gyda chyflwr eich eiddo wedi'i rentu'n breifat

Cymryd y manylion gennych, gan gynnwys manylion eich landlord / asiant, rhoi cyngor i chi a threfnu archwiliad o'r eiddo, ar ôl cysylltu â'ch landlord / asiant.

Cysylltu â chi i drefnu archwiliad o fewn 5 niwrnod gwaith ar ôl eich adroddiad.

Tai

Ymholiadau cyffredinol

Byddwn yn cyfeirio eich ymholiad at yr adran / tîm cywir

 

Ymholiadau e-bost cyffredinol: cydnabyddiaeth gychwynnol o fewn 1 diwrnod gwaith ac ymateb llawn o fewn 10 niwrnod gwaith gan y tîm perthnasol.

Tai

Cais am Dŷ

Bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â'n Polisi Dyrannu Tai.

30 niwrnod gwaith

Tai

Gwneud cais Digartrefedd

Os ydych mewn perygl o ddigartrefedd, cysylltwch ag Opsiynau Tai a byddwn yn cymryd manylion cychwynnol gennych ac yn trefnu i weithiwr achos digartrefedd gysylltu â chi er mwyn cynnal asesiad.

Ar y diwrnod os byddwch yn ddigartref y noson honno.

 

10 niwrnod gwaith os ydych chi mewn perygl o ddigartrefedd

Tai

Trafod eich cyfrif rhent

Byddwn yn cynnig cyngor a chymorth os ydych chi'n cael trafferth talu eich rhent, neu os oes gennych ymholiad ynglŷn â'ch cyfrif.

Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 5 niwrnod gwaith i drafod eich ymholiad

Tai

Rhoi gwybod am waith atgyweirio

Byddwn yn ymateb i'ch cais ac yn delio â'ch gwaith atgyweirio.

Categorïau Atgyweirio:

A - Atgyweiriadau mewn argyfwng - Ymweld a'i wneud yn ddiogel o fewn 24 awr. Gwasanaeth y tu allan i oriau ar gael

B - Atgyweiriadau brys - eu cwblhau o fewn 5 niwrnod gwaith

C - Heb frys - eu cwblhau o fewn 20 diwrnod gwaith (efallai bydd angen eu harchwilio ymlaen llaw)

D - Atgyweiriadau Arbenigol - eu cwblhau o fewn 80 diwrnod gwaith (efallai bydd angen eu harchwilio ymlaen llaw)

Cynhelir archwiliadau ymlaen llaw drwy apwyntiad a drefnir gyda'r tenant

Lleithder a llwydni - cynhelir archwiliad o fewn 5 diwrnod a'r gwaith sydd angen ei wneud o fewn 20 diwrnod gwaith

Tai

Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau cyngor

Bydd naill ai'r Swyddfa Tai Rhanbarthol neu'r Uned Cefnogi Cymdogaethau yn ymateb i'ch cwyn gyntaf

Byddwn yn ymateb i'ch adroddiad cychwynnol o fewn 5 niwrnod gwaith os byddwch yn gadael enw a chyfeiriad.

Tai

Gofyn am gymorth gan yr Uned Cefnogi Tenantiaid

Bydd yr Uned Cefnogi Tenantiaid yn rhoi cymorth a chyngor sy'n gysylltiedig â thai i berchnogion tai, tenantiaid cymdeithasau tai, tenantiaid cyngor a'r rhai sy'n rhentu o'r sector preifat.

Cynhelir asesiad cychwynnol o'r anghenion cymorth o fewn 5 niwrnod gwaith.

Tai

Rhaglen Gwelliannau Mawr i Dai Cyngor

 

Rhoi cyngor ac arweiniad i denantiaid eiddo'r cyngor ynghylch gwaith atgyweirio a gwella mawr sy'n cael ei wneud neu ei gynnig yn y dyfodol

Bydd e-bost yn cael ei ateb o fewn 5 niwrnod gwaith

Tai

 

Adnewyddu - holi am grantiau a benthyciadau ar gyfer e.e. addasiadau i Dai Cyngor, Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a gwaith atgyweirio e.e. Benthyciad HomeFix a benthyciadau gan Lywodraeth Cymru

Rhoi cyngor a chymorth cychwynnol ynghylch y mathau o gymorth sydd ar gael a mynegbostio i'r gwasanaeth mwyaf addas. Cynorthwyo'r cleient i wneud cais am y math hwnnw o gymorth.

Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 10 niwrnod gwaith i gwblhau ymholiad cychwynnol ar gyfer grantiau tai / cymorth benthyciadau.

