Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau hanfodol yn cael hwb gwerth £9m

Gallai gwasanaethau hanfodol a phrosiectau cymunedol ar draws Abertawe gael mwy na £9 miliwn mewn cyllid ychwanegol.

clydach play area official opening

Mae Cabinet Cyngor Abertawe'n bwriadu buddsoddi £9.7 miliwn gan gynnwys £6 miliwn ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol sydd dan bwysau cynyddol yn sgil mwyfwy o alw a chostau cynyddol.

Gallai saith prosiect pellach hefyd dderbyn cyllid untro i roi hwb i ffyrdd, teithio a chyfleusterau hamdden.

Dyma'r pecyn cyllid arfaethedig:

·       £6 miliwn ar gyfer pwysau gofal

·       £1m yn ychwanegol  ar gyfer y gronfa buddsoddi cymunedol i gefnogi mwy o brosiectau.

·       £1m i wella arwynebedd ffyrdd

·       £1m yn ychwanegol ar gyfer cyfleusterau parc sglefrio

·       £200,000 i gefnogi teithio ar fysus am ddim yn ystod gwyliau haf yr ysgol.

·       £200,000 ar gyfer llwybrau hygyrch mewn parciau.

·       £150,000 ar gyfer y cynlluniau cymorth bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol.

·       £60,000 ar gyfer cyfarpar newydd i gynnal a chadw llwybrau teithio llesol

Dangosodd adroddiad i Gabinet y Cyngor fod tanwariant yng nghronfa wrth gefn y llynedd ac yng nghronfa adferiad economaidd y Cyngor ochr yn ochr â thanwario mewn nifer o adrannau wedi caniatáu ar gyfer cyllid untro i'w roi i brosiectau eraill eleni.

Ac eithrio'r £9.7m a glustnodwyd ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol a blaenoriaethau eraill, roedd £600,000 eisoes wedi'i ddyrannu i'r adran Priffyrdd, £400,000 arall i ysgolion a £2m pellach wedi'i ychwanegu at gronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Gorffenaf 2024