Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyfle olaf i fwynhau mynd ar fysus am ddim yn yr haf.

Mae miloedd o deuluoedd wedi achub ar y cyfle i fwynhau teithiau am ddim ar fysus yn Abertawe yn ystod gwyliau hir yr haf.

Buses at Swansea Bus Station

Mae'r fenter arloesol wedi bod yn hynod boblogaidd dros yr haf, gan alluogi pobl i fynd ar daith i'r traeth, mynd i siopa yng nghanol y ddinas neu fynd am ddiwrnod allan gyda ffrindiau.

A chyda llu o bethau i'w gwneud dros benwythnos gŵyl y banc, mae un cyfle olaf i chi ddewis beth hoffech chi ei wneud, a gwneud yn fawr ohono drwy deithio yno ar fws am ddim.

Mae'r penwythnos bysus am ddim yn dechrau ddydd Gwener ac yn gorffen ddydd Llun gŵyl y banc a dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Er bod y tywydd wedi ein siomi o bryd i'w gilydd, mae hi wedi bod yn haf gwych i deuluoedd sy'n chwilio am ffyrdd rhad neu am ddim o fwynhau eu hunain.

"Mae'r adborth rydym wedi'i gael yr haf hwn yn awgrymu bod y cynnig teithio am ddim wedi bod yn fwy llwyddiannus nag erioed ac mae'n wych gweld hynny.

"Fe gyflwynom y fenter arloesol hon i gefnogi teuluoedd a busnesau wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Ond mae wedi dod i fri yn ystod yr argyfwng costau byw i helpu cynifer o bobl i gael deupen llinyn ynghyd.

"Mae hefyd wedi helpu i roi hwb i fusnesau yng nghanol y ddinas ac yn ein cyrchfannau arfordirol."

Mae ffigurau'r cyngor yn dangos bod bron 214,000 o bobl wedi manteisio ar y cynnig rhwng Gorffennaf ac Awst wedi iddo gael ei lansio yn ystod haf 2021. Cynyddodd y ffigur hwnnw i fwy na 222,000 ar gyfer yr un cyfnod yr haf canlynol.

Mae rhagor o wybodaeth am fysus am ddim yn Abertawe i'w chael yma: https://www.abertawe.gov.uk/bysusamddim