Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Gadael tai'r cyngor

Os ydych yn ystyried dod â'ch contract meddiannaeth i ben, rhaid i chi wneud rhai pethau cyn gadael.

Rhaid i chi roi o leiaf 4 wythnos o rybudd i ni cyn eich bod yn bwriadu dod â'ch contract i ben. 'Rhybudd' yw hwn, ac mae'n rhaid ei roi i ni yn ysgrifenedig, gan nodi'r dyddiad yr ydych yn bwriadu i'r contract ddod i ben ac mae'n rhaid i chi ei lofnodi. 

Os ydych yn gyd-denant mae angen i bob tenant lofnodi'r rhybudd er mwyn iddo fod yn ddilys. Os mai dim ond un cyd-denant sy'n llofnodi'r rhybudd, caiff ei drin fel rhybudd bod y tenant am dynnu'n ôl o'r contract. 

Rhaid talu'r rhent tan i'r contract ddod i ben.

Wrth adael yr eiddo, rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Symud unrhyw eiddo sy'n perthyn i chi neu unrhyw un sy'n byw yn yr eiddo. 
  2. Gadael yr eiddo yn yr un cyflwr ag yr oedd ar yr adeg y dechreuoch y contract. 
  3. Dychwelyd unrhyw allweddi ar gyfer yr eiddo. Rhaid dychwelyd yr allweddi erbyn 12 ganol dydd y diwrnod ar ôl i'r contract ddod i ben.

Peidiwch â gadael unrhyw un ar ôl

  • Ni ddylech adael unrhyw un ar ôl yn yr eiddo pan fyddwch yn symud allan.

Cael gwared ar unrhyw eitemau a adewir ar ôl

  • Os byddwch yn gadael unrhyw eiddo personol yn yr eiddo, mae gennym yr hawl i gael gwared arnynt. Codir isafswm o £50 arnoch am gael gwared ar eiddo.

Gwaith atgyweirio neu amnewid

  • Mae'n rhaid i chi dalu am waith atgyweirio neu amnewid os yw difrod wedi'i achosi'n fwriadol neu drwy eich esgeulustod eich hun. Byddwch yn derbyn anfoneb mewn perthynas â difrod o'r fath (os oes unrhyw ddifrod) pan fyddwch yn dod â'r contract i ben. Ni fydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw draul arferol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch dod â'ch contract meddiannaeth i ben, cysylltwch â'ch swyddfa dai ardal leol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Chwefror 2023