Chwiliadau tir

Gwneud cais am chwiliad CON29 Awdurdodau Lleol, am gopïau dogfennau, gwneud taliadau ac ymholiadau ynglŷn â chwiliadau

Rydym yn cynnal chwiliadau tir lleol sy'n rhan o'r broses trawsgludo eiddo. Mae'n caniatáu i ddarpar brynwyr eiddo a benthycwyr morgeisi ddod o hyd i'r wybodaeth sydd gennym mewn perthynas ag eiddo.

10 niwrnod gwaith

Trwyddedu

Cyflwyno cais wedi'i gwblhau ar gyfer trwydded

----------------------

Gwneud cwyn, cyflwyno ymholiad neu gais am wasanaeth

 

 

 

 

Cofnodi'r cais a'i brosesu yn unol â gofynion statudol

-----------------------------

Ymchwilio i'r gŵyn, ymateb i'r ymholiad neu'r cais am wasanaeth a chymryd camau priodol

Bydd ceisiadau'n cael eu prosesu yn unol ag amserlenni statudol lle bo hynny'n berthnasol

-------------------

Bydd swyddogion yn ymateb i'ch cwyn, ymholiad neu gais am wasanaeth o fewn 5 niwrnod gwaith iddo ddod i law

Biniau sbwriel/cŵn

Rhoi gwybod am leoliadau lle mae biniau baw cŵn / sbwriel yn gorlifo ac yn creu perygl a / neu niwsans

Cael gwared ar y niwsans a'r / neu'r perygl

Perygl - erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf

Niwsans - o fewn 5 niwrnod gwaith

Cynllun Datblygu Lleol

Deall, gofyn cwestiynau ynghylch Cynllun Datblygu lleol Abertawe a chymryd rhan yn y gwaith o'i gynhyrchu

Rhoi cyngor a chyfle clir, cyson i'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol er mwyn iddynt fod yn gyfranogwyr gweithredol yn y broses CDLl yn unol â'r Cynllun Cyfraniad Cymunedol y cytunwyd arno

Ymateb i ymholiadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith

Niwsans sŵn a Llygredd

Rhoi gwybod am broblem yn ymwneud â sŵn, dŵr, llygredd tir neu aer

Cymryd y manylion gennych ac ymchwilio a chymryd y camau priodol

Bydd swyddog yn cysylltu â chi am ragor o wybodaeth, lle bo angen o fewn 5 niwrnod gwaith.

Apêl tocyn parcio

Pan fyddwch yn gwneud sylwadau yn ysgrifenedig yn apelio yn erbyn derbyn Hysbysiad o Dâl Cosb

Ystyried eich rhesymau dros apelio yn erbyn y Tocyn Parcio a gwneud penderfyniad i naill ai gynnal neu wrthod y sylwadau hyn.

Apêl Cyn Hysbysiad i'r Perchennog - ymateb yn ysgrifenedig o fewn 6 mis.

Apêl ar ôl Hysbysiad i'r Perchennog - ymateb yn ysgrifenedig o fewn 56 diwrnod

Pasbort i Hamdden (PIH)

Gwneud cais newydd am PIH neu ddweud wrthym am newid yn amgylchiadau eich cartref a allai effeithio ar PIH yr ydych eisoes yn ei ddal

Os ydych chi wedi darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn penderfynu a oes gennych hawl i PIH ac yn dweud wrthych

 28 niwrnod gwaith

Creu Lleoedd a Threftadaeth

Cael cyngor neu wybodaeth yn ymwneud â chreu lleoedd a threftadaeth yn Abertawe, gan gynnwys ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth ac Asedau Gwarchodedig Treftadaeth megis Adeiladau Rhestredig

Rhoi cyngor a gwybodaeth glir a chyson

Ymateb i ymholiadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith

Cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio

Egluro sut y mae'r gwasanaeth Cyn Ymgeisio yn gweithio, gan gynnwys y gwahanol fathau o Gyn ymgeisio a gwneud Taliadau

Rhoi cyngor clir a chryno ar ddichonoldeb y cynigion a gyflwynwyd

 

1. Gwasanaeth cyngor Statudol - o fewn 21 diwrnod i gyflwyno cais dilys

2. Gwasanaeth cyngor Anstatudol - o fewn 28 niwrnod i gyflwyno cais dilys neu fel y cytunwyd ar gyfer cynlluniau mwy o faint.

Ceisiadau cynllunio

Egluro sut y mae'r broses ceisiadau cynllunio yn gweithio, diweddariadau ar geisiadau cynllunio, gofyn am ffurflenni cais a thalu ffioedd cynllunio

Prosesu cymaint o geisiadau â phosibl o fewn targedau Statudol, cymeradwyo datblygiadau a aseswyd yn erbyn polisïau cynllunio cyfredol sy'n dwyn manteision cymdeithasol ac economaidd i bob preswylydd a chymuned yn Abertawe

56 diwrnod (ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau)

Lleoedd Chwarae - peryglus

Rhoi gwybod am leoedd chwarae lle credir bod peryglon yn bodoli

Cael gwared â'r hyn sy'n achosi'r perygl

Perygl - cyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf

Rheoli Plâu

 

 

Os oes gennych broblem gyda phlâu megis llygod, llygod mawr, chwain a gwenyn meirch, gallwch drefnu ymweliad gan y tîm rheoli plâu drwy gwblhau'r ffurflen ymholiad ar-lein.

