Toglo gwelededd dewislen symudol

Fy Nhai

Porth tai newydd ar-lein ar gyfer tenantiaid Cyngor Abertawe.

Crëwch gyfrif tai personol y gallwch ei ddefnyddio ar adeg sy'n gyfleus i chi. Gallwch ei gyrchu o'ch ffôn clyfar, eich tabled neu'ch cyfrifiadur personol, dim ots ble rydych chi.

Cofrestru / mewngofnodi: https://tai.abertawe.gov.uk (Yn agor ffenestr newydd)

Fy Nhai - sut i greu eich cyfrif (PDF) [1MB]

Mae cofrestru'n hawdd. Bydd angen i chi roi eich:

  • enw
  • cyfeiriad
  • dyddiad geni
  • rhif tenantiaeth
  • cyfeiriad e-bost

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwn yn anfon côd dilysu atoch sy'n caniatáu i chi fewngofnodi. Gallai hyn gymryd hyd at 2 ddiwrnod gwaith.

Byddwch yn gallu:

  • talu'ch rhent
  • gweld balans eich rhent a'ch trafodion
  • lawrlwytho ac argraffu datganiadau rhent
  • adrodd am atgyweiriadau a monitro unrhyw atgyweiriadau rydych wedi adrodd amdanynt
  • diweddaru'ch manylion personol
  • anfon negeseuon atom neu adrodd am faterion rheoli tai

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, e-bostiwch