Trefnu ymweliad gan swyddog rheoli plâu ar ôl derbyn taliad y ffi berthnasol, oherwydd codir tâl am y rhan fwyaf o'n gwasanaethau.

Oherwydd nifer y galwadau y mae'r gwasanaeth rheoli plâu yn ei dderbyn, gall gymryd hyd at 10 niwrnod gwaith o ddyddiad yr ymholiad i drefnu ymweliad

Iechyd Porthladd

 

 

Gwneud cwyn, cyflwyno ymholiad neu gais am wasanaeth

 

Ymchwilio i'r gŵyn, ymateb i'r ymholiad neu'r cais am wasanaeth a chymryd camau priodol

Bydd swyddogion yn ymateb i'ch cwyn, ymholiad neu gais am wasanaeth o fewn 5 niwrnod gwaith iddo ddod i law

Cofrestru i bleidleisio / Etholiadau / Pleidleisio

Holi am swyddi gwag, a sefyll mewn etholiad

Byddwn yn rhoi cyngor i chi yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Byddwn yn dilyn amserlenni statudol yn ystod cyfnod yr etholiad, fel arall byddwn yn ymateb o fewn 5 niwrnod gwaith

Holi am etholiadau yn eich ardal a sut a ble i bleidleisio

Byddwn yn eich hysbysu o'r drefn gywir a ble a phryd i bleidleisio

O fewn 3 diwrnod gwaith

Rhoi gwybod am newid enw, cyfeiriad, ychwanegu neu dynnu etholwr o'ch eiddo

Byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau'r newid

O fewn 28 niwrnod

Holi am eich manylion cofrestru

Byddwn yn cadarnhau eich statws cofrestru

O fewn 3 diwrnod gwaith

Ymholiadau cyffredinol am fynediad i ysgolion

Sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael ar ein gwefan.

Ateb e-byst yn ymwneud â chwestiynau penodol.

Darparu gwasanaethau cyfyngedig dros y ffôn i'r rhai nad oes ganddynt fynediad at y we neu e-bost

10 niwrnod gwaith i ymateb i ymholiadau e-byst

Bydd y llinell ffôn ar agor rhwng 10.00am a 12 ganol dydd a rhwng 2.00pm a 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc)

Talu am Ofal Cymdeithasol i Oedolion - Gofal Preswyl

Gwneud cais newydd am help tuag at gostau Gofal Cymdeithasol Preswyl neu ddweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar gais presennol.

Os ydych chi wedi rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn cyfrifo faint o gymorth y mae gennych hawl iddo ac yn egluro sut yr ydym wedi dod i'n penderfyniad.

 

28 niwrnod gwaith

Talu am Ofal Cymdeithasol i Oedolion - Gofal Dibreswyl

Gwneud cais newydd am help tuag at gostau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl neu ddweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar gais presennol.

Os ydych chi wedi rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn cyfrifo faint o gymorth y mae gennych hawl iddo ac yn egluro sut yr ydym wedi dod i'n penderfyniad.

 

28 niwrnod gwaith

 

Gofal Cymdeithasol - Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD)

Cael gwybodaeth am ofal plant a chyllid gofal plant.

Ceisio arweiniad/cyngor ar eich cyfer chi a'ch teulu ifanc ar unrhyw bwnc

I ddarparu gwybodaeth am ofal plant cofrestredig yn Abertawe. Gwybodaeth i helpu gyda chost gofal plant. Arweiniad a chyfeirio at unrhyw wasanaeth arall a all effeithio arnoch chi a'ch teulu ifanc.

Dydd Llun- dydd Iau 9am - 5pm

Dydd Gwener 9am - 4.30pm.

Yn ystod diwrnod gwaith ymateb 24-awr.

Gofal Cymdeithasol - Ariannu Taliadau Uniongyrchol

Holi ochr Ariannol Taliadau Uniongyrchol

 

Bydd y Gyfarwyddiaeth Gyllid yn gwneud taliadau fel y cyfarwyddir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn seiliedig ar gynllun cymorth y cleient.

28 niwrnod gwaith ar ôl derbyn y cyfarwyddyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol

Gofal Cymdeithasol - Taliadau Gofal plant

Holi ochr Ariannol Taliadau Gofal Plant gan gynnwys Maethu, Gwarcheidiaethau Arbennig a Mabwysiadu

Bydd y Gyfarwyddiaeth Gyllid yn gwneud taliadau fel y cyfarwyddir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn seiliedig ar gynllun cymorth y cleient.

28 niwrnod gwaith ar ôl derbyn y cyfarwyddyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol

Talu am Ofal Cymdeithasol i Oedolion -

Gwneud taliad

Byddwn yn cymryd y taliad oddi wrthych yn brydlon

3 diwrnod

Gofal Cymdeithasol i Oedolion

 

 

Gwybodaeth, cyngor neu gymorth

Rhoi gwybod am bryder diogelu

Byddwn yn gweithio gyda chi i fyw'n dda ac yn ddiogel yn ein cymuned

Byddwn yn ymateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith dros y ffôn neu drwy e-bost.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwneud sylw neu gŵyn am y Gwasanaethau Cymdeithasol neu eu canmol

 

Pan fydd pethau'n mynd o'i le ac mae defnyddiwr gwasanaeth, neu rywun sy'n pryderu digon am eu lles, am wneud cwyn, mae'r gyfraith yn dweud bod gennych hawl i leisio'ch barn am y Gwasanaethau Cymdeithasol

Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cwyn o fewn 10 niwrnod gwaith. Byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn 5 niwrnod gwaith i'r dyddiad penderfynu, gan gadarnhau'r canlyniad.

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Gofyn am wybodaeth, cyngor neu gymorth neu roi gwybod am bryder diogelu

Gallwn helpu teuluoedd i gael cymorth gan y bobl iawn ar yr adeg iawn i fyw bywydau hapus, iach a diogel

Byddwn yn ymateb o fewn 48 awr dros y ffôn neu drwy e-bost

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Sut i ddod yn ofalwr maeth

Rydym yn darparu cymorth pwrpasol ar eich taith faethu, o hyfforddiant arbenigol i lwfansau ariannol, felly dydych chi byth ar eich pen eich hun

Byddwn yn ymateb i'ch ymholiad cychwynnol o fewn 24 awr

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Sut i ddod yn rhiant sy'n mabwysiadu

Mae Gwasanaethau Mabwysiadu Bae'r Gorllewin yn cynnig cymorth nid yn unig i fabwysiadwyr sy'n mynd drwy'r asesiad ond hefyd i bobl ifanc mabwysiedig y mae mabwysiadu yn effeithio arnynt

Byddwn yn ymateb i'ch ymholiad cychwynnol o fewn 5 niwrnod gwaith

Cŵn Strae

Rhoi gwybod am gi sy'n crwydro'n rhydd yn eich ardal neu gysylltu â ni i weld a yw eich ci wedi'i godi gan y Warden Anifeiliaid

Byddwn yn cymryd y manylion gennych ac yn ceisio casglu ci sy'n crwydro'n rhydd neu'n gwirio ein cofrestr i gadarnhau a yw eich ci strae wedi'i godi. Byddwn yn cymryd y ffi rhyddhau gennych chi ac yn esbonio sut y gallwch gasglu eich ci sydd wedi'i ffaldio.

Byddwn yn ymateb o fewn 1 diwrnod gwaith

Safonau Masnach

Gwneud cwyn, cyflwyno ymholiad neu gais am wasanaeth

Ymchwilio i'r gŵyn, ymateb i'r ymholiad neu'r cais am wasanaeth a chymryd camau priodol

Bydd swyddogion yn ymateb i'ch cwyn, ymholiad neu gais am wasanaeth o fewn 5 niwrnod gwaith iddo ddod i law

Coed - peryglus

Rhoi gwybod am goed yr ystyrir eu bod yn achosi perygl

Cael gwared ar y perygl

Perygl Dybryd - erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf

Perygl nad yw'n ddybryd - o fewn 5 niwrnod gwaith

Gwastraff ac ailgylchu: Casgliadau sbwriel â chymorth

Pan na fydd holl breswylwyr eiddo yn gallu gosod eu sbwriel allan i'w gasglu oherwydd anabledd neu eiddilwch

Bydd ein tîm sbwriel yn cael ei hysbysu a byddant yn cytuno ar le diogel ar y safle i gasglu'r bagiau / biniau

Ar ddiwrnod arferol casglu eich biniau, (Llun-Gwener)

Casgliadau Sbwriel a gollwyd

Rhoi gwybod nad yw  eich sbwriel, a osodwyd yn gywir ac ar amser, wedi'i gasglu ar y diwrnod casglu cywir, gan roi eich manylion cyswllt

Os y gwnaethoch osod eich sbwriel yn gywir ac ar amser, bydd ein Tîm Sbwriel yn dychwelyd i'w gasglu

O fewn 5 niwrnod gwaith

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Ebrill 2024